MEng Peirianneg Meddalwedd


G600 - 4 blynedd, G601 - 5 mlynedd

Mae ein rhaglen nodedig, y cynllun MEng 5 mlynedd mewn Peirianneg Meddalwedd, yn canolbwyntio ar beirianneg broffesiynol systemau meddalwedd mawr o ansawdd uchel. Pwysleisir yr agwedd broffesiynol ac mae hyn yn ychwanegu at yr enw da sydd gan raddedigion Peirianneg Meddalwedd o Aberystwyth. Bydd myfyrwyr Peirianneg Meddalwedd yn treulio blwyddyn mewn gwaith yn rhan orfodol o’u gradd. Mae hon yn flwyddyn allweddol er mwyn ennill profiad ymarferol o’r sgiliau sy’n cael eu meithrin yn ystod dwy flynedd gyntaf yr astudio.

Wedi eu blwyddyn mewn gwaith mae myfyrwyr MEng yn astudio am ddwy flynedd arall. Yn ystod y cyfnod yma maent yn paratoi prosiectau unigol ac mewn timau yn ogystal â dilyn modiwlau’r cwrs ar lefel Meistr. Mae sialensau penagored yn gyffredin ar y lefel hon, ac mae llwyddiant yn dibynnu ar agwedd annibynnol ond hollol broffesiynol a threfnus tuag at astudio.

Mae’r radd hon yn rhoi sylfaen gadarn mewn sgiliau cyfrifiadurol:

  • Rhaglennu (amryw ieithoedd addas i’r pwnc) gyda phwyslais ar safon uchel o gynllunio a datblygu
  • Datblygu meddalwedd ar raddfa fawr
  • Materion proffesiynol ym maes peirianneg meddalwedd
  • Telegyfathrebu
  • Systemau rheoli cronfeydd data
  • Systemau rhaglennu C ac Unix
  • Technolegau systemau gwasgaredig
  • Systemau lle mae diogelwch yn hollbwysig
  • Fforenseg gyfrifiadurol

Mae myfyrwyr hefyd yn datblygu sgiliau arbenigol a ddewisir o blith amryw ddisgyblaethau a gynigir yn yr adran, gan gynnwys graffeg a delweddau, deallusrwydd artiffisial, roboteg, telemateg a chyfrifiaduron symudol.

Prosiectau Blwyddyn Olaf

Mae mwyafrif myfyrwyr y radd Peirianneg Meddalwedd yn cysylltu eu gwaith prosiect yn uniongyrchol ag anghenion masnachol ac yn aml yn mynd i’r afael â phroblemau y daethant ar eu traws yn ystod eu blwyddyn mewn gwaith. Aiff hanner amser myfyrwyr MEng ar brosiectau yn y flwyddyn olaf. Mae rhai prosiectau diweddar yn cynnwys:

  • Modelu tirwedd tri-dimensiwn ar Ddyfeisiau Amlgyfrwng Cyfyngedig cysylltiedig
  • System reoli ar gyfer robot hwylio annibynnol
  • Adnodd i ddosbarthu mathau o gerddoriaeth yn awtomatig

Gyrfaoedd

Mae’r radd hon yn dysgu sgiliau priodol i’r rhan fwyaf o swyddi technegol yn y diwydiant meddalwedd. Mae safon uchel y graddedigion Peirianneg Meddalwedd MEng wedi helpu i sicrhau swyddi iddynt gyda British Aerospace, CAP Gemini a chwmnïau datblygu meddalwedd rhyngwladol mawrion eraill.

Gwybodaeth y Cynllun Astudio

Mae wybodaeth ar y tudalen hon yn cyfeirio i'r cynlluniau sy'n isod:

Set Gwybodaeth Allweddol