Sŵoleg a Microbioleg


CC35 - 3 blynedd (neu 4 mlynedd drwy C990 Gwyddorau Bywyd)

Allwch chi ddim gosod pynciau biolegol mewn blychau ar wahân bob amser. Un enghraifft o hyn yw’r man lle mae sŵoleg a microbioleg yn cydgyfarfod, gan fod ymddygiad microbau yn effeithio cymaint ar fodau dynol a’r anifeiliaid sy’n bwysig i ni, ym meysydd amaeth, chwaraeon ac anifeiliaid anwes. Mae’r rhyngweithio rhwng y ddwy ddisgyblaeth i’w weld ar ei amlycaf ym maes meddygaeth a milfeddygaeth; yn wir does ond rhaid i chi edrych ar y cyfryngau i weld nifer o enghreifftiau o hyn, e.e. y dadleuon diweddar am ffliw adar, clwy’r traed a’r genau, clefyd y llengfilwyr a datblygiad ymwrthedd i wrthfiotigau mewn microbau. Mae hyn oherwydd bod lles pobl ac anifeiliaid yn cael ei fygwth yn gyson gan barasitiaid microbaidd, protistiaid a ffyngau, ac mae llawer i’w ddysgu eto am amddiffyniad  y corff yn eu herbyn. Ceir hefyd nifer o enghreifftiau o gysylltiadau llesol rhwngmicrobau ac anifeiliaid, fel yn y rwmen, rîffiau cwrel a nythfeydd termitiaid.

Cynlluniwyd y radd Sŵoleg a Microbioleg yn Aberystwyth i roi dealltwriaeth i’n myfyrwyr o gysyniadau allweddol ac egwyddorion sylfaenol y ddau bwnc hyn a’r modd y maent yn rhyngweithio. Er enghraifft, mae microbioleg a geneteg folecwlaidd yn berthnasol iawn o ran astudio meithrin celloedd anifeiliaid, tra bo imiwnoleg a seroleg yn gymorth dadansoddi pwerus i ficrobiolegwyr sy’n astudio clefydau microbaidd mewn anifeiliaid. Gall ein graddedigion ymgymryd ag astudiaethau ymchwil yn unrhyw un o’r meysydd hyn, yn arbennig lle y maent yn rhyngweithio. Bydd eich hyfforddiant yn eich cymhwyso hefyd ar gyfer amrywiaeth eang o yrfaoedd eraill.

Bydd blwyddyn gyntaf y radd yn rhoi sylfaen gadarn i chi yn y gwyddorau biolegol, gan gynnwys dealltwriaeth o gysyniadau allweddol bywyd anifeiliaid a microbau. Yn yr ail a’r drydedd flwyddyn byddwch yn astudio modiwlau craidd mewn sŵoleg a microbioleg, ond anogwn chi i ddatblygu eich diddordebau eich hun trwy eich detholiad o fodiwlau dewisol a’ch prosiect blwyddyn olaf. Er enghraifft, gallwch astudio imiwnoleg, datblygiad celloedd ac anifeiliaid, sŵoleg fertebratiaid ac anifeiliaid di-asgwrn-cefn, microbau a haint, agweddau ar fioleg mamaliaid, bacterioleg a bioleg folecwlaidd. Bydd prosiect y flwyddyn  olaf hefyd yn rhoi’r cyfle i chi ddatblygu ymhellach eich sgiliau ymarferol achynllunio mewn maes ymchwil o’ch dewis chi.

I gael gwybodaeth fanylach am y cynllun gradd darllenwch lawlyfr y cyrsiau Gwyddorau Biolegol neu edrychwch ar ein gwefan .

Gwybodaeth y Cynllun Astudio

Mae wybodaeth ar y tudalen hon yn cyfeirio i'r cynlluniau sy'n isod:

Set Gwybodaeth Allweddol