Economeg Busnes

L113 - 3 blynedd

Mae’n ymddangos weithiau fod busnesau a’u rheolwyr ar drugaredd grymoedd economaidd nad ydyn nhw’n eu deall nac yn gallu eu rheoli; ond y mae rheolwyr proffesiynol, penderfynwyr a buddsoddwyr yn gallu llunio strategaethau ar sail dealltwriaeth gadarn o dueddiadau economaidd. Mae Economeg Busnes yn canolbwyntio ar y cymwysiadau ymarferol sydd i syniadau, gwybodaeth a dulliau economaidd, yng ngyd-destun gwneud penderfyniadau mewn Busnes.

Gan ddefnyddio ystadegau busnes real, yn hytrach na fformwlâu mathemategol haniaethol, trwy astusio am y radd hon cewch ddealltwriaeth gydlynol o effaith economeg yn yr amgylchedd economaidd.

Yma yn Aberystwyth, byddwch yn astudio Economeg Busnes mewn Adran:

  • sy’n gwneud cyfraniadau arloesol i ymchwil ac arfer;
  • sy’n cyfuno dulliau academaidd traddodiadol o ddysgu â hyfforddiant blaengar yn y sgiliau angenrheidiol i fusnes;
  • sy’n gweithio gyda chi fel unigolyn i wneud y mwyaf o’ch cyfleoedd gyrfa;
  • sy’n rhan o Brifysgol sydd, flwyddyn ar ôl blwyddyn, yn cael ei phleidleisio ymhlith yr uchaf o ran bodlonrwydd myfyrwyr yn y DU.

Blwyddyn 1

Ni thybir gwybodaeth flaenorol, felly Blwyddyn 1 yw sylfaen eich holl astudiaethau. Rhoddir pwyslais ar egwyddorion sylfaenol economeg a’r sgiliau sydd eu hangen arnoch i weithio ym maes economeg. Cewch eich cyflwyno hefyd i’r materion llosg a phwysig diweddaraf yn y maes: cyfoes iawn yng ngoleuni profiadau economaidd bydeang ers 2008.

Mae pynciau craidd Blwyddyn 1 yn cynnwys:

  • Principles of Economics;
  • Mathematics and Statistics for Economists;
  • Hot Topics in Economics.

Blynyddoedd 2 a 3

Ym Mlynyddoedd 2 a 3 byddwch yn dechrau defnyddio’r sail sydd wedi ei osod ym mlwyddyn 1, gan roi egwyddorion a sgiliau Economegydd ar waith er mwyn deall systemau economaidd mawrion (macroeconomeg) a’r rhan sydd i ddewisiadau’r defnyddwyr (microeconomeg). Ar yr un pryd, dechreuir eich cyflwyno i ddealltwriaeth gyflawnach o’r amgylchedd Busnes, ym maes, er enghraifft, Rheolaeth Gorfforaethol a Chysylltiadau Llafur.

Mae pynciau craidd Blynyddoedd 2 a 3 yn cynnwys:

  • Macroeconomic Systems;
  • Microeconomics: Consumers and Producers;
  • Corporate Ethics and Labour Relations;
  • Corporate Governance and Finance.

Wrth ichi ddatblygu mewn hyder a chymhwysedd yn ystod Blynyddoedd 2 a 3, fe gewch hefyd gynnydd yn y modiwlau opsiynol sydd o ddiddordeb penodol i chi, o blith rhestr wych o ddewisiadau.

Clichiwch yma i weld graddau sy’n cyfuno Economeg Busnes gyda phwnc arall

A photograph of Phil Cockram Phil Cockram BA Busnes ac Economeg Bryste
Dewisais astudio yn Aberystwyth oherwydd bod gen i lawer o ffrindiau oedd wedi bod yma o’r blaen, ac roedd yn swnio fel lle da. Rwyf i wedi bod yma ers tair blynedd bellach ac yn hoffi’r awyrgylch. Mae’r cyfleusterau chwaraeon yn dda iawn. Mae pobl wastad yn ein cefnogi pan fyddwn ni’n chwarae hoci. Beth dwi’n ei hoffi fwyaf am astudio yn Aberystwyth yw’r bobl rydych chi’n cwrdd â nhw, oherwydd mae’n lle unigryw ac mae’r bobl yma’n ddymunol iawn. Un peth dwi ddim yn hoffi yw’r rhiw lan i’r campws! Mae’r awyrgylch a’r bywyd cymdeithasol yn wych. Mae pawb mor gyfeillgar, mae’r tafarndai yn dda, ac mae pawb yma yn grêt. Byddwn i bob tro’n argymell Aberystwyth i eraill. Dwi’n credu ei bod yn un o’r prifysgolion gorau’n y wlad.”

Gwybodaeth y Cynllun Astudio

Mae wybodaeth ar y tudalen hon yn cyfeirio i'r cynlluniau sy'n isod:

Set Gwybodaeth Allweddol