Cyfrifiadureg a Deallusrwydd Artiffisial
GG4R - 3 blynedd a GG47 - 4 blynedd
Mae Deallusrwydd Artiffisial (DA) yn archwilio systemau artiffisial sy’n gallu gwneud pethau yr ystyrir fel arfer bod angen deallusrwydd i’w cyflawni. Dros y blynyddoedd daeth technegau DA yn gyffredin mewn diwydiant, er enghraifft yn y ci gan Sony Aibo, sy’n gampwaith peirianyddol, neu’r peiriant golchi yn eich cegin. O ganlyniad, mae galw mawr am raddedigion Cyfrifiadureg sydd â hyfforddiant penodol mewn Deallusrwydd Artiffisial.
Mae’r radd hon yn rhoi sylfaen gadarn mewn sgiliau cyfrifiadurol, gan gynnwys:
- Rhaglennu
- Cyflwyniad i systemau gweithredu, gan gynnwys Unix
- Cynllunio meddalwedd
- Peirianneg meddalwedd
- Materion proffesiynol ym maes peirianneg meddalwedd
Mae’n rhoi pwyslais ar sgiliau arbenigol yn y meysydd canlynol:
- Cymhwyso DA yn ymarferol gan ddefnyddio egwyddorion cyfrifiadureg mewn amrywiol brosiectau
- Offer addas i ddatblygu rhaglenni cyfrifiadurol, yn arbennig rhaglenni sydd ag elfen o DA
- Dealltwriaeth ddamcaniaethol o DA
- Rhyngweithio â thechnegau gwahanol ond cysylltiedig, er enghraifft yr elfen weledol, elfennau deallusrwydd wrth raglennu gêmau, Roboteg a Chyfrifiaduron Symudol
Prosiectau Blwyddyn Olaf
Mae'r prosiectau blwyddyn olaf a gyflawnwyd yn ddiweddar gan fyfyrwyr yn cynnwys:
- Deallusrwydd artiffisial yn Second Life
- Dysgu iaith trwy Lingo gyda DA
- Efelychu byd-eang 2D
Gyrfaoedd
Mae’r radd hon yn darparu sgiliau addas i unrhyw swydd nodweddiadol yn y diwydiant meddalwedd. Mae pwyslais penodol y cwrs hefyd yn rhoi mantais i fyfyrwyr wrth iddynt chwilio am swydd mewn meysydd fel:
- Meysydd cymhwyso sydd angen ymreolaeth neu ddeallusrwydd artiffisial
- Tasgau meddygol a/neu biowybodeg sydd angen cefndir da mewn deallusrwydd cyfrifiadurol
- Rhaglennu cymwysiadau softbot ar gyfer problemau masnachol/busnes
- Cynllunio a gweithredu rheolwyr deallus tebyg i’r rhai sydd eu hangen mewn roboteg
- Rheoli a dadansoddi systemau gweld, dal delwedd, cael gwybodaeth o ddelwedd