Saesneg a Llenyddiaeth y Byd
BA - 3 years (Q200)
Saesneg a Llenyddiaeth y Byd
Bydd myfyrwyr sy’n dilyn y radd newydd ddeinamig hon yn meddu ar safbwynt cwbl fyd-eang ar astudiaethau llenyddol yn Saesneg wedi iddynt gwblhau eu hastudiaethau. Mae’r radd Saesneg a Llenyddiaeth y Byd yn rhoi’r cyfle i fyfyrwyr astudio gwaith awduron rhyngwladol o fri o Affrica, Asia, Awstralasia, y Caribî a Gogledd America, yn ogystal â’r lleisiau llenyddol mwyaf taer o Brydain ac Iwerddon. Mae’r cynllun hwn yn cynnig cyfuniad cyffrous o radd Saesneg ‘draddodiadol’ a chwrs astudio sy’n datgelu’r amrywioldeb ysgrifennu yn Saesneg sy’n datblygu mewn lleoliadau diwylliant byd-eang.
Blwyddyn 1
Yn y flwyddyn gyntaf, cynigir cyflwyniad eang i bwnc Llenyddiaeth y Byd yn Saesneg. Ceir tri modiwl craidd; mae’r cyntaf, Issues in Contemporary World Literatures, yn chwarae rôl hanfodol wrth gyflwyno myfyrwyr i’r astudiaeth o amrywiaeth byd-eang o lenydda dychmygus yn Saesneg yn ystod yr 20fed ganrif a’r 21fed ganrif. Rhoddir hyfforddiant hefyd yn y sgiliau beirniadol a fydd yn angenrheidiol ar gyfer astudio’r corff hwn o lenyddiaeth. Fe drefnwyd y modiwl hwn ar linellau daearyddol, hanesyddol a thematig ac mae’n archwilio ystod o lenydda rhyngwladol o Affrica, Awstralasia, Gogledd America ac Asia, gan bwysleisio pynciau etifeddiaeth drefedigaethol, chwedlau hil, ystyron ‘cartref’, undod gwleidyddol a symudedd cymdeithasol. Mae’r modiwl yn rhoi sylw arbennig i amrywiol genres llenyddol (y nofel, y stori fer, barddoniaeth a drama).
Caiff yr holl fodiwlau hyn eu dysgu trwy ddarlithoedd a seminarau wythnosol a’u hasesu trwy gyfuniad o waith cwrs a phapur arholiad ar ddiwedd y modiwl.
Blynyddoedd 2 a 3
Yn yr ail flwyddyn, mae’r cynllun Saesneg a Llenyddiaeth y Byd yn cynnwys ‘craidd’ a astudir gan bob myfyriwr, yn cynnwys y modiwlau a ganlyn:
- Postcolonial Literatures: Perspectives and Paradigms a fydd yn ehangu eich dealltwriaeth o’r ystod o lenyddiaethau’r byd yn Saesneg drwy ganolbwyntio ar yr amgylchedd, y diwylliant a’r llenyddiaeth ôl-drefedigaethol yng ngoleuni ystod o naratifau allweddol (nofelau, memoirs, cerddi, dramâu ac ymyrraethau beirniadol) o Affrica, is-gyfandir India, Awstralasia a’r Caribî.
- Reading Theory/Reading Text 1 a fydd yn eich galluogi i ddatblygu’r sgiliau a’r dulliau fydd eu hangen ar gyfer dadansoddi llenyddol, ac sy’n gofyn cwestiynau megis ‘Beth a wnawn wrth ddadansoddi testunau, a sut mae’r broses hon o ddehongli a dadansoddi wedi newid ar hyd y canrifoedd?’
- A dau gwrs craidd hanesyddol o ddewis o bedwar – Medieval and Renaissance Writing; Restoration and Eighteenth-Century Literature; Nineteenth-Century Literature; and Twentieth-Century British Literature – y bydd pob un ohonynt yn eich cyflwyno i destunau cynrychioladol o brif gyfnodau’r traddodiad llenyddol Saesneg. Byddwch hefyd yn astudio dau fodiwl dewisol arbenigol a gymeradwyir o blith ystod eang o ddewisiadau.
Bydd blwyddyn olaf y cynllun yn cynnwys:
- Modiwl theori craidd, Reading Theory/Reading Text 2: World Literatures, sy’n ystyried y ffyrdd yr ydym yn damcaniaethu Llenyddiaeth y Byd yn yr oes fyd-eang;
- Y Traethawd Hir, sy’n rhoi’r cyfle ichi ysgrifennu darn estynedig o waith ar bwnc o’ch dewis eich hun sy’n ymwneud â Llenyddiaeth y Byd, ac a fydd yn datblygu eich sgiliau ymchwil a llyfryddiaethol uwch;
- A dau fodiwl dewisol arbenigol a gymeradwyir o restr yr Adran.
Asesu
Mae’r dulliau asesu yn yr ail a’r drydedd flwyddyn yn gyfuniad o bapurau arholiad (wedi eu gweld a heb eu gweld ymlaen llaw), gwaith cwrs ar gyfer asesu parhaus a chyflwyniadau llafar mewn grwpiau – elfen arloesol ddiweddar sydd yn arbennig o ddefnyddiol i fyfyrwyr wrth iddynt baratoi ar gyfer y farchnad waith.