Cyfrifeg a Chyllid
BScEcon N400 - 3 blynedd
Y mae a wnelo Cyfrifeg â mesur a datgelu gwybodaeth ariannol. Fel arbenigwyr mewn maes hynod gymhleth a rheoledig, mewn cwmnïau ac fel gweithwyr proffesiynol allanol, mae gan gyfrifwyr swyddogaeth hanfodol i sicrhau cywirdeb yr wybodaeth ariannol a roddir i unigolion preifat, i reolwyr, i fuddsoddwyr, i reoleiddwyr, i’r sawl sy’n gwneud penderfyniadau ac i’r cyhoedd.
Bydd gradd Cyfrifeg a Chyllid o Aberystwyth yn caniatáu i chi ddatblygu’r sgiliau a’r crebwyll arbenigol ar gyfer cyflwyno a mesur ariannol ynghyd â dealltwriaeth o’r fframwaith cyfreithiol sy’n llywodraethu arferion gweithredol.
Yma yn Aberystwyth byddwch yn astudio Cyfrifeg a Chyllid mewn Adran:
- sy’n cyfuno dulliau dysgu traddodiadol â hyfforddiant arloesol yn y sgiliau sy’n angenrheidiol i fusnes;
- sy’n gweithio gyda chi fel unigolyn i wneud y mwyaf o’ch cyfle am yrfa;
- sy’n caniatáu i chi gyfuno Cyfrifeg a Chyllid â dewis gwych o ddisgyblaethau eraill, sy’n amrywio o Gyfrifiadureg i Sbaeneg;
- sy’n rhan o Brifysgol sydd, flwyddyn ar ôl blwyddyn, yn cael ei phleidleisio ymhlith yr uchaf o ran bodlonrwydd myfyrwyr yn y DU;
- sy’n cynnig i fyfyrwyr y cyfle i gymryd blwyddyn allan o’u hastudiaethau i weithio mewn busnes.
Mae’r radd hon ar hyn o bryd yn caniatáu eithrio gan gyrff cyfrifeg proffesiynol yn y DU – ACCA: eithrio llawn o’r Cymhwyster Technegydd Cyfrifo Ardystiedig (CAT), a 7 o blith 9 o’r papurau Sylfaenol; CMA: eithrio llawn o’r cymhwyster Tystysgrif mewn Cyfrifeg Busnes ac amryw o’r papurau proffesiynol yn dibynnu ar y modiwlau dewisol; ACA: eithrio o dri o’r papurau proffesiynol.
Blwyddyn 1
Nid oes gwybodaeth flaenorol yn cael ei thybio, felly mae Blwyddyn 1 yn gosod y sylfaen i astudiaethau yn y dyfodol, ac yn eich cyflwyno i egwyddorion sylfaenol a mathemateg cyfrifeg ac i amgylchedd proffesiynol busnes a marchnata.
Mae pynciau craidd Blwyddyn 1 yn cynnwys:
- Introduction to Financial Management;
- Mathematics and Quantitative Methods for Accounting;
- The Business Environment;
- Financial Accounting for Specialists.
Blwyddyn 2 a 3
Ym mlynyddoedd 2 a 3 byddwch yn dechrau archwilio rhai o fanylion rheolau’r arferion penodol yn y meysydd cyfrifeg, er enghraifft, archwiliadau a threthi, yn ogystal ag edrych mewn mwy o ddyfnder ar gyfrifeg rheolaethol a’i berthynas ag agweddau ehangach rheolaeth.
Mae pynciau craidd Blynyddoedd 2 a 3 yn cynnwys:
- Corporate Finance;
- Recent Developments in Management Accounting;
- Group Financial Reporting.
Trwy gydol Blynyddoedd 2 a 3, wrth i’ch cymhwysedd a’ch hyder gynyddu, byddwch yn gallu dewis modiwlau ar bynciau sydd o ddiddordeb penodol ichi, o blith dewis sy’n cynnwys Treth a Swyddogaeth ac Arferion Archwilio.
Clichiwch yma i weld graddau sy’n cyfuno Cyfrifeg a Chyllid gyda phwnc arall
Enghraifft o Fodiwl - Enghraifft o Fodiwl
AC32520 - Taxation
Modiwl yw hwn sy’n ystyried treth yn ei gyd-destun eang: nid yn unig arferion cyfrifeg mewn perthynas â system Dreth y DU, ond rhai o’r egwyddorion cyffredinol sy’n sail i gynllun unrhyw system dreth effeithiol. Mae’n canolbwyntio ar bedair prif agwedd: (i) nodweddion economaidd ac asesiad o gynllun system dreth effeithiol; (ii) disgrifiad eang o system dreth y DU; (iii) ystyriaethau rhyngwladol gan gynnwys cydlynu treth, cystadleuaeth a threthu e-fasnach; a (iv) materion cysyniadol wrth gynllunio treth ac effaith treth ar farchnadoedd cyfalafol.