Marchnata
BScEcon N500 - 3 blynedd
Ar gael fel Gradd Anrhydedd Sengl, fel Gradd Anrhydedd Cyfun gydag Economeg neu Seicoleg, neu fel Gradd Prif Bwnc/Is-bwnc gyda phynciau eraill
Mae’r graddau israddedig sy’n cyfuno Marchnata (N5**) gyda phynciau eraill yn canolbwyntio ar gyfuniad o sgiliau gan gynnwys cyfathrebu creadigol ac ymchwil farchnata effeithiol. Byddwch yn datblygu hyder a hygrededd i ddatblygu atebion marchnata i ymateb i sefyllfaoedd go iawn a gallwch roi eich sgiliau ar waith mewn amrywiaeth eang o amgylcheddau trwy gyfrwng modiwlau craidd a dewisol.
Bydd y rhaglenni sy’n cynnig Marchnata yn eich galluogi i ddatblygu sgiliau a gwybodaeth ynghylch yr agweddau strategol a gweithredol ar farchnata. Cynlluniwyd y rhaglenni i’ch galluogi i ddeall y berthynas rhwng amgylchedd busnes mewnol cwmni neu sefydliad ac amgylchedd y farchnad allanol.
Gan ymateb i ddadansoddiadau o astudiaethau achos a sefyllfaoedd “go iawn”, byddwch yn cyfrannu at ddatblygu strategaethau marchnata ac yn datblygu sgiliau ym maes rheoli marchnata a dealltwriaeth gynhwysfawr o farchnata yng nghyswllt gweithgareddau a blaenoriaethau eraill ym myd busnes.
Byddwch hefyd yn magu ymwybyddiaeth o’r amgylchedd marchnata allanol ac yn datblygu sgiliau i reoli strategaethau ym maes hysbysebu a brandio, cyswllt â chwsmeriaid, ymddygiad defnyddwyr, cysylltiadau marchnata, cysylltiadau cyhoeddus ac ymchwil farchnata.
Gyrfa Broffesiynol
Bydd gradd mewn Marchnata yn eich galluogi i fanteisio ar gyfleoedd gyrfaol mewn amrywiaeth eang o feysydd gan gynnwys hysbysebu, cyhoeddi, ymchwil farchnata a rheoli gwasanaethau cwsmeriaid, a hynny yn y DU, yn Ewrop neu yn rhyngwladol.
Cydnabyddiaeth Broffesiynol
Mae ein holl raddau Marchnata (gyda Marchnata fel y prif bwnc) yn cynnwys eithriadau rhag arholiadau y Sefydliad Marchnata Siartredig (CIM), sef prif gorff proffesiynol y byd ym maes marchnata.
Cyfuniadau Marchnata
Gallwch hefyd ddewis cyfuno Marchnata gyda Rheolaeth (N5N2) a bydd y modiwlau craidd yn trafod cyfrifiadura ar gyfer cyfrifeg a busnes, egwyddorion economaidd, egwyddorion marchnata, yr amgylchedd busnes, dulliau meintiol ar gyfer cyfrifeg a busnes, sgiliau marchnata, rheoli marchnata, ymchwil farchnata, marchnata strategol, ymddygiad defnyddwyr, marchnata rhyngwladol, cysylltiadau marchnata, astudiaethau achos ym maes marchnata, sgiliau rheoli, rheoli adnoddau dynol, llywodraethu corfforaethol a moeseg busnes, egwyddorion rheoli, strategaeth ariannol, ac uwch-farchnata.
Mae modiwlau dewisol Marchnata gyda Rheolaeth (N5N2) yn cynnwys dewis eang o fodiwlau ym maes Marchnata, Busnes, Rheolaeth, Economeg, Cyllid a Chyfrifeg.
Gallwch hefyd ddewis cyfuno Marchnata gyda Chyfrifeg a Chyllid (N5N4) a bydd y modiwlau craidd yn trafod cyfrifiadura ar gyfer cyfrifeg a busnes, egwyddorion economaidd, egwyddorion marchnata, yr amgylchedd busnes, dulliau meintiol ar gyfer cyfrifeg a busnes, sgiliau marchnata, rheoli marchnata, ymchwil farchnata, ymddygiad defnyddwyr, marchnata strategol, marchnata rhyngwladol, cysylltiadau marchnata, astudiaethau achos ym maes marchnata, ac uwch-farchnata.
Mae modiwlau dewisol Marchnata gyda Chyfrifeg a Chyllid (N5N4) yn cynnwys rhai sy’n trafod cyfrifeg reoli (gan gynnwys datblygiadau diweddar), cyfrifeg ariannol i arbenigwyr, rheolaeth ariannol, buddsoddiadau, cyllid corfforaethol ynghyd â dewis eang o fodiwlau ym maes Marchnata, Busnes, Rheolaeth, Economeg, Cyllid a Chyfrifeg.
Gallwch hefyd ddewis cyfuno Marchnata gydag Economeg (N5L1) a bydd y modiwlau craidd yn trafod cyfrifiadura ar gyfer cyfrifeg a busnes, egwyddorion economaidd, materion llosg ym maes economeg, egwyddorion marchnata, yr amgylchedd busnes, dulliau meintiol ar gyfer cyfrifeg a busnes, economi Ewrop: datblygu ac integreiddio, sgiliau rheoli, sgiliau marchnata, rheoli marchnata, ymchwil farchnata, marchnata strategol, ymddygiad defnyddwyr, marchnata rhyngwladol, y cylch busnes a pholisi macro-economaidd, defnyddwyr, cwmnïau a marchnadoedd, cysylltiadau marchnata, strategaeth fusnes, astudiaethau achos ym maes marchnata, ac uwch-farchnata.
Mae modiwlau dewisol Marchnata gydag Economeg (N5L1) yn cynnwys dewis eang o fodiwlau ym maes Marchnata, Busnes, Rheolaeth, Economeg, Cyllid a Chyfrifeg.
Gallwch hefyd ddewis cyfuno Marchnata gyda Seicoleg (CN85) a bydd y modiwlau craidd yn trafod cyflwyniad i gyfrifiadura, egwyddorion economaidd, egwyddorion marchnata, dulliau meintiol ar gyfer cyfrifeg a busnes, cyflwyniad i’r amgylchedd busnes, cyflwyniad i seicoleg: cysyniadau a sut i’w cymhwyso, cyflwyniad i seicoleg: archwilio a chyfathrebu, agweddau ar seicobioleg a gwybyddiaeth, rheoli marchnata, marchnata strategol, ymchwil farchnata, yr ymennydd ac ymddygiad, seicoleg gymdeithasol a sut i’w chymhwyso, dulliau ymchwil, seicoleg wybyddol a sut i’w chymhwyso, gwahaniaethau rhwng unigolion a datblygiad hyd bywyd, prosiect ymchwil, ac astudiaethau achos ym maes marchnata.
Mae modiwlau dewisol Marchnata a Seicoleg (CN85) yn cynnwys ymchwil farchnata, marchnata rhyngwladol, cysylltiadau marchnata ac ymddygiad defnyddwyr.
Cliciwch yma i weld graddau cyfun Marchnata gyda phwnc arall