Almaeneg
(Anrhydedd Cyfun/Prif Bwnc/Is-bwnc) - 4 blynedd
Mae Almaeneg i’w gael yn bwnc anrhydedd cyfun ynghyd â nifer o bynciau eraill. Yn ogystal â modiwlau iaith ysgrifenedig a llafar (sy’n orfodol ar bob lefel) mae’r cwrs Almaeneg yn cynnig nifer o ddewisiadau: llenyddiaeth, cymdeithaseg iaith, diwylliant, Almaeneg byd busnes. Mae’r gwaith ar iaith yn cynnwys cyfarfodydd wythnosol mewn grwpiau bach a arweinir gan siaradwyr brodorol. Yn ogystal â magu rhuglder mewn Almaeneg, byddwch hefyd yn meithrin sgiliau defnyddiol eraill, e.e. dysgu sut i roi cyflwyniad ac arwain trafodaethau grŵp. Byddwch yn dysgu am y gwahaniaethau diwylliannol rhwng gwledydd Prydain a’r Almaen, a fydd yn ddefnyddiol wrth ichi wneud y mwyaf o’ch cyfnod mewn gwlad lle siaredir Almaeneg.
Graddau’n cyfuno Almaeneg gyda phwnc arall
Mae amrywiaeth helaeth o gyfuniadau Almaeneg gyda phynciau o adrannau eraill ar gael: cliciwch yma am gyfuniadau posibl
Marta Ustaszewska
BA Almaeneg a Sbaeneg
Gwlad Pwyl