Cyfrifeg, Busnes, Economeg, Cyllid, Rheolaeth a Marchnata

Graddau

Cyfrifeg a Chyllid

Economeg Busnes

Cyllid Busnes

Rheolaeth a Busnes

Economeg

Marchnata

Rheolaeth

Graddau sy’n cyfuno pwnc gyda’r Ysgol Rheolaeth a Busnes gyda phwnc arall

Mae gan yr Ysgol Rheolaeth a Busnes enw hynod o dda am ansawdd ei dysgu, ei haddysgu a’r profiad diwylliannol y mae’n ei gynnig. Yr ydym yn falch o’n henw da a’n safonau, a hyd yn oed yn fwy balch o’n myfyrwyr, sydd wedi llwyddo ym mhob agwedd ar fywyd. Mae llwyddiant personol a phroffesiynol ein myfyrwyr yn dyst i ansawdd ein darpariaeth. Yr ydym yn deall bod dewis rhaglen radd yn benderfyniad anodd a fydd yn effeithio ar y cyfleoedd fydd ar gael i chi yn y dyfodol. Bydd sawl ffactor yn dylanwadu ar eich penderfyniad yn y pen draw, yn sicr, gan gynnwys cyngor ac arweiniad gan ffrindiau, teulu a chynghorwyr addysgol, a’r amgylchedd addysgol a chymdeithasol y byddwch yn astudio ynddo.

Mae staff yr Ysgol Rheolaeth a Busnes yn awyddus i’ch cefnogi. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau eich bod yn astudio rhaglen academaidd sy’n addas ar eich cyfer: cydbwysedd addas o bynciau i gyd-fynd â’ch diddordebau a’ch gobeithion o ran gyrfa; cefnogaeth ac arweiniad addysgol addas a thawelwch meddwl i chi a’ch teulu; a ffordd o fyw ac amgylchedd cymdeithasol addas lle byddwn yn gofalu amdanoch ac yn parchu eich lles.

Profiad Dysgu Cyffrous

Yma yn Aberystwyth yr ydym wedi ymrwymo i ddenu myfyrwyr dawnus sydd â diddordeb byw mewn astudio Busnes, Rheolaeth, Economeg, Marchnata a Chyfrifeg a Chyllid. Yr ydym yn awyddus ichi rannu eich syniadau a’ch safbwyntiau â ni ac yr ydym yn gwerthfawrogi eich cyfraniad. Yn yr holl feysydd pwnc – Busnes, Economeg, Rheolaeth, Marchnata, a Chyfrifeg a Chyllid – cewch ddatblygu cyfoeth o wybodaeth, sgiliau ac arferion da. Byddwch yn dysgu am y cysylltiad rhwng ymchwil, damcaniaeth a rhoi cysyniadau ar waith yn ymarferol. Byddwch hefyd yn canfod byd sy’n llawn posibiliadau lle gellir creu atebion newydd ym maes eich pwnc trwy gyflwyno syniadau newydd a meddwl yn greadigol. Byddwch yn dysgu nad oes y fath beth â pherffeithrwydd – bydd eich cyfraniad chi yn gwneud gwahaniaeth, yn yr amgylchedd astudio ac yn nes ymlaen yn eich gyrfa benodol chi.

Dysgu Ymarferol a Pherthnasol

Yr ydym wastad wedi rhoi blaenoriaeth i “ddysgu ac addysgu”, ac mae ein harbenigedd academaidd, yr amgylcheddau dysgu cyfoes a’r adnoddau sydd ar gael ar y campws oll yn ychwanegu at hyn. Byddwch yn cael sesiynau tiwtorial rheolaidd i gefnogi eich datblygiad personol ac academaidd. Mae gennym agwedd hyblyg tuag at ddysgu sy’n cynnwys cyflwyniadau grŵp, gwaith tîm, seminarau, darlithoedd ac astudiaethau ymarferol. Cewch fwynhau gweithio gyda’ch ffrindiau a staff academaidd i
osod cyfeiriad eich gwaith dysgu.

Cafodd ansawdd y dysgu yn yr Ysgol Rheolaeth a Busnes y gydnabyddiaeth uchaf yn yr Asesiad o Ansawdd Dysgu. Canfu’r arolwg fod ansawdd ein dysgu yn “rhagorol” a chanmolwyd aelodau’r staff am eu cefnogaeth unigol i fyfyrwyr. Rhoddwyd canmoliaeth arbennig i’r gwaith dysgu ar y rhaglenni Cyfrifeg, Cyllid ac Economeg, gan gydnabod ein harbenigedd academaidd sylweddol yn y meysydd hyn.

Nod ein gweithgareddau academaidd ac ymchwil yw datblygu gwybodaeth sy’n seiliedig ar waith ymarferol. Gan ddefnyddio rhwydwaith sefydledig o gysylltiadau ym myd busnes a diwydiant, yr ydym yn denu gweithwyr proffesiynol ac ymarferwyr rheoli profiadol i gyfrannu at ein gweithgareddau dysgu ac ymchwil.

Bydd myfyrwyr yr Ysgol Rheolaeth a Busnes yn datrys problemau ac yn dadansoddi astudiaethau achos sy’n ymwneud â sefyllfaoedd rheoli “go iawn”. Byddwch yn defnyddio’r wybodaeth ddiweddaraf a dealltwriaeth o arferion da i gyfrannu at eich gwaith dysgu. Cewch hyfforddiant ac arweiniad arbenigol i gefnogi datblygiad eich gwybodaeth a’ch sgiliau ymarferol.

Dewis Synhwyrol o ran Cost

Yn yr Ysgol Rheolaeth a Busnes yr ydym yn gwerthfawrogi eich ymrwymiad i astudio gyda ni a’ch buddsoddiad ariannol. Bydd eich brwdfrydedd ynglŷn ag astudio yn eich galluogi i ddatblygu sgiliau proffesiynol er mwyn canfod swydd. Bydd eich buddsoddiad ariannol yn cyfrannu at eich gallu i ennill cyflog da wedi ichi raddio. Yr ydym yn deall y bydd arnoch eisiau canfod yr addysg a’r amgylchedd cymdeithasol gorau oll, a hynny am y pris isaf posibl.

Yr ydym yn cynnig ffioedd dysgu cystadleuol a gwerth rhagorol am arian. Yr ydym yn cynnig bwrsariaethau nodedig i wobrwyo eich ymrwymiad a’ch cyfraniad i’r ysgol. Yma cewch ffordd o fyw o ansawdd uchel a hynny am bris isel iawn ac mae ein diwydiant twristiaeth llewyrchus yn cynnig digon o gyfle am swyddi rhan-amser yn ystod eich cyfnod gyda ni.

Mae ein cynnig yn un unigryw: addysg a ffordd o fyw o'r radd flaenaf, ynghyd â manteision ariannol gwych.

Rhaglenni Gradd Israddedig

Yn yr Ysgol Rheolaeth a Busnes yr ydym wedi ymrwymo i ddenu myfyrwyr dawnus ac amrywiol o bob rhan o’r byd. Yr ydym yn cynnig i’n holl fyfyrwyr leoliad astudio unigryw, hyfforddiant arbenigol a dewis amrywiol o amgylcheddau i ddefnyddio eich sgiliau, gwybodaeth a phrofiad ym maes busnes, rheolaeth, economeg, marchnata, cyllid a chyfrifeg. Mae astudio rhaglen academaidd yn yr Ysgol Rheolaeth a Busnes yn ddewis poblogaidd. Un rheswm sydd am hynny: bydd y cyfraniad proffesiynol a wnewch yn ystod eich gyrfa bob amser yn seiliedig ar wybodaeth a dealltwriaeth o ragoriaeth mewn gwaith proffesiynol ymarferol. Mae’r rhain yn feysydd pwnc sylfaenol sy’n llywio hynt y byd.

Nid yw’n wir, o reidrwydd, y bydd sgiliau arbenigol mewn celf a dylunio yn arwain at yrfa ddisglair yn y celfyddydau. Bydd angen ichi ddeall marchnata er mwyn hyrwyddo eich gwaith celf a’i werthu. Nid yw’n wir, o reidrwydd, y bydd sgiliau arbenigol o ran marchogaeth a cheffylau yn arwain at yrfa gyffrous yn rheoli ceffylau rasio. Bydd angen ichi ddeall rheolaeth er mwyn rheoli stablau ac, yn bwysicach, i reoli cwsmeriaid rhyngwladol. Nid yw’n wir, o reidrwydd, y bydd sgiliau arbenigol mewn mathemateg yn arwain at yrfa garismatig yn rheoli stociau a chyfranddaliadau. Bydd arnoch angen deall cyllid a chyfrifeg i ddeall cymhelliad buddsoddwyr hyngwladol.

Mae astudio busnes, rheolaeth, economeg, marchnata, cyllid a chyfrifeg yn golygu llawer mwy na dim ond astudio egwyddorion damcaniaethol. Byddwch yn canfod nad oes unrhyw berffeithrwydd yn y byd, ac mai prif nodwedd y gweithwyr proffesiynol mwyaf blaenllaw yw eu bod yn gallu asesu’r amgylchedd gwaith presennol a defnyddio creadigrwydd a dealltwriaeth o waith proffesiynol ymarferol i ddatblygu atebion newydd i’r cwmni/sefydliad. Mae arferion da a chymhwyso proffesiynol yn gysyniadau byw ac mae cyfle i bob gweithiwr proffesiynol gyfrannu atynt a dylanwadu arnynt.

Cydnabyddiaeth Broffesiynol

Mae llawer o’n cymwysterau israddedig yn cael eu cydnabod neu eu hachredu gan gyrff proffesiynol, sy’n cynnig eithriadau a chredydau tuag at gymwysterau proffesiynol. Mae ein cymwysterau marchnata yn cael eu cydnabod gan y Sefydliad Marchnata Siartredig (CIM) ac mae ein hamrywiol raglenni Cyfrifeg a Chyllid yn cael eu hachredu gan Gymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig (ACCA), Sefydliad Siartredig y Cyfrifwyr Rheoli (CIMA) a Sefydliad y Cyfrifwyr Siartredig yng Nghymru a Lloegr (ICAEW). Strwythur y Rhaglenni Gradd Mae gradd gyntaf yn ein Hysgol yn synhwyrol ac yn hanfodol er mwyn gweithio’n broffesiynol. Mae ein rhaglenni academaidd wedi’u cynllunio’n arbennig ar sail modiwlau er mwyn ichi allu dewis Busnes, Rheolaeth, Marchnata, Economeg neu Gyllid a Chyfrifeg yn brif faes astudio.

Gallwch hefyd ddewis cyfuno’r meysydd astudio hyn â phynciau eraill, yng nghyswllt diddordebau personol neu obeithion gyrfa mwy penodol. Gallwch ddewis o blith y rhaglenni israddedig canlynol yn yr Ysgol Rheolaeth a Busnes:

Gradd Anrhydedd Sengl: Mae’r radd hon yn eich galluogi i arbenigo'n benodol yn un o'r meysydd pwnc canlynol: Cyfrifeg a Chyllid, Busnes a Rheolaeth, Cyllid Busnes, Economeg Busnes, Economeg neu Farchnata.

Gradd Anrhydedd Cyfun: Mae’r radd hon yn eich galluogi i gyfuno eich dewis bwnc yn gyfartal â phwnc arall.

Gradd Prif Bwnc/Is-bwnc: Mae’r radd hon yn eich galluogi i gyfuno eich dewis bwnc fel cyfran o’ch gradd â phwnc arall – naill ai fel prif bwnc 2/3 neu is-bwnc 1/3.

Gallwch ddewis astudio Cyfrifeg a Chyllid yn unig fel Gradd Anrhydedd Sengl, yn gyfartal ag Economeg fel Gradd Anrhydedd Cyfun neu gyda phwnc arall fel Gradd Prif Bwnc/Is-bwnc.

Gallwch ddewis astudio Busnes a Rheolaeth yn unig fel Gradd Anrhydedd Sengl neu gyda phwnc arall fel Gradd Prif Bwnc/Is-bwnc.

Gallwch ddewis astudio Cyllid Busnes yn unig fel Gradd Anrhydedd Sengl.

Gallwch ddewis astudio Economeg Busnes yn unig fel Gradd Anrhydedd Sengl neu yn anghyfartal gyda Chyfrifiadureg fel Gradd Prif Bwnc/Is-bwnc.

Gallwch ddewis astudio Economeg yn unig fel Gradd Anrhydedd Sengl, yn gyfartal naill ai gyda Chyfrifeg a Chyllid neu Marchnata fel Gradd Anrhydedd Cyfun neu gyda phwnc arall fel Gradd Prif Bwnc/Is-bwnc.

Gallwch ddewis astudio Marchnata yn unig fel Gradd Anrhydedd Sengl, yn gyfartal gyda Seicoleg fel Gradd Anrhydedd Cyfun neu gyda phwnc arall fel Gradd Prif Bwnc/Is-bwnc.

Gallwch ddewis astudio Rheolaeth fel is-bwnc gyda phwnc gradd arall o bortffolio’r Brifysgol fel Gradd Prif Bwnc/Is-bwnc. Mae’r pynciau a ddewiswyd o bortffolio yr Ysgol Rheolaeth a Busnes yn cynnwys Cyfrifeg a Chyllid, Economeg neu Farchnata.