Technoleg Gwybodaeth Busnes
G500 - 3 blynedd, G501 - 4 blynedd
Mae Technoleg Gwybodaeth Busnes yn ymwneud â dulliau a thechnolegau y gellir eu defnyddio i greu systemau TG sy’n delio’n effeithiol â phroblemau busnes.
Yn y gorffennol byddai’n rhaid bod wedi cynnwys elfen gref o raglennu, ond wrth i dechnoleg ddatblygu, mae bellach yn bosibl defnyddio offer sydd ar gael eisoes yn ‘flociau adeiladu’ i greu cymwysiadau effeithiol gydag ychydig iawn o raglennu. Mae hyn yn caniatáu canolbwyntio’n benodol ar adeiladu cymwysiadau busnes ac ar anghenion busnes.
Bydd y radd hon yn rhoi’r pwyslais ar ddadansoddi anghenion busnesau a’u trosi yn systemau busnes wedi eu creu o flociau adeiladu sy’n cynnwys meddalwedd cyffredin.
Mae’r radd hon yn rhoi sail gadarn mewn sgiliau cyfrifiadurol a sgiliau dadansoddi busnes:
- Rhaglennu i’r we
- Dadansoddi systemau
- Cymwysiadau cronfeydd data masnachol
- Systemau rheoli cronfeydd data
Mae hefyd yn rhoi pwyslais ar sgiliau arbenigol yn y meysydd canlynol:
- Peirianneg prosesau busnes
- Systemau e-fasnach
- Dethol offer y we
- Agweddau masnachol ar ddefnyddio Technoleg Gwybodaeth
- Cynllunio cymwysiadau cronfeydd data masnachol
- Diogelwch ar y Rhyngrwyd
Prosiectau Blwyddyn Olaf
Mae'r prosiectau blwyddyn olaf a gyflawnwyd yn ddiweddar gan fyfyrwyr yn cynnwys:
- System Rheoli Cysylltiadau: cymhwysiad busnes ar-lein, er mwyn i staff gwerthu a marchnata gadw cofnodion ac apwyntiadau gyda chwsmeriaid.
- System archebu i westy, a adeiladwyd gan ddefnyddio offer a oedd ar gael ar y we. Mae’r system ei hun yn floc adeiladu y gellir ei lawrlwytho a’i ymgorffori i wefannau eraill.
Gyrfaoedd
Mae’r cynllun TG Busnes yn cynhyrchu graddedigion sydd â dealltwriaeth dda o ofynion y byd masnachol o ran systemau cyfrifiadurol ac agwedd broffesiynol tuag at adeiladu’r systemau hynny o elfennau sylfaenol swyddfa, y we a chronfeydd data.
Bydd y cynllun yn fanteisiol wrth geisio am swyddi sy’n cynnwys:
- Adeiladu systemau masnachol gan ddefnyddio gwahanol offer a blociau adeiladu
- Defnyddio technegau dadansoddi i gyflwyno TG i ddatrys problemau busnes
- Darparu datrysiadau masnachol ar ffurf cronfeydd data ac ar y we