Astudiaethau Ceffylau - Gradd Sylfaen
D324 Gradd Sylfaen - 2 flynedd
Please turn on JavaScript.
Media requires JavaScript to play.
Cymhwyster galwedigaethol ym myd addysg uwch yw Gradd Sylfaen, sy’n ceisio pontio rhwng mynediad cyntaf i addysg uwch a gradd anrhydedd, gan ganiatáu symud ymlaen at lefel gradd anrhydedd.
I’r rhai sydd eisiau dilyn llwybr galwedigaethol at lefel gradd neu sydd eisiau ailhyfforddi i newid gyrfa, mae ein Gradd Sylfaen mewn Astudiaethau Ceffylau yn ffordd ardderchog i gyflawni’ch nod. Cewch bob anogaeth wedyn i fynd ymlaen i’r cynllun gradd BSc (Anrh).
Mae’r radd yn ehangu ymhellach y dewis o gyrsiau ym maes ceffylau
sydd eisoes yn cael eu darparu yn Aberystwyth ac yn adeiladu ar
arbenigedd cydnabyddedig Sefydliad y Gwydddorau Gwledig mewn cyrsiau
galwedigaethol, cymhwysol. Bydd y cwrs yn rhoi i chi sylfaen gadarn o
wybodaeth ymarferol a gwyddonol am yrfa yn y diwydiant
ceffylau. Bydd y flwyddyn o brofiad gwaith yn elfen bwysig o’r cwrs, gan roi cyfle i gymhwyso theori mewn cyd-destun ymarferol.
Blwyddyn 1
Bydd y flwyddyn gyntaf yn rhoi rhagarweiniad i’r diwydiant ceffylau ac yn eich cyflwyno i anatomeg ceffylau, gwyddor perfformio, bridio a rheoli fferm fridio. Y mae trin ceffylau a marchogaeth hefyd yn elfennau pwysig yn y flwyddyn gyntaf er mwyn datblygu ystod o sgiliau hanfodol i’r man gwaith. Anogir myfyrwyr i hyfforddi ar gyfer cymwysterau Cymdeithas Ceffylau Prydain ar y cyd â’u prif astudiaethau.
Profiad Gwaith
Caiff natur alwedigaethol y cwrs ei hatgyfnerthu gan gyfnod o brofiad gwaith rhwng blwyddyn 1 a 2. Fe asesir y profiad gwaith yn rhan o’r cwrs ac mae’n caniatáu i chi gymhwyso eich gwybodaeth mewn cyd-destun ymarferol.
Blwyddyn 2
Bydd yr ail flwyddyn yn datblygu ymhellach eich gwybodaeth am wyddor ceffylau gymhwysol a rheoli busnesau ceffylau. Mae modiwlau dewisol yn cynnwys trin ceffylau, rheoli twristiaeth wledig a thaith astudio, sy’n edrych ar y ffordd y mae’r diwydiant ceffylau wedi ei drefnu a’i reoli mewn gwledydd eraill, fel arfer yn Ewrop.
Symud Ymlaen i BSc (Anrh)
O gwblhau Gradd Sylfaen yn llwyddiannus caiff myfyrwyr symud ymlaen i gwrs BSc (Anrh) Astudiaethau Ceffylau (blwyddyn ychwanegol).
Gyrfaoedd
Bydd y cwrs yn rhoi dechrau gwych i yrfa ym maes rheoli canolfannau ceffylau o bob math, yn ffermydd neu stablau i geffylau cystadlu a rasio, neu fusnesau cysylltiedig. Gallai’r cymhwyster hefyd arwain at waith ar ochr dechnegol ymchwil a datblygu, addysg a hyfforddiant.