Cyfrifiadura Cod Agored
G402 - 3 blynedd a G403 - 4 blynedd
Mae’r cynllun gradd Cyfrifiadura Cod Agored yn trafod rhaglennu, systemau gweithredu cyfrifiaduron, dylunio meddalwedd a pheirianneg systemau meddalwedd mawr, yn enwedig o safbwynt cod agored. Mae pwyslais y cwrs ar sgiliau galwedigaethol a phroffesiynol.
Bu meddalwedd Cod Agored ar gael ers sawl blwyddyn bellach ond, er hynny, ychydig iawn o gynlluniau gradd sy’n trafod y pwnc yn fanwl sydd ar gael yn y DU. Dyma rai enghreifftiau enwog o feddalwedd cod agored: GNU/Linux, OpenOffice, Gimp, Apache (gweinydd gwe mwyaf poblogaidd y byd) a Sendmail (gweinydd post mwyaf poblogaidd y byd), yn ogystal â Bind, na fyddai’r rhyngrwyd yn bodoli hebddo.
Disgwylir i brosiect y flwyddyn olaf fod yn brosiect sylweddol a ddatblygir gan ddefnyddio egwyddorion cod agored.
Mae’r radd yn rhoi sylfaen gadarn mewn sgiliau cyfrifiadurol, gan gynnwys:
- Dylunio meddalwedd a rhaglennu Java
- Rhaglennu ar gyfer y we
- Cyflwyniad i systemau gweithredu, gan gynnwys Unix
- Systemau rheoli cronfeydd data
- Materion proffesiynol ym maes peirianneg meddalwedd
Mae’n rhoi’r pwyslais ar sgiliau arbenigol yn y meysydd isod:
- Rhaglennu C++ ar gyfer prosiectau cod agored
- Rheoli prosiectau cod agored
- Rhaglennu ar gyfer systemau C ac Unix
- Materion sy'n ymwneud â Thrwyddedu Meddalwedd
Gyrfaoedd
Bydd y cynllun gradd hwn, sy’n seiliedig ar rannau sylfaenol o’r cynllun gradd Cyfrifiadureg, yn meithrin sgiliau addas ar gyfer unrhyw swydd nodweddiadol yn y diwydiant meddalwedd. Fodd bynnag, bydd hefyd yn agor drysau yn y byd cod agored, a bydd hynny yn werthfawr ym myd diwydiant ac o safbwynt y gwaith gwirfoddol sylweddol a wneir i ddatblygu meddalwedd yn fyd-eang.