Penelope Toomer
BA Ieithoedd Ewropeaidd
CaerloywRoeddwn i’n hoffi’r syniad o fod yn rhan o gymuned gyfeillgar iawn yr oedd pawb yn siarad amdani. Fe ddes i yma ar Ddiwrnod Agored, ac yn bendant fe helpodd hynny fi i wneud penderfyniad, gyda’r staff yn gwneud ymdrech dda i’n croesawu a rhoi teithiau i ni. Unwaith i mi gyrraedd, roedd ymgartrefu’n hawdd.
Mae’r Adran yn drefnus iawn ac ar unwaith roeddwn i’n teimlo bod croeso i mi. Mae’r llyfrgelloedd a’r cyfrifiaduron sydd yma o safon uchel iawn.
Mae cyfleusterau chwaraeon da yma ac ystod eang o ddigwyddiadau diddorol yng Nghanolfan y Celfyddydau, y theatrau a’r sinemâu.
Mae’r bywyd cymdeithasol yn dda iawn oherwydd mae’r Undeb yn agos iawn (o fewn pellter cerdded) i’r rhan fwyaf o’r neuaddau preswyl, ac mae bar neuadd Cwrt Mawr hefyd yn hawdd ei gyrraedd o’r preswylfeydd eraill. Mae bywyd cymdeithasol y dref yn bleserus iawn, gan fod dewis gwych o fariau a thafarnau.
Dyfarnwyd Ysgoloriaeth Mynediad i mi, roddodd y cyfle i mi gael ffynhonnell ychwanegol o gyllid. Ac oherwydd ei fod yn cael ei dalu fesul rhandal drwy’r flwyddyn, mae gen i’r fantais o allu rheoli fy nghyllid yn well, drwy beidio â gwario llawer o arian ar un waith.
Byddwn i’n argymell Aberystwyth i bobl eraill, oherwydd mae’n groesawgar iawn ac mae’r dysgu yma o safon uchel.