Prif Bwnc neu Anrhydedd Cyfun mewn Cyfrifiadureg


3 neu 4 blynedd

Mae'r cynlluniau Anrhydedd Cyfun yn cynnwys:

  • Cyfrifiadureg a Daearyddiaeth FG84
  • Cyfrifiadureg a Mathemateg GG14
  • Cyfrifiadureg a Ffiseg FG34

Dyma gyfuniadau Prif Bwnc/Is-bwnc poblogaidd:

  • Cyfrifiadureg gyda Chyfrifeg a Chyllid G4N4
  • Cyfrifiadureg gyda Busnes a Rheolaeth G4N1
  • Cyfrifiadureg gyda Chymraeg G4Q5*
  • Cyfrifiadureg gyda Chymraeg (i ddechreuwyr) G4QM
  • Cyfrifiadureg gyda Ffrangeg G4R1
  • Cyfrifiadureg gydag Almaeneg G4R2
  • Cyfrifiadureg gyda Sbaeneg G4R4

* = Cwrs a ddysgir yn gyfangwbl neu’n rhannol trwy’r Gymraeg.

Wrth astudio Cyfrifiadureg yn brif bwnc neu’n rhan o raglen anrhydedd cyfun cewch addysg dechnegol a phroffesiynol gadarn mewn Cyfrifiadureg a chyfle hefyd i dreulio traean o’ch amser yn astudio rhaglen gydlynol o fodiwlau mewn pwnc arall. Yr un yw’r modiwlau craidd â’r rhai i’r cwrs BSc mewn Cyfrifiadureg.

Pan astudir Cyfrifiadureg gyda iaith Ewropeaidd, yn y flwyddyn gyntaf, y drydedd a’r bedwaredd byddwch yn treulio un rhan o dair o’ch amser yn astudio’r iaith. Mae blwyddyn mewn diwydiant yn rhan o’r cwrs a fydd yn cael ei asesu. Mae gan yr adran nifer o gysylltiadau â chwmnïau yn Ewrop, trwy brosiectau ymchwil ar y cyd, ac fe gewch gymorth i ddod o hyd i leoliadau gwaith yn y diwydiant cyfrifiadurol yn y wlad briodol.

Gwybodaeth y Cynllun Astudio

Mae wybodaeth ar y tudalen hon yn cyfeirio i'r cynlluniau sy'n isod:

Set Gwybodaeth Allweddol