Llenyddiaeth Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol


BA Llenyddiaeth Saesneg
BA Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol

Adran Saesneg Aberystwyth

Cafodd Adran y Saesneg ei dyfarnu’n ‘Rhagorol’ yn yr Asesiad diweddaraf ar Ansawdd yr Addysgu. Mae gennym ddau brif gynllun gradd Anrhydedd: Llenyddiaeth Saesneg (Q300), ac Ysgrifennu Creadigol a Llenyddiaeth Saesneg (QW38), ond rydym hefyd yn rhoi cyfle i astudio’r Clasuron yn y flwyddyn gyntaf. Rydym yn adran ganolig o ran maint; mae yma ugain aelod staff amser llawn, ac yn gyfan gwbl, mae tua 170 o fyfyrwyr yn cofrestru ar ein rhaglenni israddedig Sengl a Chyfun bob blwyddyn. Mae cydbwysedd o’r fath yn golygu ein bod yn gallu rhoi llawer o sylw personol i fyfyrwyr. Yn ogystal ag israddedigion o’r DU a’r Gymuned Ewropeaidd, rydym hefyd yn derbyn myfyrwyr o China, yr Unol Daleithiau, Ewrop a mannau eraill, ac mae hyn yn rhoi i’r adran naws cosmopolitaidd cyffrous. Rydym hefyd yn ymfalchïo yn y traddodiad da sydd gennym am dderbyn myfyrwyr aeddfed.

Mae ein rhaglenni gradd Llenyddiaeth Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol yn cyfuno’r traddodiadol a’r blaengar, o ran eu cynnwys a’u dulliau dysgu ac asesu. Rydym yn cynnig dewis eang o fodiwlau craidd a modiwlau dewisol ym mhrif gyfnodau ac arddulliau llenyddiaeth Saesneg ochr yn ochr â modiwlau ar ffilm, ysgrifennu creadigol, diwylliant poblogaidd, damcaniaeth lenyddol a llenyddiaethau’r byd datblygol yn Saesneg. Yn ogystal â disgrifio manylion pob cynllun, mae’r tudalennau hyn yn ceisio cyflwnyo y gwahanol ‘ddiwylliannau’ a’r cyfleoedd sy’n gysylltiedig â phob rhaglen radd.

Cyfleusterau

Un fantais eithriadol o astudio Llenyddiaeth Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol yn Aberystwyth yw rhagoriaeth darpariaeth y llyfrgell a’r adnoddau TG. Mae llyfrgell y Brifysgol sy’n cadw stoc ardderchog o lyfrau, sef Llyfrgell Hugh Owen, ar y campws, ac o fewn tafliad carreg inni mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae gan y ddwy llyfrgell adnoddau gwybodaeth cyfrifiadurol rhagorol. Mae’r Llyfrgell Genedlaethol yn llyfrgell hawlfraint, sydd â hawl i dderbyn pob llyfr a gyhoeddir yn y DU, ac y mae, felly, yn amlwg yn adnodd eithriadol gyfoethog i israddedigion, yn enwedig wrth iddynt ystyried yr adnoddau ymchwil a llyfryddiaethol sydd eu hangen wrth baratoi traethodau hir a thraethodau ymchwil mwy arbenigol. Mae’r Llyfrgell Genedlaethol yn lle cyfeillgar ac yn hawdd ei defnyddio; yn aml caiff myfyrwyr eu hysbrydoli i astudio ac ymchwilio i lenyddiaethau hanesyddol neu newydd nad ydynt mor hawdd cael gafael arnynt yn y rhan fwyaf o lyfrgelloedd prifysgol. Gall myfyrwyr hefyd ddefnyddio’r cysylltiadau rhyngrwyd yn ystafelloedd y neuaddau preswyl, a’r ystafelloedd cyfrifiadur niferus hyd a lled y campws. 

Graddau’n cyfuno Saesneg gyda phwnc arall

Yn Aberystwyth, gallwch hefyd gyfuno Saesneg gydag amrywiaeth o bynciau eraill. Cliciwch yma i weld y cyfuniadau posibl.