Trefn eich cwrs
Pa fath o radd sydd ar gael i mi?
Yn gyffredinol, mae tri math o radd ar gael:
- Gradd Anrhydedd Sengl: yn cynnig gwybodaeth fanwl fel y gallwch arbenigo mewn pwnc penodol.
- Gradd Anrhydedd Cyfun: yn cyfuno dau bwnc yn gyfartal er mwyn rhoi gwybodaeth gadarn yn y ddau. Un o’n cryfderau academaidd yw’r nifer helaeth o raddau anrhydedd cyfun sydd ar gael i chi ddewis o’u plith (gweler tudalen 50)
- Gradd Prif Bwnc/Is-Bwnc: yn cynnig sylfaen gadarn mewn un pwnc ynghyd â’r fantais o astudio un arall (gweler tudalen 53).
Am faint y bydd cynllun gradd yn para?
Fel arfer bydd eich cynllun gradd yn para am dair blynedd. Yr eithriadau yw graddau mewn ieithoedd modern, sy’n gofyn am dreulio blwyddyn dramor, cynllun y flwyddyn mewn gwaith, a chynlluniau MMath, MPhys, BEng ac MEng sy’n para pedair neu bum mlynedd. Mae manylion ein cynlluniau gradd ar gael ar y we ar Cynlluniau Astudio.
Beth yw patrwm y flwyddyn academaidd?
Mae’r flwyddyn wedi ei rhannu’n ddau semester, sy’n para o fis Medi i fis Chwefror, ac o fis Chwefror i fis Mehefin, gyda gwyliau adeg y Nadolig a’r Pasg. Bydd gofyn i fyfyrwyr amser llawn astudio am 120 o gredydau bob blwyddyn, sef 60 o gredydau fesul semester fel arfer, er y gallwn fod yn hyblyg ar hyn.
Sut mae’r cwrs yn cael ei rannu dros y blynyddoedd?
Mae cynlluniau gradd wedi eu rhannu’n Rhan 1 (y flwyddyn gyntaf ) a Rhan 2 (y ddwy neu’r tairblynedd olaf ).
Rhan 1
Mewn llawer o gynlluniau, anogir myfyrwyr i fod yn anturus ac yn agored eu meddwl wrth wneud Rhan 1. Bydd rhai modiwlau yn arwain at gynllun gradd arbennig ond bwriedir i rai eraill, a all fod yn feysydd academaidd newydd i’r myfyriwr, gyflwyno syniadau newydd ac ennyn diddordebau ac ymwybyddiaeth newydd.
Oherwydd hyn gall myfyrwyr gychwyn Rhan 2 â mwy o ymroddiad a chyfeiriad wedi iddynt gwblhau Rhan 1 yn llwyddiannus. Bydd rhai myfyrwyr, ar ôl darganfod eu gallu i ymdopi â phwnc academaidd newydd, am drosglwyddo o’r cwrs a nodwyd ganddynt ar eu ffurflen UCAS.
Rhan 2
Bydd Rhan 2 fel arfer yn para am ddwy flynedd, ond bydd gofyn i fyfyrwyr sy’n astudio Ieithoedd Ewropeaidd yn rhan o’u cynllun Anrhydedd Cyfunneu Brif Bwnc/Is-bwnc dreulio blwyddyn yn y gwledydd hynny lle siaredir yr ieithoedd perthnasol. Bydd myfyriwr sy’n astudio dwy iaith yn treulio tua chwe mis ym mhob un o’r ddwy wlad. Gallwch hefyd dreulio blwyddyn yn gweithio mewn diwydiant rhwng yr ail flwyddyn a’r drydedd yn y Brifysgol. Mae rhai cynlluniau gradd (e.e. BEng neu MEng mewn Peirianneg Meddalwedd) yn cynnwys blwyddyn orfodol mewn lleoliad gwaith.
Pryd fydda i’n dewis fy modiwlau?
Yn Rhan 1 byddwch yn astudio’r modiwlau sy’n hanfodol i’ch pwnc. Mae’n bosibl y gallwch hefyd ddewis modiwlau o blith nifer helaeth sydd ar gael ym mhob Cyfadran. Mae manylion llawn yr holl fodiwlau i’w gweld ar y We (Modiwlau). Ni ofynnir ichi benderfynu pa bynciau y byddwch yn eu hastudio yn Rhan 1 nes ichi gael cyfle i drafod eich diddordebau gyda’r tiwtoriaid yn y cyfweliadau a drefnir adeg y cofrestru. Mewn llawer o bynciau caniateir cymaint o hyblygrwydd â phosibl wrth ddewis modiwlau Rhan 1, er y gall eich cymwysterau Safon Uwch a hefyd gyfyngiadau o ran yr amserlen gyfyngu ar rai dewisiadau.
Beth yw modiwl a chredyd?
Cwrs penodol yw modiwl, sydd ag iddo werth mewn credydau. Mae modiwlau dwbl ar gael, sy’n werth 20 neu 30 credyd oherwydd bod mwy o oriau cyswllt ac o waith yn angenrheidiol. Mae modiwl 10 credyd yn golygu rhyw 100 awr o amser dysgu, gan gynnwys amser yn y darlithiau a gwaith y tu allan iddynt. Bydd myfyrwyr amser lawn yn cwblhau 120 o gredydau ymhob blwyddyn o astudio. Er mwyn ennill gradd anrhydedd, fe fydd yn rhaid dilyn 360 o gredydau yn Aberystwyth dros eich tair blynedd, a rhaid i 120 ohonynt fod yn fodiwlau Lefel 3.
Beth yw manteision y system?
Y fantais fwyaf yw bod patrwm eglur a phendant i’r gwaith y disgwylir i chi ei wneud. Mae’r asesiad yn y rhan fwyaf o fodiwlau ar ddiwedd semester yn golygu y cewch eich arholi pan fydd y wybodaeth ar flaenau’ch bysedd, yn hytrach na bod yn rhaid adolygu gwaith a wnaethoch fwy na blwyddyn ynghynt. Mae’r drefn hon yn caniatáu hefyd i chi ddewis o blith nifer helaeth iawn o fodiwlau dewisol neu ddethol, lle bo modd. Chi sy’n penderfynu pa bynciau sydd fwyaf addas i chi. Er enghraifft, gall myfyrwyr yn y celfyddydau astudio modiwl ar ynni a’r amgylchedd. Mae gwybodaeth ar gael bob amser i’ch helpu i ddewis cwrs sy’n briodol i chi.
Beth yw’r dulliau asesu?
Rydym yn defnyddio amryw ddulliau asesu. Ymhlith y rhain y mae’r arholiad traddodiadol sy’n seiliedig ar bapur arholiad nas gwelwyd ymlaen llaw, neu asesiad ymarferol o waith labordy a gwaith maes, neu asesiad o’ch cyfraniad i gyflwyniadau grŵp a seminar, a gwaith prosiect. Bwriad yr amrywiaeth hon yw eich arfogi â dewis helaeth o sgiliau fel y gallwch lwyddo ym myd gwaith. Mae’n gofalu hefyd bod myfyrwyr sy’n ei chael hi’n anodd mewn arholiadau ffurfiol yn cael y cyfle i ddangos eu cryfder trwy ddulliau eraill.
Pa help ga’ i?
Cyfrifoldeb y staff ym mhob un o’n hadrannau yw sicrhau bod pob myfyriwr yn cael cyfle i wneud cynnydd boddhaol. Cyflwynir darlithiau yn y rhan fwyaf o bynciau er mwyn traddodi gwybodaeth ac nnyn brwdfrydedd. Cewch arweiniad wrth ddatrys problemau penodol a chewch astudio testunau a phynciau arbennig mewn grwpiau ymarferol ac mewn seminarau. Cynhelir dosbarthiadau tiwtorial yn rhan o rai cyrsiau er mwyn rhoi sylw unigol i bobl. Bydd y seminarau a’r dosbarthiadau tiwtorial hyn yn cynnig cyfle i chi sicrhau bod eich cwestiynau am unrhyw gwrs penodol yn cael esboniad eglur.
A fydda i ar goll yn y dyrfa mewn darlith?
Mae Aberystwyth, fel pob prifysgol, wedi tyfu yn y blynyddoedd diwethaf, ac mae mwy o fyfyrwyr wedi mwynhau’r manteision o astudio a byw yn Aberystwyth. Ond ni fu hyn ar draul y cyswllt agos-atoch-chi y mae’r myfyrwyr wedi’i fwynhau â’r staff. Yn ogystal, fe welwch fod pob un o’n darlithwyr yn nodi ‘oriau swyddfa’ pan fydd croeso i fyfyrwyr alw a thrafod cwestiynau a phroblemau penodol gyda hwy. Mater i chi wedyn yw defnyddio’r cyfle hwn i’r eithaf.
A gaf i gymorth gyda sgiliau astudio?
Gwyddom fod angen i fyfyrwyr llwyddiannus ddysgu sut i astudio. Mae’r Ganolfan Iaith a Dysgu yn rhoi cyfleoedd o bob math i fyfyrwyr ddatblygu eu sgiliau dysgu. Mae’r rhain yn cynnwys rhoi trefn ar wybodaeth; ysgrifennu clir a manwl ar gyfer traethodau, adroddiadau a thraethodau hir; darllen beirniadol; cymryd nodiadau effeithiol; a thechnegau adolygu buddiol. Mae gennym hefyd yr rbenigedd i gynorthwyo myfyrwyr sydd ag anghenion arbennig ac mae’r Ganolfan yn darparu gwasanaeth cynhwysfawr i helpu myfyrwyr dyslecsig. Cynigir cyrsiau penodol i’r rhai y mae Saesneg yn ail iaith iddynt er mwyn gwella’u sgiliau iaith, ac er mwyn eu cyflwyno i ofynion diwylliant academaidd gwledydd Prydain.