Graddau Addysg


Addysg, cyfuniadau prif-bwc/is-bwnc a graddau cyfun

Graddau Addysg ym Mhrifysgol Aberystwyth

Cynlluniau gradd prif bwnc, cyfun neu is-bwnc sydd gennym i’w cynnig, sy’n caniatáu ichi gyfuno Addysg â phwnc arall. Os yw’r pwnc hwnnw yn bwnc ysgol, gallwch ystyried gyrfa fel athro neu athrawes. Mae cyfuniadau o’r fath hefyd yn creu cynlluniau astudio diddorol. Ar ben hyn i gyd, gan ein bod yn defnyddio dulliau astudio o’r dyniaethau a’r gwyddorau cymdeithasol, mae’r modiwlau Addysg yn cydweddu’n dda â nifer o’r pynciau partner yn y cynllun gradd.

Cliciwch yma i weld pa bynciau eraill sy’n bosib eu cyfuno gydag Addysg

Strwythur y Cwrs

Blwyddyn 1

Mae modiwlau’r flwyddyn gyntaf yn gosod sylfaen i’r themâu astudio a ddatblygir yn yr ail a’r drydedd flwyddyn. Mae Polisïau a Materion mewn Addysg (gorfodol) yn cyflwyno cysyniadau sylfaenol sy’n ymwneud â chynllunio meysydd llafur a systemau ysgol. Yn y modiwlau gorfodol sy’n trafod datblygiad plant a phlant ifanc yn dysgu byddwch yn dechrau astudio datblygiad gwybyddol a chymdeithasol plant a phobl ifanc.

Blynyddoedd 2 a 3

Dyma’r modiwlau y bydd myfyrwyr yn dewis o’u plith yn yr ail flwyddyn. Bydd y modiwl gorfodol sy’n trafod seicoleg dysgu a meddwl yn parhau’r astudiaeth o ddatblygiad gwybyddol. Astudir themâu newydd ym maes llythrennedd mewn plant ifanc, addysg amlddiwylliannol, ac iechyd ac addysg yn yr ail flwyddyn hefyd.

Dyma’r modiwlau y bydd myfyrwyr yn dewis o’u plith ym mlwyddyn olaf y cynllun gradd. Caiff dulliau asesu mewn addysg eu hystyried yn y modiwl gorfodol ar werthuso dysgu a sgiliau a myfyrio’n feirniadol arnynt. Astudir polisïau a materion llosg yn y modiwl ar wneud synnwyr o’r cwricwlwm. Gellir astudio materion ieithyddol a chymdeithaseg iaith ymhellach yn y modiwlau sy’n trafod addysg ddwyieithog, caffael iaith gyntaf, ac iaith a rhywedd. Gallwch barhau i astudio gwyddoniaeth mewn addysg trwy gyfrwng y modiwl ar gyfleu gwyddoniaeth. Ceir cyfle i astudio’n fwy annibynnol trwy fodiwl y traethawd estynedig hir.

Dulliau Astudio

Y prif ddulliau dysgu yw darlithoedd ffurfiol, seminarau a gweithdai. Mae’r darlithoedd yn eich cyflwyno i’r materion a’r deunydd darllen sy’n berthnasol i bynciau’r modiwl. Bydd darlithoedd yn cael eu hegluro a’u hategu mewn amrywiol ffyrdd, er enghraifft â byrddau gwyn rhyngweithiol, taflenni, fideos a phecynnau cyfrifiadurol. Mae’r seminarau a’r gweithdai yn caniatáu ichi archwilio cynnwys y darlithoedd trwy drafodaethau, cyflwyniadau ac ymchwiliadau ymarferol. Gallant hefyd gynnwys gwaith grŵp sy’n eich annog i ddatblygu sgiliau gweithio yn rhan o dîm.

Asesu

Defnyddir dau brif ddull asesu: arholiadau ysgrifenedig ar derfyn semester ac asesu parhaus, sy’n gallu cynnwys traethodau a phrosiectau. Fodd bynnag, bydd rhai modiwlau hefyd yn cynnwys dulliau asesu eraill, gan gynnwys cyflwyniadau poster a chyflwyniadau llafar.

Mae’r dulliau hyn yn gofyn am sgiliau gwahanol o ran paratoi a chyflwyno. Maent yn darparu ar gyfer gwahanol alluoedd myfyrwyr a hefyd yn annog cryfhau unrhyw wendidau.

Adnoddau

Mae’r Ysgol Addysg a Dysgu Gydol Oes wedi ei lleoli mewn safle gwych yn yr Hen Goleg yn y dref ger glan y môr. Mae llyfrgell yr Hen Goleg yn cadw llyfrau a chyfnodolion sy’n berthnasol i’r cynllun gradd, ac mae cyfrifiaduron ar gael ar gyfer prosesu geiriau, chwiliadau llyfryddol a rhaglennu.

Gyrfaoedd

Mae cyfle i raddedigion sydd â gradd mewn Addysg geisio am swyddi ym myd addysg, naill ai fel athrawon proffesiynol neu weinyddwyr. Os mai dysgu sy’n mynd â bryd myfyrwyr, gallant wneud cais i dreulio pedwaredd flwyddyn yn yr Ysgol Addysg a Dysgu Gydol Oes i astudio a derbyn hyfforddiant ar gyfer Diploma Addysg i Raddedigion (DipAR). Yn ychwanegol at hynny bydd gradd anrhydedd cyfun BA neu BSc yn brawf o lefel cyrhaeddiad deallusol a fydd hefyd yn galluogi myfyrwyr i gystadlu am amryw gyfleoedd gwaith, megis gwaith cymdeithasol, newyddiaduraeth a’r gwasanaeth sifil.

Chwe mis ar ôl graddio o Aberystwyth, roedd 95% o'r rhai a astudiodd Addysg am eu gradd gyntaf wedi cael swydd neu wrthi'n astudio ymhellach.