BEng Peirianneg Meddalwedd


G600 - 4 blynedd

Mae’r radd BEng Peirianneg Meddalwedd yn canolbwyntio ar beirianneg broffesiynol systemau meddalwedd mawr o ansawdd uchel. Pwysleisir yr agwedd broffesiynol ac mae hyn yn ychwanegu at yr enw da sydd gan raddedigion Peirianneg Meddalwedd o Aberystwyth.

Bydd myfyrwyr Peirianneg Meddalwedd yn treulio blwyddyn mewn gwaith yn rhan orfodol o’r cwrs. Mae hon yn flwyddyn allweddol er mwyn ennill profiad ymarferol o’r sgiliau sy’n cael eu meithrin yn ystod dwy flynedd gyntaf yr astudio. Mae’r flwyddyn hefyd yn gwella gallu myfyrwyr i elwa ar astudiaethau eu blwyddyn olaf.

Mae’r radd hon yn rhoi sylfaen gadarn mewn sgiliau cyfrifiadurol, gan gynnwys:

  • Rhaglennu (amryw ieithoedd addas i’r pwnc) gyda phwyslais ar safon uchel o gynllunio a datblygu
  • Datblygu meddalwedd ar raddfa fawr
  • Materion proffesiynol ym maes peirianneg meddalwedd
  • Telegyfathrebu
  • Systemau rheoli cronfeydd data
  • Systemau rhaglennu C ac Unix
  • Technolegau systemau gwasgaredig

Mae myfyrwyr hefyd yn datblygu sgiliau arbenigol a ddewisir o blith amryw ddisgyblaethau a gynigir yn yr adran, gan gynnwys graffeg a delweddau, deallusrwydd artiffisial, roboteg, telemateg a chyfrifiaduron symudol.

Prosiectau Blwyddyn Olaf

Mae mwyafrif myfyrwyr y radd Peirianneg Meddalwedd yn cysylltu eu gwaith prosiect yn uniongyrchol ag anghenion masnachol ac yn aml yn mynd i’r afael â phroblemau y daethant ar eu traws yn ystod eu blwyddyn mewn gwaith. Mae rhai prosiectau diweddar yn cynnwys:

  • System feddalwedd ar-lein i reoli ymholiadau desg gymorth
  • Rhyngweithio rhwng rhieni ac athrawon mewn ysgol
  • Rheoli mynediad di-wifr mewn caffi rhyngrwyd

Gyrfaoedd

Mae’r radd hon yn dysgu sgiliau priodol i’r rhan fwyaf o swyddi technegol yn y diwydiant meddalwedd. Aeth graddedigion i swyddi mewn cwmnïau bach a mawr a hefyd i gyrff cysylltiedig â’r Llywodraeth.

Caiff ein graddedigion eu canmol yn aml am eu hagwedd broffesiynol tuag at Beirianneg Meddalwedd.

Gwybodaeth y Cynllun Astudio

Mae wybodaeth ar y tudalen hon yn cyfeirio i'r cynlluniau sy'n isod:

Set Gwybodaeth Allweddol