Sŵoleg


C300 - 3 blynedd (neu 4 mlynedd drwy C990 Gwyddorau Bywyd)

Astudiaeth o anifeiliaid yw Sŵoleg. Yr ydym yn rhannu’r blaned hon â miliynau o rywogaethau eraill o anifeiliaid, ond mae ein gweithredoedd a newidiadau yn yr hinsawdd yn trawsnewid cynefinoedd naturiol. Bydd myfyrwyr sŵoleg yn astudio’r amrywiaeth ymhlith anifeiliaid, esblygiad, ymddygiad, anatomeg ac ecoleg i ganfod sut mae anifeiliaid yn byw ac yn addasu i’w hamgylchedd. Mae angen sŵolegwyr wedi eu hyfforddi i warchod bywyd anifeiliaid, i ddeall clefydau paraseit mewn anifeiliaid a phobl ac i reoli plâu sy’n bwysig yn economaidd. Mae graddedigion sŵoleg hefyd yn gymwys i ddilyn nifer o’r gyrfaoedd a restrwyd eisoes yn y cyflwyniad i’r gwyddorau biolegol.

Mae myfyrwyr sŵoleg yn Aberystwyth yn elwa ar fioamrywiaeth unigryw canolbarth Cymru. Mae amrywiaeth helaeth yr arfordiroedd, aberoedd, coetiroedd a bryniau yn gynefin i fywyd gwyllt eithriadol. Mae’r ardal oddi amgylch yn cynnal pryfetach prin, adar hela, adar hirgoes, y barcud coch a’r frân goesgoch, tra bo Bae Ceredigion yn enwog am ei boblogaeth o adar môr a mamaliaid  megis morloi llwyd, dolffiniaid trwynfawr allamhidyddion harbwr.

Cynlluniwyd y radd Sŵoleg yn Aberystwyth i gydweddu â’ch diddordebau mewn anifeiliaid ac i roi sail dibynadwy o ran gwaith i chi wedi hynny. Yn  y flwyddyn gyntaf bydd modiwlau rhagarweiniol bioleg a ddetholwyd yn ofalus yn rhoi dealltwriaeth i chi o’r cysyniadau allweddol ym mywyd anifeiliaid. Bydd hyblygrwydd yr ail a’r drydedd flwyddyn yn caniatáu i chi ganolbwyntio naill ai ar fioleg anifeiliaid cyfan, poblogaeth a chadwraeth neu ar agweddau mwy cymhwysol ar sŵoleg fel parasitoleg ac imiwnoleg. Bydd modiwlau dewisol yn rhoi’r cyfle i chi gynllunio llwybr gradd i gwmpasu sbectrwm eang bioleg anifeiliaid, gan gynnwys bioleg mamaliaid, ymddygiad anifeiliaid, bioleg y môr a dŵr croyw ac amrywiaeth ymhlith adar. Yn y flwyddyn olaf byddwch yn ymgymryd â phrosiect ymchwil wedi ei seilio yn y labordy neu yn y maes mewn pwnc o’ch dewis chi, a bydd hyfforddiant yn cael ei ddarparu gan staff dysgu ac ymchwil ym maes sŵoleg. Gall gwaith maes hefyd fod yn rhan bwysig o’r hyfforddiant ymarferol mewn technegau bioleg anifeiliaid cyfoes yn Aberystwyth.

I gael gwybodaeth fanylach am y cynllun gradd darllenwch lawlyfr y cyrsiau Gwyddorau Biolegolneu edrychwch ar ein gwefan.

Gwybodaeth y Cynllun Astudio

Mae wybodaeth ar y tudalen hon yn cyfeirio i'r cynlluniau sy'n isod:

Set Gwybodaeth Allweddol