Cyllid Busness
N310 - 3 blynedd
Bydd y blynyddoedd 2008-2010 (ac wedi hynny!) yn cael eu cofio am fod yn un o’r cyfnodau mwyaf heriol yn hanes y berthynas rhwng Busnes a Chyllid. Wrth i lywodraethau wario cyfansymiau annirnad o arian – i gynorthwyo banciau, fel y gall y banciau fenthyg arian i fusnesau; ac i gynorthwyo busnesau, fel y gallant ad-dalu’r banciau – mae’r pwnc hwn wedi datblygu’n un o’r materion mwyaf dadleuol yn y byd. Mae Cyllid Busnes yn gynllun gradd sy’n ceisio datblygu fframwaith cydlynol i ddeall strategaeth ariannol, i ddeall ymddygiad y gwasanaethau bancio a chyllidol, i ddeall y ffordd y mae’r llywodraeth yn rheoleiddio arian a chyllid – ac i roi ichi y sgiliau proffesiynol angenrheidiol i weithio yn y maes hanfodol a chynyddol cymhleth hwn.
Yma yn Aberystwyth byddwch yn astudio Cyllid Busnes mewn Adran:
- sy’n cyfuno dulliau dysgu academaidd traddodiadol â hyfforddiant cyfoes o ran y sgiliau angenrheidiol i fusnes;
- sydd â chysylltiadau cryf â busnesau lleol;
- sy’n gweithio gyda chi fel unigolyn i wneud y mwyaf o’ch cyfle am yrfa;
- sy’n eich cefnogi ac yn cynnig cyfle ichi gymryd blwyddyn allan mewn gwaith mewn amgylchedd busnes
- sy’n rhan o Brifysgol sydd, flwyddyn ar ôl blwyddyn, yn cael ei phleidleisio ymhlith yr uchaf o ran bodlonrwydd myfyrwyr yn y DU.
Blwyddyn 1
Nid oes gwybodaeth flaenorol yn cael ei thybio, felly mae Blwyddyn 1 yn gosod y sylfaen i’r astudiaethau sydd i ddod. Mae agweddau Cyllid y rhaglen yn pwysleisio cysyniadau, theorïau ac arferion sylfaenol cyfrifo a chyllid, i hybu gwneud penderfyniadau cyllidol ar sail gwybodaeth dda. Ar yr ochr Fusnes mae’r pwyslais ar gymhwyso’r cysyniadau hyn yn weithgaredd busnes yn y “byd go iawn” ac ar astudiaethau achos yn ogystal â sefyllfaoedd ac amgylcheddau efelychol.
Mae pynciau craidd Blwyddyn 1 yn cynnwys:
- Introduction to Management and Financial Management;
- Business Environment;
- Mathematics and Quantitative Methods for Accounting and Business Finance;
- Introduction to Management Accounting.
Blynyddoedd 2 a 3
Ym mlynyddoedd 2 a 3 byddwch yn ehangu a dyfnhau eich gwybodaeth, gan ddatblygu portffolio grymus o sgiliau proffesiynol wrth wneud penderfyniadau effeithiol, wrth flaenoriaethu ar sail gwerth, wrth egluro gwybodaeth, asesu anghenion a rhoi cyflwyniadau dylanwadol. Byddwch hefyd yn archwilio mewn dyfnder y meysydd problematig yn y berthynas rhwng Busnes, Cyllid a’r cylchred Economaidd. Yn ogystal â’r modiwlau a ddysgir trwy ddulliau traddodiadol yn y flwyddyn olaf byddwch yn cael cyfle i wneud ymchwil annibynnol ar bwnc cysylltiedig o’ch dewis.
Mae pynciau craidd Blynyddoedd 2 a 3 yn cynnwys:
- Financial Markets and Institutions;
- The Business Cycle and Macroeconomic Policy;
- European and International Monetary Systems;
- Corporate Finance.
Wrth ichi ddatblygu mewn hyder a chymhwysedd yn ystod Blynyddoedd 2 a 3, fe gewch hefyd gynnydd yn y dewis o fodiwlau opsiynol mewn pynciau sydd o ddiddordeb penodol ichi, neu’r pynciau y credwch a fydd yn berthnasol i’ch gyrfa yn y dyfodol. Mae’r modiwlau dewisol ym mlynyddoedd 2 a 3 yn cynnwys pynciau mor amrywiol â The Role and Practice of Audit a Regional Economics.
Clichiwch yma i weld graddau sy’n cyfuno Cyllid Busnes gyda phwnc arall
Example Module - Enghraifft o Fodiwl
EC32120 - European and International Monetary Systems
Modiwl yw hwn sy’n archwilio Systemau Ariannol Rhyngwladol ac Ewropeaidd, ac yn trafod eu datblygiadau a’u problemau diweddar. Y mae’n rhoi dealltwriaeth ar lefel uwch o gyd-ddibyniaeth ariannol a gwleidyddol gwledydd a blociau masnachol yn eu fframwaith hanesyddol a sefydliadol. Bydd y pwyslais ar y prif newidiadau a effeithiodd ar systemau ariannol Ewropeaidd a Rhyngwladol ers methiant System Bretton-Wood.