Astudiaethau Ceffylau
D325 - Gradd Anrhydedd BSc - 1 flwyddyn
Rhagofynion: HND neu Radd Sylfaen mewn pwnc cysylltiedig â cheffylau
Mae’r cynllun modiwlar hwn yn arwain at radd BSc Anrhydedd mewn un flwyddyn academaidd. Fe’i cynlluniwyd yn benodol i fyfyrwyr sy’n cwblhau’n llwyddiannus gynllun HND neu Radd Sylfaen mewn Astudiaethau Ceffylau. I gael mynediad i’r cynllun rhaid i chi gyrraedd lefel teilyngdod neu’n uwch yn 75% o leiaf o’ch modiwlau HND, neu basio Gradd Sylfaen gymeradwy.
Byddwch yn astudio cyfuniad o fodiwlau sy’n cynnwys rheoli bridfa, bridio ceffylau a geneteg, ymddygiad a lles anifeiliaid, rheoli busnesau ceffylau a ffisioleg perfformiad ceffylau. Byddwch hefyd yn paratoi traethawd estynedig neu arolwg o’r llenyddiaeth ar eich dewis bwnc a fydd yn cyfrannu at eich asesiad terfynol, sy’n rhoi’r cyfle ichi ddilyn diddordeb arbennig yn fanwl.
Gyrfaoedd
Bydd y cynllun hwn yn eich paratoi at waith rheoli ac arolygu mentrau ceffylau ym Mhrydain a thramor, ac at ddewis helaeth o waith ymgynghorol, masnachol ac addysgol yn y sector ceffylau a chefn gwlad. Gallwch ddefnyddio’r sgiliau rheoli busnes yn rhwydd mewn sectorau eraill ym myd masnach a diwydiant.
Mae gan Sefydliad y Gwyddorau Gwledig adnoddau gwych ar gyfer ceffylau ar y campws. Yn eu plith mae arena aan-do maint Olympaidd/rhyngwladol, ysgol farchogaeth, stablau a thir pori. Mae gennym nifer o stablau ar y campws y gellir eu rhentu i fyfyrwyr sy’n dymuno dod â’u ceffylau eu hunain yma.