Enghraifft o Fodiwl - Enghraifft o Fodiwl
MM32220 - Small Business Management
Mae busnesau bach yn bwysig i’r economi ehangach, yn enwedig felly wrth greu swyddi a meithrin menter. Ond mae llawer o fusnesau bach yn methu, am nad ydynt yn gallu ymdrin â phroblemau cysylltiadau â’i gweithwyr, a rheoli marchnata a chyllid. Yn y modiwl hwn byddwch yn dysgu am y materion hynny, ond hefyd byddwch yn cymryd rhan mewn ymarferion sefyllfaoedd ‘go iawn’ lle byddwch yn modelu cynllun i fusnes bach sy’n dechrau arni, gydag ymwybyddiaeth o’r gwahanol gynlluniau sydd gan y llywodraeth ac eraill i gynorthwyo mentrau o’r fath. Gall hyn fod yn gyfle i chi ddarganfod a oes gennych chi nodweddion yr entrepreneur.Busnes a Rheolaeth
BScEcon - 3 blynedd (N122)
Rheolaeth a Busnes
Mae’r radd israddedig mewn Busnes a Rheolaeth yn canolbwyntio ar fyd menter ac effaith newidiadau yn yr amgylchedd busnes: digwyddiadau economaidd, newidiadau mewn arferion cyfrifeg, newidiadau o ran rheoleiddio a’r amgylchedd cyfreithiol, penderfyniadau marchnata a datblygu strategaethau busnes. Bydd y rhaglen yn eich galluogi i ddatblygu dealltwriaeth eang o reoli ar waith, ac mae’n berthnasol i fyd busnes a masnach yn y sector cyhoeddus a’r sector preifat. Byddwch yn cymryd rhan mewn gweithgareddau sy’n ystyried cymhlethdod heriau rheoli ac effaith gyfun y materion economaidd, ariannol, dynol a chyfreithiol y mae rheolwyr yn ymdrin â hwy o ddydd i ddydd.Trwy ddadansoddi astudiaethau achos, gwaith prosiect a gweithgareddau efelychu byddwch yn datblygu dealltwriaeth dda o’r offer a’r technegau y mae rheolwyr yn eu defnyddio i ddatblygu atebion ymarferol. Byddwch hefyd yn datblygu’r sgiliau i ddadansoddi materion rheoli yng nghyswllt blaenoriaethau’r cwmni, ffactorau allanol a’r hyn a ystyrir yn “arfer da” ar hyn o bryd.
Gyrfa Broffesiynol
Bydd gradd mewn Busnes a Rheolaeth yn eich galluogi i ddewis o blith amrywiaeth o yrfaoedd ledled y byd busnes, diwydiant a masnach, neu’n gweithio yn y sector cyhoeddus. Mae llawer o’n graddedigion yn canfod swyddi llwyddiannus fel is-reolwyr mewn sefydliadau rhyngwladol neu gwmnïau amlwladol, ac mae hyn yn dyst i werth a hyblygrwydd gradd mewn Busnes a Rheolaeth.
Y Modiwlau sy’n Agor Drysau
Mae’r modiwlau craidd yn cynnwys rhai sy’n trafod cyflwyniad i reoli, egwyddorion
marchnata, yr amgylchedd busnes, rheol cyllid, sgiliau a dadansoddi rheolaeth, cwmnïau, marchnadoedd a phrisio, ymddygiad sefydliadol, rheoli adnoddau dynol, rheoli gweithrediadau ac arloesi, dulliau ymchwil rheoli, strategaeth fusnes, arweinyddiaeth strategol, ac ymchwil gyfoes mewn rheoli a threfnu.
Mae’r modiwlau dewisol yn cynnwys amrywiaeth eang o fodiwlau yn trafod meysydd astudio marchnata, rheolaeth, economeg a chyfrifeg.