Adran Gyfrifiadureg
Mae’r Adran Gyfrifiadureg yn Aberystwyth wedi ei hen sefydlu ond y mae’n parhau i arwain y blaen o ran ymchwil dechnolegol. Ar hyn o bryd mae gennym 60 aelod o staff addysgu, ymchwil ac ategol a thua 400 o israddedigion.
Mae’r adran yn gwneud gwaith ymchwil a datblygu pwysig mewn meysydd sy’n cynnwys roboteg, deallusrwydd artiffisial, biowybodeg, prosesu delweddau, cysylltiadau rhyngrwyd a pheirianneg meddalwedd, gan gydweithio â chwmnïau mawr Prydeinig a rhyngwladol. Oherwydd hyn, mae ein staff yn arloeswyr yn eu disgyblaethau. Fel myfyriwr, fe fyddwch chithau yn gweithio gyda’r technolegau a’r syniadau diweddaraf.
Mae galw mawr ymhlith cyflogwyr am ein graddedigion a’n myfyrwyr sy’n treulio blwyddyn mewn diwydiant. Fe welwch fod y bobl yn ein hadran yn broffesiynol ac yn gweithio ar ffin fwyaf blaengar y datblygiadau diweddaraf mewn technoleg, ond hefyd yn rhai cyfeillgar sy’n hawdd troi atyn nhw. Rydym yn eich cynghori’n gryf i drefnu ymweliad â ni er mwyn gweld drosoch eich hun.
O ran dysgu ac ymchwil cawsom ein dyfarnu yn un o brif adrannau Cyfrifiadureg y Deyrnas Unedig, yn ôl Good University Guide y Times.
Graddau
- MEng Peirianneg Meddalwedd
- BEng Peirianneg Meddalwedd
- Peirianneg i’r Rhyngrwyd
- Cyfrifiadureg y Rhyngrwyd a Gweinyddu Systemau
- Technoleg Gwybodaeth Busnes
- Cyfrifiadureg a Deallusrwydd Artiffisial
- Deallusrwydd Artiffisial a Roboteg
- Graffeg, Gweld a Gemau Cyfrifiadurol
- Cyfrifiadura Pobman
- Cyfrifiadura Cod Agored
- Prif Bwnc neu Anrhydedd Cyfun mewn Cyfrifadureg
- Prif Bwnc neu Anrhydedd Cyfun mewn Technoleg Gwybodaeth Busnes
- Cyfrifriadureg gyda phynciau eraill
Adnoddau
Fel y byddech yn ei ddisgwyl gan adran ymchwil bwysig, mae’r adnoddau sydd ar gael ar eich cyfer yn rhagorol. Yn ogystal â dau labordy addysgu sy’n llawn o weithfannau amlgyfrwng perfformiad uchel wedi'u cefnogi gan weinyddion canolog grymus, a labordy systemau digidol, mae tua 700 o gyfrifiaduron ledled y campws y gallwch eu defnyddio, gan gynnwys yn ein hadeilad ni, y prif lyfrgell a neuaddau preswyl y myfyrwyr. Mae’r cwbl wedi eu cysylltu â’r rhyngrwyd ac mae nifer o’r gweithfannau ar agor 24 awr y dydd. Mae cyswllt â’r rhyngrwyd ym mhob un o ystafelloedd gwely’r myfyrwyr yn y neuaddau preswyl.
Mae gan yr adran hefyd gyfarpar helaeth a ddefnyddir yn bennaf ar gyfer ymchwil, sydd ar gael at ddefnydd myfyrwyr ar eu blwyddyn olaf sy’n dewis prosiectau yn y meysydd ymchwil hyn. Mae’r cyfarpar hwn yn cynnwys pedwar robot diwydiannol, chwe robot symudol arbrofol, a nifer o systemau olrhain symudedd a delwedd a sawl darn o feddalwedd arbenigol, e.e. amgylcheddau rhithwir.
Y Flwyddyn mewn Gwaith
Gall treulio blwyddyn mewn gwaith cyn gorffen eich gradd fod yn ddefnyddiol tu hwnt. Fe ddewch yn ôl at eich astudiaethau gyda gwell dealltwriaeth o werth yr hyn yr ydych yn ei ddysgu a syniad gwell am y meysydd yr hoffech eu dilyn. Bydd gennych hefyd sgiliau personol gwell, megis rheoli amser a gallu gweithio mewn tîm. Rydym yn annog yr holl fyfyrwyr i dreulio blwyddyn mewn gwaith rhwng ail a thrydedd flwyddyn y cwrs.
I’r myfyrwyr hynny sy’n dilyn cynlluniau BEng ac MEng a’r rhai sy’n astudio Cyfrifiadureg gyda Ffrangeg, Almaeneg neu Sbaeneg, neu Cyfrifiadureg a Deallusrwydd Artiffisial, y mae blwyddyn mewn gwaith yn orfodol ac yn cael ei hasesu yn rhan o’r cynllun gradd. Gall myfyrwyr Cyfrifiadureg y Rhyngrwyd, Technoleg Gwybodaeth Busnes a Chyfrifiadureg hefyd ddewis treulio blwyddyn mewn gwaith. Mantais hyn yw eich bod yn parhau’n fyfyriwr yn ystod y flwyddyn allan, felly gallwch barhau i dalu prisiau gostyngol am rai gwasanaethau. Os ydych yn astudio Cyfrifiadureg gydag iaith Ewropeaidd, byddwch yn treulio’r flwyddyn mewn gwaith mewn gwlad lle siaredir yr iaith yr ydych yn ei hastudio. Yn y sefyllfa hon y mae weithiau’n bosibl treulio blwyddyn yn astudio mewn prifysgol yn Ewrop yn hytrach na bod mewn swydd gyflogedig.
Erbyn i chi orffen yr ail flwyddyn byddwch yn gwybod digon am Gyfrifiadureg i fod yn ddefnyddiol iawn i nifer o fusnesau, felly nid yw’n rhy anodd dod o hyd i leoliad gwaith. Ceir cymorth gan yr adran a chan weinyddwr y flwyddyn mewn gwaith i ddod o hyd i leoliadau posibl ac i ddatblygu eich CV a’ch techneg mewn cyfweliad.
Achredu Proffesiynol
Mae Cymdeithas Gyfrifiadureg Prydain (BCS) yn credydu ein cynlluniau ar ran y Cyngor Peirianneg. Mae’r Gymdeithas yn derbyn pob un o’n cynlluniau gradd anrhydedd sengl a phrif bwnc ar gyfer lefel briodol o gredydau. Cewch ragor o fanylion am hyn trwy gysylltu â Thiwtor Derbyn yr Adran.
Sgiliau Gwaith Tîm
Mae gallu gweithio’n effeithiol ac yn hapus mewn tîm yn hanfodol, yn enwedig yn y diwydiant meddalwedd. Yn eich blwyddyn gyntaf byddwch yn cymryd rhan mewn penwythnos o weithgareddau ymaith o Aberystwyth i ddysgu am greu timau a gwaith tîm mewn ffordd anacademaidd, iach. Caiff myfyrwyr eu rhoi mewn timau a thros y penwythnos byddwch yn mynd i’r afael â chyfres o dasgau a gynlluniwyd i ddangos sut mae tîm yn gweithio a’ch cryfderau chi mewn tîm. Yn ystod y penwythnos hefyd daw myfyrwyr y flwyddyn gyntaf i adnabod ei gilydd fel y gallant gydweithio ar brosiectau academaidd yn llawer haws yn nes ymlaen.
Yn yr ail flwyddyn byddwch yn rhoi’r hyn a ddysgoch ar waith, pan fydd yr holl fyfyrwyr yn cymryd rhan mewn prosiect grŵp. Gan gymryd un o’r swyddogaethau sy’n bodoli mewn diwydiant, megis rheolwr prosiect, cynllunydd neu reolwr sicrhau ansawdd, a dilyn yr arferion diwydiannol cyfoes gorau ar bob cam, byddwch yn cynhyrchu darn o feddalwedd gweithiol.
I’r rhai sy’n bwriadu treulio blwyddyn mewn gwaith cynhelir penwythnos arall o weithgareddau ym mhlasty hanesyddol Gregynog, er mwyn mireinio eich sgiliau tîm a hefyd i roi adborth i chi ar eich CV ac ar eich techneg mewn cyfweliad.
Gyrfaoedd
Mae bron pob un o’n graddedigion yn llwyddo i ddod o hyd i swyddi diddorol sy’n talu’n dda yn syth ar ôl graddio. Yn ogystal â gallu technegol gwerthfawr, mae ein cynlluniau gradd wedi eu cynllunio i ddatblygu sgiliau personol, trosglwyddadwy, megis ysgrifennu adroddiadau, rhoi cyflwyniadau a gweithio mewn tîm.
Ar y cyfan gellir rhannu cyflogwyr ein graddedigion i chwe chategori:
Cwmnïau cyflenwi – gweithio gyda chyflenwyr meddalwedd, cynnal a chadw systemau cyfrifiadurol a datblygu strategaethau TG.
Cwmnïau cynhyrchu cyfrifiaduron – cynllunio a datblygu systemau cyfrifiadurol newydd, hyfforddi a rhoi cyngor technegol i gwsmeriaid, neu waith marchnata a gwerthu.
Cwmnïau ac ymgyngoriaethau meddalwedd – datblygu meddalwedd arbenigol i broblemau busnes penodol, neu gynllunio pecynnau cyffredinol megis proseswyr geiriau a gemau.
Cynhyrchwyr systemau electronig – cynhyrchu meddalwedd i’r systemau sydd wedi eu hymgorffori mewn cynnyrch mor amrywiol â cheir, peiriannau golchi, systemau signalau ar y rheilffyrdd, ac awyrennau.
Darparwyr Datrysiadau Rhyngrwyd – cynhyrchu meddalwedd i’w ddefnyddio ar y rhyngrwyd, gweinyddu gwefannau a darparu datrysiadau telegyfathrebu.
Ymchwil ac addysg – (ar ôl astudiaeth bellach) gwaith ymchwil mewn prifysgol, dysgu cyfrifiadureg mewn ysgolion a cholegau.
Y Cynlluniau Gradd
Mae cynlluniau gradd yr Adran Gyfrifiadureg wedi eu trefnu ar batrwm modiwlar hyblyg. Cewch wybodaeth am y pwnc a meithrin y sgiliau craidd mewn modiwlau sy’n cyfateb i tua dwy ran o dair o’ch astudiaethau. Wedyn gallwch ddewis arbenigo mewn un o nifer o feysydd cyfrifiadurol neu ehangu’ch profiad trwy ddewis modiwlau o adrannau eraill.
Os ydych yn astudio Cyfrifiadureg neu Technoleg Gwybodaeth Busnes fel prif bwnc byddwch yn treulio dwy ran o dair o’ch amser yn yr adran a thraean eich amser yn adran eich is-bwnc. Bydd myfyrwyr anrhydedd cyfun yn treulio hanner eu hamser yn ein hadran ni a hanner eu hamser mewn adran arall.
Mae’r flwyddyn gyntaf yn rhoi sylfaen gyffredin i bob myfyriwr, os ydynt wedi astudio cyfrifiadureg o’r blaen ai peidio. Os nad ydych wedi astudio cyfrifiadureg o’r blaen, byddwch yn astudio modiwl sy’n cyflwyno cysyniadau datblygu meddalwedd, yr amgylchedd meddalwedd yn Aberystwyth, a iaith rhaglennu Java. Os ydych wedi astudio cyfrifiadureg o’r blaen yn yr ysgol neu mewn coleg, neu os oes gennych brofiad helaeth, byddwch hefyd yn dysgu Java ond mewn modiwl sy’n rhoi pwyslais ar gynllunio a rhaglennu yn gyffredinol.
Bydd modiwlau craidd eraill yn cyflwyno cronfeydd data (oni bai eich bod wedi eu hastudio ar gyfer lefel A neu gymhwyster cyfatebol), egwyddorion pensaernïaeth cyfrifiadur, rhaglennu ar gyfer y we a datblygiad personol a
phroffesiynol. Gallwch ddewis modiwlau eraill er mwyn cael rhagor o gefndir mewn pwnc neu gymryd cip ar faes y gellir ei astudio yn fanylach yn y blynyddoedd dilynol.
Yn yr ail flwyddyn byddwch yn arbenigo mewn maes o’ch dewis chi. Bydd yr holl fyfyrwyr yn astudio’r modiwl Software Development Lifecycle, sy’n cynnwys prosiect grŵp.
Yn ystod trydedd flwyddyn y dysgu byddwch yn treulio tua thraean eich amser yn cwblhau prosiect mawr mewn maes sydd o ddiddordeb i chi.
Kevin Bowler
BA Cyfrifiadureg
Dyfnaint