Ffrangeg


(Anrhydedd Cyfun/Prif Bwnc/Is-bwnc) - 4 blynedd

Cynigir Ffrangeg fel pwnc anrhydedd cyfun neu fel prif bwnc neu is-bwnc gydag amrywiaeth o bynciau eraill. Ym mhob blwyddyn o’r cwrs Ffrangeg byddwch yn astudio modiwlau iaith gorfodol. Yn ogystal â hyn, byddwch yn dewis nifer o fodiwlau dewisol, rhai ohonynt ar thema benodol ac eraill yn fwy traddodiadol gronolegol. Yr ydym hefyd yn cynnig modiwlau ar agweddau ar ieithyddiaeth ac ieithwedd materion cyfoes a busnes.

Dysgir y dosbarthiadau iaith Ffrangeg trwy gyfrwng y Ffrangeg, a chaiff nifer ohonynt eu cynnal yn y labordai iaith, sy’n llawn o’r offer diweddaraf, gan ddefnyddio ystod eang o gasetiau sain, rhaglenni teledu Ffrangeg a deunydd dysgu trwy gyfrifiadur. Bydd yr aseiniadau’n cynnwys cyfansoddi rhydd, ysgrifennu adroddiadau, cyfieithu a chyflwyniadau llafar. Mae nifer o’r rhai a fydd yn dysgu Ffrangeg ichi yn siaradwyr brodorol a byddant yn cynnal o leiaf un dosbarth yr wythnos gyda phawb.

Mae gan fyfyrwyr sy’n astudio Ffrangeg nifer o fodiwlau i ddewis o’u plith ym maes diwylliant, llenyddiaeth ac ieithyddiaeth. Ymhlith y dewisiadau eraill sydd ar gael mae Ffrangeg byd busnes.

Graddau’n cyfuno Ffrangeg gyda phwnc arall

Mae amrywiaeth helaeth o gyfuniadau Ffrangeg gyda phynciau o adrannau eraill ar gael: cliciwch yma am gyfuniadau posibl

Gwybodaeth y Cynllun Astudio

Mae wybodaeth ar y tudalen hon yn cyfeirio i'r cynlluniau sy'n isod: