Graffeg, Gweld a Gemau Cyfrifiadurol
GG4R - 3 blynedd a G451 - 4 blynedd
Datblygodd yr elfen weledol, prosesu delweddau, graffeg a delweddu yn feysydd pwysig mewn cyfrifiadureg yn y ddegawd a aeth heibio. Mae datblygiadau academaidd a diwydiannol yn creu galw mawr am raddedigion cyfrifiadureg sy’n arbenigo yn y meysydd hyn. Mae’r cymwysiadau penodol yn cynnwys datblygu gemau, deall delweddau (meddygol), effeithiau arbennig mewn ffilmiau a rheoli ansawdd mewn diwydiant. Mae’r radd hon yn rhoi sylfaen gadarn yn nhechnolegau elfennol y maes yn ogystal â sgiliau galwedigaethol.
Mae’r radd hon yn rhoi sylfaen gadarn mewn sgiliau cyfrifiadurol, gan gynnwys:
- Rhaglennu
- Cyflwyniad i systemau gweithredu, gan gynnwys Unix
- Cynllunio meddalwedd
- Peirianneg meddalwedd
- Materion proffesiynol ym maes peirianneg meddalwedd
Mae’n rhoi pwyslais ar sgiliau arbenigol yn y meysydd canlynol:
- Offer i ddatblygu cymwysiadau gweledol a graffeg
- Agweddau damcaniaethol ac ymarferol ar yr elfen weledol a graffeg cyfrifiaduron
- Cyflwyniad i gynllunio a rhaglennu gemau
- Technegau cysylltiedig: Deallusrwydd Artiffisial a Chyfrifiaduron Symudol
Prosiectau Blwyddyn Olaf
Mae'r prosiectau blwyddyn olaf a gyflawnwyd yn ddiweddar gan fyfyrwyr yn cynnwys:
- Gêmau bwrdd, gêmau arcêd 2D
- Technolegau deinamig a gweithdrefnol gemau, amgylcheddau rhithwir, ymddygiad emosiynol botiaid
- Yr agwedd weledol gyfrifiadurol ar gyfer roboteg
- Canfod canser mewn profion mamogram
Disgwylir y bydd rhai prosiectau yn y dyfodol yn gweithio’n agos â’r Ganolfan Ragoriaeth newydd ym maes Delweddu (www.see3d.org.uk).
Gyrfaoedd
Mae’r cynllun yn dysgu sgiliau addas i unrhyw swydd nodweddiadol yn y diwydiant meddalwedd. Mae pwyslais penodol y rhaglen hefyd yn rhoi mantais i fyfyrwyr wrth iddynt geisio am swyddi mewn meysydd fel:
- Deall/prosesu delweddau diwydiannol/meddygol
- Rhaglennu graffeg lefel canolig i uchel (2D a 3D)
- Rhaglennu datrysiadau a meddalwedd delweddu
- Cynllunio a rhaglennu gêmau
- Datblygu cymwysiadau graffeg i ddyfeisiadau symudol