Gwyddor Ceffylau
D322 - Gradd Anrhydedd BSc - 3 blynedd
Cynnig gradd eang yng ngwyddor ceffylau y mae’r cynllun hwn, sy’n canolbwyntio’n benodol ar ffisioleg, bridio ac atgenhedlu, iechyd ac ymddygiad, maetheg a ffisioleg perfformiad yn ogystal â rheoli ceffylau. Mae’n adeiladu ar ragoriaeth gydnabyddedig y Sefydliad ym maes ymchwil i wyddor anifeiliaid a’i enw da wrth ddysgu gwyddor ceffylau. Trwy roi hyfforddiant gwyddonol a thechnegol ichi bydd y cynllun yn eich paratoi am yrfa broffesiynol yn y diwydiant ceffylau a’r gwasanaethau cysylltiedig. Hefyd, yn sgil sylfaen wyddonol eang y cynllun, cewch eich paratoi am amrywiaeth eang o gyfleoedd yn y diwydiant gwyddor anifeiliaid.
Mae’r cynllun gradd Gwyddor Ceffylau yn cynnig yr hyblygrwydd o astudio dramor - mewn prifysgol benodol yn Ewrop neu’r Unol Daleithiau - cymryd blwyddyn allan mewn gwaith neu gymryd lleoliad diwydiannol byr. Rydym yn eich annog yn gryf i gael rhywfaint o brofiad gwaith. Bydd hyn yn rhoi hwb sylweddol i’ch gallu i gael swydd wedyn.
Cynnwys a Strwythur
Mae gan y cynllun sylfaen gadarn mewn bioleg a gwyddor ceffylau, wedi eu cyfuno ag agweddau mwy ymarferol arferion rheoli ceffylau. Mae hefyd yn bosibl datblygu’ch gwybodaeth a’ch sgiliau ymhellach trwy ddethol modiwlau am chwaraeon ac ymarfer corff dynol; ymhlith y rhain y mae seicoleg ymarfer corff, biomecaneg, a chwaraeon a swyddogaeth cyhyrau.
Blynyddoedd 1 a 2
Mae’r flwyddyn gyntaf yn cynnwys modiwlau craidd, er enghraifft ffisioleg, anatomeg, ffisioleg perfformiad, biocemeg maethynnol, geneteg a’r diwydiant ceffylau, yn ogystal â chyfres o fodiwlau dewisol.
Bydd modiwlau craidd yr ail flwyddyn yn datblygu’ch dealltwriaeth o ffisioleg perfformiad ceffylau, maetheg, iechyd a lles, imiwnoleg, ffisioleg atgenhedlu a bridio anifeiliaid. Gallwch ddewis hefyd o blith casgliad o fodiwlau sy’n cynnwys rheoli glaswelltir, rheoli busnes ceffylau, profiad gwaith a thaith astudio ceffylau.
Blwyddyn 3
Amcan y flwyddyn olaf yw cwblhau’r broses o gydasio egwyddorion gwyddonol â’r gwaith ymarferol o reoli ceffylau. Ymhlith y modiwlau craidd y mae rheoli bridfa geffylau, cwrs uwch mewn maetheg ceffylau, iechyd anifeiliaid, a pharasitoleg. Mae modiwlau dewisol ar gael hefyd i ddatblygu’ch diddordebau a’ch arbenigedd ymhellach. Bydd gennych y cyfle i wneud eich prosiect ymchwil eich hun a bydd eich traethawd estynedig ar gyfer y radd yn seiliedig ar hwn.
Dysgu ac Addysgu
Yn gefn i’r darlithiau a’r seminarau cynhelir amryw weithgareddau sy'n canolbwyntio ar fyfyrwyr, fel dosbarthiadau labordy ymarferol, arddangosiadau, prosiectau ac aseiniadau, ac ymweld â chanolfannau ymchwil a mentrau ceffylau. Bydd hyn i gyd yn eich helpu i gyfuno gwyddoniaeth â gwaith ymarferol. Seilir yr asesu ar amrywiaeth eang o waith cwrs ac arholiadau ysgrifenedig.
Gyrfaoedd
Pwrpas y cynllun yw eich paratoi at ddewis helaeth o gyfleoedd gyrfa yng ngwyddor ceffylau ac anifeiliaid, ymchwil a datblygu, gwaith ymgynghori a chymorth technegol, rheoli mentrau, marchnata ac addysg, a hynny ym Mhrydain a thramor.