Deallusrwydd Artiffisial a Roboteg


GH76 - 3 blynedd a GH7P - 4 blynedd

Cysylltir Deallusrwydd Artiffisial a Roboteg gan yr awydd i greu systemau artiffisial, ac mae hyn wedi’i fasnacheiddio fwyfwy gan ddiwydiant. Dyma rai enghreifftiau o sut y defnyddir y dechnoleg ar hyn o bryd, a meysydd newydd: robotiaid i’r cartref (i ddiben adloniant ac i gynorthwyo pobl ag anghenion arbennig); roboteg ddiwydiannol ddeallus; systemau rheoli’r gadwyn gyflenwi sy’n seiliedig ar weithredwyr; a roboteg feddygol. Mae’r cynllun yn rhoi sylfaen gadarn yn y technolegau sylfaenol, yn ogystal â sgiliau galwedigaethol.

Mae’r radd hon yn rhoi sylfaen gadarn mewn sgiliau cyfrifiadurol, gan gynnwys:

  • Rhaglennu
  • Cyflwyniad i systemau gweithredu, gan gynnwys Unix
  • Cynllunio meddalwedd
  • Peirianneg meddalwedd
  • Agweddau proffesiynol ym maes peirianneg meddalwedd

Mae’n rhoi pwyslais ar sgiliau arbenigol yn y meysydd canlynol:

  • Dealltwriaeth ddamcaniaethol o Ddeallusrwydd Artiffisial a Roboteg
  • Defnyddio cysyniadau Deallusrwydd Artiffisial a Roboteg yn ymarferol
  • Offer i ddatblygu cymwysiadau Deallusrwydd Artiffisial a Roboteg
  • Rhyngweithio â thechnegau gwahanol ond cysylltiedig, er enghraifft yr elfen weledol, elfennau deallusrwydd wrth raglennu gemau, a Chyfrifiaduron Symudol

Prosiectau Blwyddyn Olaf

Mae'r prosiectau blwyddyn olaf a gyflawnwyd yn ddiweddar gan fyfyrwyr yn cynnwys:

  • Robot pedair coes
  • Robot symudol i ddosbarthu’r post
  • Monitor cyfradd calon

Gyrfaoedd

Mae’r radd hon yn dysgu sgiliau addas i unrhyw swydd nodweddiadol yn y diwydiant meddalwedd. Mae pwyslais penodol y rhaglen hefyd yn rhoi mantais i fyfyrwyr wrth iddynt wneud cais am swyddi mewn meysydd fel:

  • Roboteg ddiwydiannol sydd angen rhywfaint o reolaeth annibynnol neu ddeallusrwydd artiffisial
  • Roboteg feddygol
  • Rhaglennu cymwysiadau softbot ar gyfer problemau masnachol
  • Cynllunio a rhaglennu robotiaid deallus

Gwybodaeth y Cynllun Astudio

Mae wybodaeth ar y tudalen hon yn cyfeirio i'r cynlluniau sy'n isod:

Set Gwybodaeth Allweddol