Y mae’r Adran Saesneg, a ddyfarnwyd yn ‘rhagorol’ yn yr arolwg diweddaraf ar ansawdd yr addysgu, yn cynnig cynllun cyffrous, sef BA Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol. Y mae’n gynllun anrhydedd sengl cyflawn ac integredig. Yn ei hanfod, cwrs i ddatblygu eich sgiliau creadigol a beirniadol yw’r cynllun gradd hwn ac fe’i dysgir, yn rhannol, gan ddarlithwyr sy’n awduron eu hunain. Bydd yn ceisio datblygu amrywiaeth a hyd a lled eich dawn ysgrifennu, a’ch helpu i weithio’n hyderus mewn sawl ffurf neu genre. Cewch eich annog hefyd i ddatblygu dull myfyriol o ysgrifennu, a chreu arddull sy’n tyfu o wybodaeth am weithiau ysgrifenedig cyfoes a hanesyddol, a dealltwriaeth o’r cyddestun llenyddol, diwylliannol a hanesyddol-gymdeithasol sy’n gefndir i’r broses o ysgrifennu ac o ddarllen llenyddiaeth. Fe fydd hefyd yn eich dysgu am wahanol agweddau ar astudio llenyddiaeth ac ysgrifennu.
Strwythur y Cwrs
Blwyddyn 1
Yn y flwyddyn gyntaf byddwch yn astudio tri modiwl craidd, bydd yn eich cyflwyno i Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol ar lefel brifysgol. Y modiwlau craidd yw:
- Ways with Words - cyflwynir myfyrwyr i'r wahanol fathau o arferion ysgrifennu trwy raglen integredig o weithdai a darlithoedd. Bydd myfyrwyr yn cael profiad o farddoniaeth, ffuglen ryddiaeth ac ysgrifennu am fywyd go iawn, a'r mathau o ymchwil mae'n rhaid i ysgrifenwyr creadigol ei wneud
- Encountering Texts - mae'r modiwl yma'n canolbwyntio ar amrywiaeth o wahanol agweddau ar ddarllen ac ysgrifennu am destunau llenyddol o wahanol gyfnodau
- Aspects of Genre - yn ystod y modiwl yma byddwch yn astudio barddoniaeth, drama a’r nofel trwy edrych yn fanwl ar destunau o gyfnodau gwahanol.
Blynyddoedd 2 a 3
Bydd pawb ar y cwrs Llenydda a Saesneg yn astudio'r un modiwlau craidd ac yn ychwanegu atynt o blith modiwlau dewisol Llenydda. Mae’r craidd yn cynnwys The Set Forms; Reading Theory/Reading Texts (1); Textual interventions; ac yn y flwyddyn olaf Prosiect Ysgrifennu lle byddwch yn creu darn estynedig o waith gwreiddiol ar unrhyw ffurf gan gynnwys darn hwy o ffuglen, casgliad o gerddi neu straeon byrion, neu destun drama. Ar ben hyn byddwch yn astudio pedwar modiwl craidd ar lenyddiaeth, mewn trefn hanesyddol: Medieval and Renaissance Writing, Restoration and Eighteenth Century Writing, Nineteenth Century Writing, a Twentieth Century Writing. Byddwch yn dewis modiwlau ychwanegol o blith y canlynol: Writing Short Fictions; Traditional Poetic Forms; Writing Selves; Writing and Place; Writing Contemporary Wales; Experimental Writing; Writing Lives: Autobiography. (Y mae rhagor o fodiwlau yn cael eu datblygu.) Bydd pwyslais y modiwlau hyn ar gynhyrchu a mireinio gwaith gwreiddiol y byddwch yn ei gyflwyno yn rheolaidd i gael adborth ac awgrymiadau.
Asesu
Asesir Reading Theory/Reading Texts (1) a’r modiwlau craidd trwy gyfuniad o waith cwrs ac arholiad ar ddiwedd y modiwl. Asesu cyson yw’r dull a ddefnyddir yn y lleill i gyd. Asesir y Prosiect Ysgrifennu yn y flwyddyn olaf trwy gyfrwng portffolio o waith ysgrifenedig ynghyd â sylwebaeth am y gwaith.
Louise Jenkins
BA Llenyddiaeth Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol
Swydd Rydychen