Cyfrifiadureg
BSc G400 - 3 blynedd a G401 - 4 blyneddHon yw’r radd fwyaf hyblyg a gynigir yn yr adran. Os dymunant, gall myfyrwyr ddilyn hyd at draean o’u modiwlau y tu allan i’r adran bob blwyddyn. Mae’r radd Cyfrifiadureg yn darparu’r modiwlau craidd a ddisgwylir gan unrhyw fyfyriwr Cyfrifiadureg.
Mae’r radd hon yn rhoi sylfaen gadarn mewn sgiliau cyfrifiadurol:
- Rhaglennu
- Cyflwyniad i systemau gweithredu, gan gynnwys Unix
- Cynllunio meddalwedd
- Peirianneg meddalwedd
- Materion proffesiynol ym maes peirianneg meddalwedd
- Telegyfathrebu
- Systemau rheoli cronfeydd data
- Rhyngweithio pobl a chyfrifiaduron
- Methodolegau chwim
Ceir cyfle hefyd i feithrin sgiliau arbenigol trwy ddewis modiwlau o’n cynlluniau gradd eraill: peirianneg meddalwedd; graffeg a delweddu; deallusrwydd artiffisial; roboteg; telemateg; cyfrifiaduron symudol; a chyfrifiadura cod agored.
Prosiectau Blwyddyn Olaf
Mae llawer o fyfyrwyr Cyfrifiadureg yn paratoi prosiectau sy’n uniongyrchol gysylltiedig ag anghenion masnachol neu sy’n deillio o flwyddyn y myfyriwr mewn diwydiant. Dyma rai enghreifftiau:
- System llety i neuaddau preswyl y Brifysgol
- System archebu tocynnau i’r Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu
- Rhyngwyneb plant a delweddu i Google
Gyrfaoedd
Mae’r radd hon yn darparu sgiliau addas i unrhyw swydd nodweddiadol yn y diwydiant meddalwedd. Mae’n rhoi mantais i ymgeiswyr mewn maes lle mae hyblygrwydd, agwedd broffesiynol a pharodrwydd i ddysgu sgiliau newydd yn elfennau pwysig.

Please turn on JavaScript.