Addysg Gydol Oes
Efallai y bydd rhai o fyfyrwyr Aberystwyth yn dymuno manteisio ar gyfleoedd ychwanegol i ddysgu ar ben y rhai sy’n cyfrannu’n uniongyrchol at eu cynllun gradd. Y mae’r Ysgol Addysg a Dysgu Gydol Oes yn cynnig dewis cynhwysfawr o gyrsiau a gynlluniwyd i ddiwallu bob chwaeth. Mae nifer o resymau pam y byddai myfyrwyr amser llawn a rhan-amser yn dewis y cyrsiau hyn. Bydd rhai yn anelu i ennill cymwysterau ac eraill yn astudio er mwynhad yn unig.
Y Rhaglen
Y mae rhaglen yr Ysgol yn hyblyg a blaengar ac yn agored i bawb. Cynhelir cyrsiau yn ystod y dydd a chyda’r nos, ar ddyddiau’r wythnos a thros y penwythnos. Cynhelir hefyd ysgolion un dydd a phreswyl, ym Maes Lowri, yn yr Hen Goleg ac ar Gampws Penglais. Y mae gennym hefyd raglen sylweddol o ddosbarthiadau ledled siroedd Ceredigion, Caerfyrddin, Penfro, Powys a de Gwynedd.
Mae’r rhaglen yn cynnwys cyrsiau credyd trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. Maent yn defnyddio nifer o ddulliau asesu a gellir crynhoi credydau er mwyn ennill tystysgrifau a diplomâu addysg uwch a ddyfernir gan y Brifysgol. Gellir hefyd drosglwyddo credydau gyda sefydliadau addysg uwch eraill. Mae gostyngiadau yn y ffioedd ar gael i bobl sydd mewn addysg amser llawn.
Y mae’r Ysgol yn cynnig cyrsiau yn y meysydd canlynol:
- Ieithoedd Modern
- Y Dyniaethau
- Astudiaethau Lleol
- Technoleg Gwybodaeth
- Celf a Dylunio
- Gwyddoniaeth ac Astudiaethau Amgylcheddol
- Cymraeg i Oedolion