Cyfrifiadureg y Rhyngrwyd a Gweinyddu Systemau
Cyfrifiadureg y Rhyngrwyd a Gweinyddu Systemau - H602 - 3 blynedd
Cyfrifiadureg y Rhyngrwyd a Gweinyddu Systemau - H603 - 4 blynedd
Mae’r Rhyngrwyd yn rhan allweddol o strategaeth fusnes llawer iawn o gwmnïau mawr ac mae galw mawr am weithwyr sy’n gallu creu rhaglenni effeithiol ar y Rhyngrwyd er mwyn cwrdd â gofynion busnes modern.
Mae’r radd Cyfrifiadureg y Rhyngrwyd a Gweinyddu Systemau yn cyfuno hyfforddiant ymarferol ar gyfer creu gwefannau proffesiynol ag astudiaeth o gyd-destun masnachol, cyfreithiol a thechnegol y Rhyngrwyd. Gellir treulio blwyddyn mewn gwaith yn ystod y cwrs, ond nid yw hynny’n orfodol.
Mae’r cynllun yn rhoi sylfaen gadarn mewn sgiliau cyfrifiadureg a sgiliau dadansoddi busnes, gan gynnwys:
- Rhaglennu i’r we
- Cynllunio gwefannau
- Dadansoddi systemau
- Gwefannau a weinyddir gan gronfeydd data
- Peirianneg meddalwedd
- E-fasnach
- Prosesau masnachol
- Materion proffesiynol ym maes peirianneg meddalwedd
- Diogelwch ar y Rhyngrwyd
Mae hefyd yn rhoi pwyslais ar sgiliau arbenigol yn y meysydd canlynol:
- Peirianneg prosesau busnes
- Systemau e-fasnach a diogelwch y rhyngrwyd
- Dewis o offer i’w defnyddio ar y we
- Agweddau masnachol defnyddio’r rhyngrwyd
- Cynllunio cymwysiadau gwe masnachol
Prosiectau Blwyddyn Olaf
Mae'r prosiectau blwyddyn olaf a gyflawnwyd yn ddiweddar gan fyfyrwyr yn cynnwys:
- Prosiect i greu cymhwysiad busnes ar-lein er mwyn cynhyrchu dogfennau ar y cyd i’w cyhoeddi ar y we fyd-eang neu ar fewnrwyd leol.
- System gofnodi cynghreiriau aml-gamp ar-lein i’w defnyddio gan glybiau chwaraeon ac y gellir ei diweddaru gan ddefnyddio ffonau symudol.
Gyrfaoedd
Mae’r cynllun yn cynhyrchu graddedigion sydd â dealltwriaeth dda o gynllunio gwefannau a’r gyfrifiadureg sydd ei hangen i ddatblygu a chynnal gwefan fodern. Bydd agwedd broffesiynol tuag at greu gwefannau a dealltwriaeth dda o’r prosesau busnes y tu ôl i gymwysiadau gwefannau masnachol yn rhoi mantais i raddedigion wrth wneud cais am swydd lle mae angen:
- Adeiladu gwefannau modern a weinyddir gan gronfeydd data gan ddefnyddio offer ac elfennau addas
- Defnyddio technegau peirianneg i gael canlyniadau safonol
- Defnyddio’r we a chronfeydd data i ddarparu datrysiadau amser real i ddiwydiant, masnach a’r sector cyhoeddus.