Cyrsiau i Israddedigion
Bues i’n ymweld ag Aberystwyth ar Ddiwrnod Agored, a dywedais os nad oeddwn i’n gallu dod i Aberystwyth, na fydden i’n mynd i’r brifysgol. Syrthiais mewn cariad â’r lle yn syth, mae popeth mor agos at ei gilydd. Mae’n gyfleus iawn.
Mae’r adran yn dda iawn. Mae’r darlithwyr yn gyfeillgar ac yn gynorthwyol iawn, ac mae yna rywun ar gael i ateb fy nghwestiynau bob tro.
Mae’r cyfleusterau chwaraeon yn dda iawn. Bues i’n syrffio wythnos diwethaf ac yn dringo yng Ngogledd Cymru ddoe – maen nhw i gyd o fewn tafliad carreg i Aberystwyth. Mae yna wastad ddiwrnod rhydd ar gael, ac os ydych chi’n trefnu’ch gwaith yn iawn, mae yna ddigon o amser i gael syrffio cyn
darlithoedd!!
Mae yma wir ymdeimlad o gymuned. Pan fyddwch chi’n mynd i’r dre byddwch chi’n gweld wyneb cyfarwydd ac yn gwybod bod rhywun o gwmpas drwy’r amser. Alla i ddim meddwl am unrhyw beth dwi ddim yn ei hoffi am Aberystwyth! Efallai’r daith yma, ond mae’n werth ei gwneud.
Mae’r bywyd cymdeithasol yma’n dda, mae yma awyrgylch ym mhobman, ac mae’n wahanol i unrhyw le arall. Mae yma lawer o dafarndai a dau glwb nos, ac mae ganddyn nhw eu hawyrgylch unigryw eu hunain. Byddwn i’n sicr yn argymell Aberystwyth i eraill. I unrhyw un sy’n ystyried gwneud gwyddorau gwledig fel fi, mae’n berffaith. Dyw’r lle ddim yn frawychus fel mae dinasoedd yn gallu bod, ac mae yma wir deimlad o gymuned.