Cyfrifiadura Pobman


Cyfrifiadura Pobman - G420 - 3 blynedd
Cyfrifiadura Pobman - G421 - 4 blynedd

Mae Cyfrifiadura Pobman yn trafod technolegau datblygol ar gyfer cyfrifiaduron symudol a rhai ysgafn iawn. Ffonau symudol a chynorthwywyr digidol personol (PDA) yw asgwrn cefn y chwyldro hwn, ond mae ymddangosiad rhwydweithiau personol o elfennau hynod ysgafn (ffisegol a chyfrifiadurol) yn golygu bod cymwysiadau a thechnolegau cwbl newydd yn bosib.

Mae’r meysydd lle defnyddir y dechnoleg yn cynnwys systemau menter gwasgaredig sy’n cyfnewid gwybodaeth bwysig rhwng ffonau symudol/PDA a chronfeydd data corfforaethol, gemau i ddyfeisiadau symudol a rhwydweithiau personol o elfennau gwisgadwy sy’n seiliedig ar ficro-reolwyr di-wifr (Bluetooth) amrediad byr.

Mae’r radd hon yn archwilio’r technolegau hyn a’r sialensau sefydliadol ar lefel meddalwedd a rhwydwaith. Canolbwyntir ar ddatrysiadau technolegol ond hefyd pwysleisir ystyriaethau moesegol a rhyngweithio â’r defnyddiwr. Mae’n cyfuno golwg grwn ar y technolegau newydd ag agweddau realistig a chyfrifol tuag at eu defnydd.

Mae’r cynllun yn rhoi sylfaen gadarn mewn sgiliau cyfrifiadurol, gan gynnwys:

  • Cynllunio meddalwedd a rhaglennu Java
  • Rhaglennu i’r we
  • Cyflwyniad i systemau gweithredu, gan gynnwys Unix
  • Systemau rheoli cronfeydd data
  • Materion proffesiynol ym maes peirianneg meddalwedd

Mae’n rhoi pwyslais ar sgiliau arbenigol yn y meysydd canlynol:

  • Rhaglennu C a C+ i Windows Mobile 5
  • Cyfathrebu a thelemateg Caledwedd (gan gynnwys Bluetooth a thechnolegau di-wifr eraill)
  • Rhaglennu symudol, ymgorfforedig a gwisgadwy
  • Systemau bach amser-real
  • Cyfrifiaduron hollbresennol

Prosiectau Blwyddyn Olaf

Mae'r prosiectau blwyddyn olaf a gyflawnwyd yn ddiweddar gan fyfyrwyr yn cynnwys:

  • Gêm ffôn symudol “Grobbits”: gêm debyg i Pac-man gyda graffeg a sain da i’w lawrlwytho o’r we i ffôn symudol
  • Meddalwedd cynllunio ffitrwydd: system ar y we i greu cynlluniau ffitrwydd personol wedi’u seilio ar ddarlleniadau o fonitor curiad calon Bluetooth, ac yna’u hanfon yn ddyddiol at gwsmeriaid ar ffôn symudol

Gyrfaoedd

Mae’r cynllun yn dysgu sgiliau addas i unrhyw swydd nodweddiadol yn y diwydiant meddalwedd. Mae’r pwyslais penodol hefyd yn rhoi mantais i fyfyrwyr wrth iddynt wneud cais am swyddi mewn meysydd megis:

  • Rhaglennu cymwysiadau/gemau i ffonau symudol
  • Adeiladu systemau menter gwasgaredig sy’n gysylltiedig â ffonau neu gynorthwywyr digidol personol
  • Adeiladu cymwysiadau cyfrifiadurol gwasgaredig ysgafn megis rhwydweithiau o synwyryddion a systemau cyfrifiadurol gwisgadwy

Gwybodaeth y Cynllun Astudio

Mae wybodaeth ar y tudalen hon yn cyfeirio i'r cynlluniau sy'n isod:

Set Gwybodaeth Allweddol