Astudiaethau Plentyndod
BA (Anhr) - 3 blynedd (rhan-amser ar gael)
Gradd Astudiaethau Plentyndod yn Aberystwyth
Mae blynyddoedd eich plentyndod yn cael eu hystyried yn gyfnod allweddol ar gyfer datblygu a dysgu yn y dyfodol. Bydd y cwrs hwn yn rhoi cyfle i chi ymchwilio i’r ffactorau sy’n effeithio ar ‘blentyndod’ a sut y gallai’r ffactorau hyn effeithio ar ddatblygiad plentyn yn y dyfodol. Bydd y cwrs yn tynnu ar amrywiaeth o ddisgyblaethau gan gynnwys cymdeithaseg, seicoleg ac astudiaethau addysgol er mwyn eich cynorthwyo i ddeall blynyddoedd plentyndod. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn gwybod sut mae plant yn tyfu, datblygu a dysgu, bydd y cwrs hwn yn rhoi cyfle i chi ymchwilio i’r cyfnod diddorol hwn yn natblygiad plentyn. Byddwch chi’n cael cyfle i gyfuno pynciau damcaniaethol â phrofiad ymarferol, ac felly bydd modd i chi ddatblygu’r sgiliau academaidd a phroffesiynol angenrheidiol i weithio gyda phlant. Bydd yn rhaid i chi gael gwiriad y Swyddfa Cofnodion Troseddol (CRB) neu wiriad cyfwerth er mwyn astudio rhai o'r modiwlau ar gyfer y radd hon. Bydd yr Ysgol Addysg a Dysgu Gydol Oes yn trefnu hyn, ond disgwylir i'r myfyrwyr dalu am y gwiriad (tua £64).
Strwythur Cwrs Astudiaethau Plentyndod
Hyd amser-llawn y cwrs yw 3 blynedd ond mae modd astudio ar sail rhan-amser. Yn ystod y radd, byddwch chi’n astudio cyfuniad o fodiwlau 'craidd' a modiwlau 'nad ydynt yn rhai craidd'. Dyma amlinelliad o’r modiwlau hyn:
Blwyddyn 1
- Polisïau a Materion mewn Addysg
- Datblygiad Plentyn
- Plant Ifanc yn Dysgu
- Gweithio drwy Chwarae
- Chwarae ar gyfer Deallusrwydd Emosiynol
- Darpariaeth Blynyddoedd Cynnar: Egwyddorion ac Ymarfer
- Sgiliau Astudio
- Cyflwyniad i Weithio gyda Grwpiau
Blwyddyn 2
- Seicoleg Dysgu a Meddwl
- Llythrennedd mewn Plant Ifanc
- Dulliau Ymchwil
- Amrywioldeb Diwylliannol mewn Addysg
- Addysg Ddwyieithog
- Gweithio gyda Phlant
- Dysgu yn y Gwaith
- Gwneud Synnwyr o'r Cwricwlwm
Blwyddyn 3
- Dadansoddi a Gwerthuso Dysgu a Sgiliau'n Feirniadol
- Traethawd Estynedig Mawr
- Datblygiad Mathemategol yn y Blynyddoedd Cynnar
- Plant a'r Cyfryngau
- Anghenion Addysgol Arbennig
- Iechyd ac Addysg
Bydd modd i chi hefyd ddewis modiwlau o adrannau eraill yn y Brifysgol os mynnwch.
Pwyntiau 'Gadael' a Chymhwysterau
Un atyniad unigryw am y cynllun gradd hwn yw bod pwyntiau ‘gadael’ ar ôl i chi gwblhau pob blwyddyn felly, os nad ydych chi’n gallu parhau i astudio am ba reswm bynnag, byddwch chi’n gadael gyda dyfarniad penodol.
- Ar ôl cwblhau 1 flwyddyn o astudio -Tystysgrif Addysg Uwch mewn Astudiaethau Plentyndod
- Ar ôl cwblhau 2 flynedd o astudio - Diploma Addysg Uwch mewn Astudiaethau Plentyndod
- Cwblhau’r radd yn llawn - Gradd BA (anrhydedd) mewn Astudiaethau Plentyndod
Hefyd, mae cyfle i fynd ar leoliad gwaith i gael profiad o weithio mewn lleoliad addysgol/plentyndod.
Gyrfaoedd sy'n gysylltiedig â'ch gradd Astudiaethau Plentyndod
Ar ôl cwblhau'r cwrs, bydd gennych radd anrhydedd BA. Mae gradd o'r fath yn dangos lefel o gyflawniad deallusol sy'n golygu y gallwch gystadlu am amrywiaeth o gyfleoedd am swyddi: yn benodol, byddai'r cymhwyster yn sail ddelfrydol i unrhyw un sydd eisiau gweithio mewn unrhyw leoliad addysgol neu yn y proffesiwn gofal cymdeithasol. Mae cwblhau'r Dystysgrif neu Ddiploma hefyd yn debyg o wella'ch cyfleoedd gwaith ym myd addysg, er enghraifft fel cynorthwyydd dysgu.
Fodd bynnag, efallai eich bod eisiau bod yn athro proffesiynol. Gall cwblhau'r radd hon yn llwyddiannus arwain hefyd at astudio cwrs hyfforddi athrawon cynradd am un flwyddyn yn amodol ar gais a chyfweliad lwyddiannus. Fel rheol sicrheir cyfweliad i'r holl raddedigion mewn Addysg am y cwrs TAR cynradd a gynhelir yng Nghanolfan Addysg Athrawon Gogledd a Chanolbarth Cymru (cynhelir y cwrs TAR cynradd ym Mhrifysgol Bangor).