Ieithoedd Romáwns
Q990 - 4 blynedd
Dim ond yn Aberystwyth y mae’r cynllun gradd hwn ar gael, ac fe’i cynlluniwyd i ganiatáu i chi astudio hyd at dair iaeth Romáwns. Byddwch yn astudio dwy iaith ar lefel uwch ac un arall ar lefel dechreuwyr. Anogir myfyrwyr i ganfod ac archwilio cymariaethau rhwng yr ieithoedd ac i ystyried y berthynas rhwng gwahanol ieithoedd o’r un llinach. Mae’n arbennig o addas i fyfyrwyr sydd â diddordebau ieithyddol yn hytrach na rhai llenyddol. Mae modiwl craidd mewn ieithyddiaeth Romáwns yn rhan hanfodol o’r cynllun.