Rheoli Cefn Gwlad

D455 - 3 blynedd

Os oes gennych ddiddordeb mewn gyrfa yn gweithio yng nghefn gwlad i fudiadau megis yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol neu’r parciau cenedlaethol, yna mae’r cwrs galwedigaethol hwn yn addas ar eich cyfer. Bydd y cwrs yn eich paratoi trwy roi gwybodaeth a meithrin sgiliau angenrheidiol ar gyfer gwaith ym maes Rheoli Cefn Gwlad. Byddwch yn astudio amrywiaeth eang o bynciau trwy gyfuniad o ddarlithoedd, ymweliadau, teithiau astudio ac aseiniadau sy’n ymwneud â’r gwaith. Trwy ddewis modiwlau gallwch deilwra’r cwrs i weddu i’ch diddordebau a’ch gobeithion gyrfa chi. Bydd gennych hefyd y dewis i astudio rhywfaint o’r cwrs dramor mewn prifysgol yn Ewrop neu’r Unol Daleithiau, ac i gael profiad gwaith.

Cynnwys a Strwythur

Mae ar weithwyr ym maes rheoli cefn gwlad angen gwybodaeth gynhwysfawr am y materion a’r prosesau sy’n cyfuno i greu’r ardaloedd cefn gwlad sydd mor bwysig i ni. Yn hyn o beth mae’r meysydd astudio’n rhai amrywiol iawn, ac yn cynnwys:

Blwyddyn 1

Daeareg a ffurfiau tir; ecoleg; mudiadau cefn gwlad; cymunedau gwledig; hamdden cefn gwlad; archaeoleg; twristiaeth; economeg wledig; amaethyddiaeth. Yn semester dau, cynhelir hefyd daith astudio, sy'n mynd ati i ddadansoddi lleoliadau a gweithgaredd trwy gyfuno deunydd o'r gwahanol bynciaou y buoch yn eu hastudio.

Blwyddyn 2

Yn y gwyliau rhwng blwyddyn 1 a 2 gallwch fynd ar leoliad gwaith diwydiannol am chwe wythnos.

Mae enghreifftiau o’r pynciau a astudir yn cynnwys: rheoli cynefinoedd a bywyd gwyllt; rheoli ymwelwyr; mynediad i gefn gwlad; coedwigaeth a choetiroedd; datblygu cymunedol; tirwedd; effaith pobl ar yr amgylchedd; cyfraith cefn gwlad; methodolegau ymchwil; twristiaeth wledig; cynllunio; economeg amgylcheddol; technoleg gwybodaeth a chyfathrebu uwch; a bwyd, ffermio a’r amgylchedd.

Blwyddyn 3

Yn eich trydedd flwyddyn byddwch yn ymgymryd â phrosiect ymchwil unigol ac yn astudio’r meysydd canlynol: cadwraeth rhywogaethau; bioamrywiaeth bydeang; ecoleg y dirwedd; cynllunio hamdden a thwristiaeth; dehongli ac addysg amgylcheddol; ffermio a bywyd gwyllt; materion cyfoes cefn gwlad; rheoli adnoddau gwledig integredig. Ceir hefyd wythnos o ymweliadau astudio.

Asesu

Cewch eich asesu drwy gyfuniad o asesu parhaus ac arholiadau ffurfiol. Bydd yr asesu parhaus ar ffurf aseiniadau, sydd wedi eu cynllunio i fod mor realistig â phosibl ac a fydd yn datblygu eich sgiliau yn ogystal â’ch gwybodaeth. Mae enghreifftiau o aseiniadau yn cynnwys:

  • Datblygu gwe-ddalen amgylcheddol
  • Cynhyrchu cynllun rheoli cadwraeth
  • Asesu materion mewn cymuned wledig go iawn
  • Cynllunio chwarae rôl
  • Datblygu llwybr hamdden

Gyrfaoedd

Mae’n cynfyfyrwyr wedi eu cyflogi fel wardeiniaid a cheidwaid cefn gwlad, swyddogion mynediad, swyddogion cadwraeth, gweithwyr cymunedol, dehonglwyr amgylcheddol ac addysgwyr. Mae cwmnïau a sefydliadau sy’n cyflogi staff o’r fath yn cynnwys parciau cenedlaethol, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, y Comisiwn Coedwigaeth ac awdurdodau lleol. O fewn y diwydiant ystyrir ein bod ymhlith y goreuon o ran darparu llwybr mynediad at yrfa mewn rheoli cefn gwlad.

Leo Henley Lock BSc Rheoli Cefn Gwlad Crawley, Sussex
Bues i’n ymweld ag Aberystwyth ar Ddiwrnod Agored, a dywedais os nad oeddwn i’n gallu dod i Aberystwyth, na fydden i’n mynd i’r brifysgol. Syrthiais mewn cariad â’r lle yn syth, mae popeth mor agos at ei gilydd. Mae’n gyfleus iawn. Mae’r adran yn dda iawn. Mae’r darlithwyr yn gyfeillgar ac yn gynorthwyol iawn, ac mae yna rywun ar gael i ateb fy nghwestiynau bob tro. Mae’r cyfleusterau chwaraeon yn dda iawn. Bues i’n syrffio wythnos diwethaf ac yn dringo yng Ngogledd Cymru ddoe – maen nhw i gyd o fewn tafliad carreg i Aberystwyth. Mae yna wastad ddiwrnod rhydd ar gael, ac os ydych chi’n trefnu’ch gwaith yn iawn, mae yna ddigon o amser i gael syrffio cyn darlithoedd!! Mae yma wir ymdeimlad o gymuned. Pan fyddwch chi’n mynd i’r dre byddwch chi’n gweld wyneb cyfarwydd ac yn gwybod bod rhywun o gwmpas drwy’r amser. Alla i ddim meddwl am unrhyw beth dwi ddim yn ei hoffi am Aberystwyth! Efallai’r daith yma, ond mae’n werth ei gwneud. Mae’r bywyd cymdeithasol yma’n dda, mae yma awyrgylch ym mhobman, ac mae’n wahanol i unrhyw le arall. Mae yma lawer o dafarndai a dau glwb nos, ac mae ganddyn nhw eu hawyrgylch unigryw eu hunain. Byddwn i’n sicr yn argymell Aberystwyth i eraill. I unrhyw un sy’n ystyried gwneud gwyddorau gwledig fel fi, mae’n berffaith. Dyw’r lle ddim yn frawychus fel mae dinasoedd yn gallu bod, ac mae yma wir deimlad o gymuned.

Gwybodaeth y Cynllun Astudio

Mae wybodaeth ar y tudalen hon yn cyfeirio i'r cynlluniau sy'n isod:

Set Gwybodaeth Allweddol