Peirianneg i’r Rhyngrwyd


H622 - 4 blynedd

Dyma gynllun tebyg i’r BEng mewn Peirianneg Meddalwedd, ond bod y cynllun hwn yn canolbwyntio ar broblemau penodol creu datrysiadau meddalwedd ar gyfer y Rhyngrwyd.

Yn ogystal â’r modiwlau craidd a nodir ar gyfer BEng Peirianneg Meddalwedd, bydd myfyrwyr yr ail flwyddyn hefyd yn astudio modiwlau ar ddatblygu’r We, a dylunio a chreu cymwysiadau Rhyngrwyd.

Mae’r cynllun yn cynnwys blwyddyn mewn gwaith a’r bwriad yw eich bod yn treulio’r flwyddyn gyda chwmni rhyngrwyd.

Bydd y flwyddyn astudio olaf yn cynnwys holl fodiwlau craidd y rhaglen BEng Peirianneg Meddalwedd, ac ar ben hynny bydd myfyrwyr yn astudio modiwlau ar bensaernïaeth y Rhyngrwyd, technolegau rhwydwaith, a rheoli a gweinyddu gwasanaethau Rhyngrwyd.

Bydd prosiect sylweddol y flwyddyn olaf yn ymwneud â phwnc addas sy’n gysylltiedig â’r Rhyngrwyd.

Gwybodaeth y Cynllun Astudio

Mae wybodaeth ar y tudalen hon yn cyfeirio i'r cynlluniau sy'n isod:

Set Gwybodaeth Allweddol