Economeg


BScEcon L100 - 3 blynedd
Hefyd ar gael fel Gradd Anrhydedd Cyfun gyda Chyfrifeg a Chyllid, neu Farchnata, neu fel Gradd Prif Bwnc/Is-bwnc gyda phynciau eraill

Economeg

Mae’r graddau israddedig mewn Economeg (L100) yn canolbwyntio ar amrywiaeth eang o faterion sy’n effeithio ar fywyd pob bydd, gan gynnwys creu swyddi, arloesi a thwf ym myd busnes, datblygiad gwledydd y trydydd byd a diogelu adnoddau naturiol.

Gellir disgrifio Economeg fel astudiaeth o ddewisiadau pobl ac effaith y dewisiadau hynny ar gynhyrchu, dosbarthu a defnyddio adnoddau. Mae micro-economeg yn ymwneud â dewis ar lefel unigolion, tra bo macroeconomeg yn dadansoddi’r economi gyfan.

Fel myfyriwr Economeg byddwch yn magu llawer o sgiliau gwerthfawr o ran datrys problemau: bydd modelu economaidd yn eich dysgu i dynnu allan – sef datgymalu problem nes cyrraedd ei helfennau sylfaenol fel y gellir canfod atebion effeithiol – a bydd theori economaidd yn eich dysgu i feddwl yn rhesymegol ac yn systematig.

Yn yr un modd, bydd cysyniadau economaidd megis cost cyfle, optimistiaeth gyfyngedig a meddwl yn strategol yn eich galluogi i weld problem yn glir ac i ganfod atebion.

Gyrfa Broffesiynol

Mae cyflogwyr yn sylweddoli gwerth gradd mewn Economeg, ac fel arfer mae’r graddedigion yn ennill cyflogau hynod o uchel. Er mwyn graddio mewn Economeg byddwch yn datblygu amrywiaeth o sgiliau datrys problemau sy’n cael eu gwerthfawrogi’n fawr yn y sector cyhoeddus a’r sector preifat. Byddwch yn datblygu casgliad rhagorol o dechnegau dadansoddol a meintiol, a rhoddir pwyslais ar ddefnyddio’r technegau hynny yn ymarferol.

Y Modiwlau sy’n Agor Drysau

Mae’r modiwlau craidd yn cynnwys rhai sy’n trafod cyfrifiadura ar gyfer cyfrifeg a busnes, egwyddorion a sgiliau economaidd, materion llosg ym maes economeg, mathemateg ar gyfer economeg a chyllid, rheolaeth ariannol, ystadegau ar gyfer economegwyr, sgiliau rheoli, micro-economeg ganolradd: defnyddwyr a chynhyrchwyr, ymddygiad a systemau macroeconomaidd, econometreg, oligopoli a theori gemau, ansicrwydd a gwybodaeth anghymesur, a phynciau ym maes macro-economeg. Mae’r modiwlau dewisol yn cynnwys dewis eang o fodiwlau sy’n ymwneud ag Economeg, megis rhai sy’n trafod masnach ryngwladol a pholisi masnach, economeg ranbarthol, ac economeg ym maes datblygu.

Cyfuniadau Economeg
Gallwch hefyd ddewis cyfuno Economeg gyda Marchnata (LN15) a bydd y modiwlau craidd yn trafod cyfrifiadura ar gyfer busnes a chyllid, egwyddorion a sgiliau economaidd, mathemateg ar gyfer economeg a chyllid, egwyddorion marchnata, rheolaeth ariannol, ystadegau i economegwyr, yr amgylchedd busnes, micro-economeg ganolradd: defnyddwyr a chynhyrchwyr, ymddygiad a systemau macro-economaidd, econometreg, rheoli marchnata, ymchwil farchnata, gêm strategaeth farchnata, cysylltiadau marchnata, strategaeth fusnes, astudiaethau achos ym maes marchnata, oligopoli a chyflwyniad i theori gemau, ansicrwydd a gwybodaeth anghymesur, a phynciau ym maes macro-economeg. Mae modiwlau dewisol Economeg gyda Marchnata (LN15) yn cynnwys dewis eang o fodiwlau ym maes Marchnata, Busnes, Rheolaeth, Economeg, Cyllid a Chyfrifeg.

Gallwch hefyd ddewis cyfuno Economeg gyda Rheolaeth (L1N2) a bydd y modiwlau craidd yn trafod cyfrifeg reoli, cyfrifiadura ar gyfer busnes a chyllid, egwyddorion a sgiliau economaidd, mathemateg ar gyfer economeg a chyllid, egwyddorion marchnata, ystadegau i economegwyr, sgiliau rheoli, egwyddorion rheoli, yr amgylchedd busnes, micro-economeg ganolradd: defnyddwyr a chynhyrchwyr, ymddygiad a systemau macro-economaidd, econometreg, rheoli marchnata, rheoli adnoddau dynol, marchnata rhyngwladol, cysylltiadau marchnata, strategaeth fusnes, a phynciau ym maes macro-economeg.

Mae modiwlau dewisol Economeg gyda Rheolaeth (L1N2) yn cynnwys rhai sy’n trafod oligopoli a chyflwyniad i theori gemau, ansicrwydd a gwybodaeth anghymesur a dewis eang o fodiwlau ym maes Marchnata, Busnes, Rheolaeth, Economeg, Cyllid a Chyfrifeg.

Cliciwch yma i weld graddau cyfun Economeg gyda phwnc arall

Gwybodaeth y Cynllun Astudio

Mae wybodaeth ar y tudalen hon yn cyfeirio i'r cynlluniau sy'n isod:

Set Gwybodaeth Allweddol