Rheolaeth


3 blynedd
Ar gael fel is-bwnc mewn Gradd Prif Bwnc/Is-bwnc yn unig

Mae’r graddau israddedig sydd â Rheolaeth fel yr is-bwnc yn rhoi cyfle ichi ddatblygu a defnyddio sgiliau a gwybodaeth am reoli ym maes eich prif bwnc. Nod y rhaglenni rheolaeth yw datblygu eich sgiliau beirniadu, dadansoddi a datrys problemau, a chreu amgylchedd a chyd-destun amlddisgyblaeth i chi fagu’r sgiliau a’u defnyddio.

Gyrfa Broffesiynol
Ym mhob proffesiwn a sector, mae cyflogwyr ledled y byd yn gwerthfawrogi gwybodaeth am bwnc ynghyd â sgiliau rheoli da. Drwy ddewis astudio rheolaeth bydd gennych well cyfle i ganfod swydd yn y sector cyhoeddus a’r sector preifat, a bydd yn ychwanegu dimensiwn proffesiynol at eich astudiaethau gradd. Mae hefyd yn creu cyfleoedd ychwanegol i ddatblygu’n broffesiynol yn y dyfodol, ac o’r herwydd mae’n sylfaen dda ar gyfer mwy o hyfforddiant rheoli yn y proffesiwn neu’r diwydiant yr ydych wedi dewis gweithio ynddo.

Cyfuniadau Rheolaeth

Yn amlwg, gellir cyfuno Rheolaeth â meysydd pwnc allweddol eraill yn yr Ysgol Rheolaeth a Busnes, megis Marchnata, Busnes, Economeg, Cyllid a Chyfrifeg.

Ewch i’r adran Cyfrifeg a Chyllid i ddysgu mwy am Gyfrifeg a Chyllid a Rheolaeth Ewch i’r adran Economeg i ddysgu mwy am Economeg gyda Rheolaeth

Ewch i’r adran Farchnata i ddysgu mwy am Farchnata gyda Rheolaeth

Ewch i’r adran Busnes a Rheolaeth i ddysgu mwy am Fusnes gyda Rheolaeth

Clichiwch yma i weld graddau sy’n cyfuno Rheolaeth gyda phwnc arall

Gwybodaeth y Cynllun Astudio

Mae wybodaeth ar y tudalen hon yn cyfeirio i'r cynlluniau sy'n isod:

Set Gwybodaeth Allweddol