Gwyddor/Astudiaethau Ceffylau ym Mhrifysgol Aberystwyth
Rydym ni’n darparu cyrsiau ceffylau ers yn hwy na neb arall yn y DU, gan ddechrau yn y 1970au, ac yr ydym wedi sefydlu enw da am ddarparu graddedigion rhagorol ar gyfer ystod lawn o yrfaoedd o fewn y diwydiant. O’r herwydd gallwn warantu addysg o ansawdd uchel ym maes ceffylau ichi, gyda holl fanteision awyrgylch prifysgol traddodiadol. Mae gan y Sefydliad gyfleusterau gwych, gan gynnwys Canolfan Dysgu Ceffylau fawr, Canolfan Ymchwil Ceffylau arbennig ac iard hunanwasanaeth, pob un ohonynt ag arenâu y tu mewn a’r tu allan, hyd at faint rhyngwladol; cerddwr ceffylau; corlan gron; pont bwyso; stablau a bocsys bwrw ebol gyda theledu cylch-cyfyng; ardaloedd arddangos; labordai ayyb. Byddwch yn cael eich dysgu gan staff profiadol, llawer ohonynt ag enw da rhyngwladol am ymchwil, ac eraill â chefndir rhyngwladol o weithio a hyfforddi yn y diwydiant, gan roi ichi agwedd yr unfed ganrif ar hugain at wyddor ac astudiaethau ceffylau. Mae’r holl staff yn ymroddedig i roi ichi addysg a hyfforddiant o ansawdd uchel mewn amgylchedd dysgu cefnogol a chyfeillgar.
Cyrsiau
Mae ystod eang o gyrsiau ar gael yma ar eich cyfer. Yn Aberystwyth, rydym yn cynnig:
- BSc Gwyddor Ceffylau (3 blynedd)
- BSc Gwyddor Chwaraeon Ceffylau a Phobl (3 blynedd)
- Astudiaethau Ceffylau - Gradd Sylfaen
- Astudiaethau Ceffylau - BSc (1 flwyddyn ategol)
- Busnes ac Astudiaethau Ceffylau - HND (3 blynedd)
Cyfleusterau
Mae’r adnoddau ceffylau ardderchog sydd ar y campws yn cynnwys arena dan-do o safon ryngwladol, manège, cwrs traws gwlad, stablau a thir pori. Mae gennym nifer o stablau lifrai i fyfyrwyr sydd am ddod â’u ceffylau eu hunain.
Mae Canolfan Ceffylau Lluest yn sefydliad marchogaeth a gymeradwywyd gan Gymdeithas Ceffylau Prydain fel ‘lle i hyfforddi’. Mae pob myfyriwr Prifysgol Aberystwyth yn gallu gweithio tuag at gymhwyster y BHS mewn Gofalu am Geffylau a Marchogaeth. Rydym yn gallu hyfforddi ar bob lefel, o Gam Un y BHS i’r dystysgrif Hyfforddwr Cyflawn.