Sefydliad Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear

Ein Graddau Anrhydedd Sengl

Cyflwyniad

Mae’r Sefydliad Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear ymhlith yr adrannau mwyaf ei maint a’i bwrlwm o’i math ym Mhrydain. Aberystwyth oedd yr adran gyntaf i gynnig graddau anrhydedd sengl mewn Daearyddiaeth Ddynol a Daearyddiaeth Ffisegol, ac ymhlith y rhai cyntaf i gynnig Gwyddor yr Amgylchedd a Gwyddor Daear Amgylcheddol. Mae gan y Sefydliad enw da ers canrif a mwy, yn darparu dysg o ansawdd da mewn cymuned sefydlog ym maes Daearyddiaeth a Gwyddor Daear, lle mae’r graddedigion yn mynd ymlaen i lunio dyfodol y ddaear.

Rydym yn credu yn angerddol ym mhwysigrwydd yr hyn rydym yn ei wneud, gan ymdrechu i roi addysg gyffrous, ddiddorol a pherthnasol. Rydym yn awyddus i chi fod yn unigolyn diddorol, â diddordeb yn y Ddaear, ei phobl, ei hanes a’ch dyfodol.

Gall myfyrwyr yn y Sefydliad ddisgwyl addysg o safon uchel – mae gan y staff sy’n eu dysgu enw da iawn am eu gwaith ymchwil. Gan fod gennym fwy na 30 o staff darlithio, gallwn ddysgu ystod anferth o fodiwlau arbenigol ar draws amrywiaeth eang o bynciau: o newid yn yr hinsawdd, sut mae ffrwydradau llosgfynyddoedd yn effeithio ar yr amgylchedd,  y tueddiadau cyfredol mewn daearberyglon, niferoedd mawr o rywogaethau yn diflannu, gwyddoniaeth fforensig, cynaliadwyedd trefol, datblygu rhanbarthau, a dyfodol y genedl-wladwriaeth. Ond nid yw’r rhestr honno’n cynnwys popeth o bell ffordd – ewch i wefan y Sefydliad i weld sut y gallech deilwra’ch cwrs i gyd-fynd â’ch diddordebau personol eich hunan.

Fel drych o natur fyd-eang ein disgyblaeth, mae’r staff darlithio yn Aberystwyth wedi astudio ac ymchwilio ym mhedwar ban byd, gan ddod â’r canfyddiadau ymchwil cyffrous diweddaraf yn ôl i Aberystwyth. Mae ein myfyrwyr yn cael cyfle i deithio ar draws y cyfandiroedd, o Efrog Newydd i Seland Newydd, ac rydym ni hefyd yn gwneud yn fawr o’r cyfle i astudio yma, un o’r amgylcheddau harddaf yng ngwledydd Prydain.

Yn ogystal â darlithoedd, mae ein myfyrwyr yn gallu elwa ar y cyffro o ddysgu am y byd ffisegol a dynol drwy ddulliau dysgu sydd ymhlith y mwyaf arloesol ym Mhrydain. Mae ein darpariaeth gyfrifiadurol heb ei hail, gyda chymorth eithriadol ar gael drwy’r we. Mae pob un o’n graddau yn adlewyrchu’r ffaith bod ein disgyblaeth yn cysylltu’n uniongyrchol â’r byd go iawn, ac rydym yn trosglwyddo i’n graddedigion y sgiliau technolegol ac ymarferol y bydd eu hangen er mwyn llwyddo yn eu gyrfaoedd. Chwe mis ar ôl graddio, mae 90% o’n graddedigion wedi’u cyflogi neu’n gwneud astudiaethau pellach.

Dysgu

Ddim yn y ddarlithfa yn unig y bydd ein myfyrwyr yn dysgu: mae’r myfyrwyr i gyd yn cael eu dysgu mewn sesiynau grwpiau bach drwy gydol eu cyrsiau gradd, gyda’n sustem o diwtoriaid, sy’n atgyfnerthu’r gymuned yma yn Naearyddiaeth a Gwyddorau Daear. Byddwn yn eich dysgu sut i ddefnyddio’r adnoddau cyfrifiadurol a’r labordai o’r flwyddyn gyntaf ymlaen. Byddwn yn cynnal gwaith maes yn nhirweddau prydferth y Canolbarth, ac rydym yn cynnig gwaith maes rhyngwladol i’r rhan fwyaf o fyfyrwyr yn eu hail flwyddyn. Mae natur ymarferol ein gwaith hefyd yn golygu, yn ogystal ag asesu drwy arholiadau, ein bod hefyd yn rhoi marciau am fathau eraill o waith, megis creu eich gwefan eich hun, rhoi cyflwyniadau, cynnal arbrawf neu ymchwilio i’ch prosiect unigol eich hun.

Adnoddau

Rydym yn dysgu mewn darlithfeydd sydd wedi’u cyflenwi’n llawn â’r offer diweddaraf. Mae hefyd gennym amrywiaeth unigryw o gyfarpar dadansoddi gan gynnwys offer i gynnal dadansoddiadau gwaddodegol a geocemegol. Hefyd cewch ddefnyddio Sbectromedr Màs, GIS ac offer synhwyro o bell, data digidol, trawsysgrifwyr a thechnoleg cofnodi data. Mae’r Sefydliad hefyd yn gartref i Lyfrgell Mapiau E.G. Bowen, sydd â mwy na 80,000 o fapiau a 4,000 o atlasau.

Yn ogystal â Llyfrgell Hugh Owen, sydd â 800,000 o lyfrau a 3,500 o gyfnodolion, fe gewch ddefnyddio’r Llyfrgell Genedlaethol gerllaw, sef llyfrgell hawlfraint sydd â’r hawl i gael copi o bob llyfr a gyhoeddir ym Mhrydain.

Mae technoleg gyfrifiadurol hefyd yn chwarae rhan fwyfwy pwysig yn ein cyrsiau gradd; o’n hystafell gyfrifiadura ni ein hun, i’ch Neuadd Breswyl chi, mae rhwydwaith di-wifr y Brifysgol yn cynnwys y campws a’r rhan fwyaf o’r dref. Fe gewch ddefnyddio meddalwedd arbenigol i fapio, dadansoddi yn ystadegol ac ansoddol, yn ogystal â meddalwedd modelu.

Cyfleoedd i Deithio ac Astudio Tramor

Yn ogystal â manteisio i’r eithaf ar dirweddau prydferth y Canolbarth, mae’r rhan fwyaf o’n myfyrwyr yn cael cyfle i deithio tramor yn ystod eu taith gwaith maes rhyngwladol yn yr ail flwyddyn. Yn y blynyddoedd diweddar, rydym wedi cynnal gwaith maes yn Seland Newydd, Efrog Newydd, Sbaen, Ffrainc ac Iwerddon. Mae’r daith gwaith maes rhyngwladol yn uchafbwynt pwysig yn y cwrs gradd, yn rhoi i chi gyfle ardderchog a chyffrous i brofi rhywfaint o’r hyn rydych wedi’i ddysgu yn eich gwaith darllen a’ch darlithoedd. (Codir ffioedd ychwanegol am rai ymweliadau gwaith maes).

Rydym yn awyddus i chi archwilio’r blaned a gwneud pethau cyffrous, ac fel myfyriwr yn Sefydliad Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear, cewch wneud cais am Wobrau Teithio  Gareth Thomas ac Elwyn Davies, wedi’u sefydlu gan gyn-ddarlithwyr i’ch helpu chi i deithio “hyd eithaf y ddaear” - ac mae hyd at 12 o fyfyrwyr yn gwneud hynny bob blwyddyn! Ar ben hynny, fel pob un myfyriwr yn Aberystwyth fe gewch hefyd wneud cais am un o Ysgoloriaethau Teithio Gregynog y mae’r Brifysgol yn eu cynnig.

Drwy Raglen Gyfnewid Gogledd America gewch gyfle i gyfnewid eich lle yn Aberystwyth am raglen radd debyg yn yr Unol Daleithiau yn ystod eich ail flwyddyn. Mae myfyrwyr cyfnewid yn gwerthfawrogi’r profiad o ddysgu am y byd o’r safbwynt gwahanol a geir mewn Prifysgol yng Ngogledd America, a gallent ddewis o raddau a gynigir gan Dalaith Washington, Kansas, Montana, Talaith Penn a Pittsburgh.

Mae’r Ganolfan i Brifysgolion yn Svalbard yng nghylch yr Arctig yn Norwy hefyd yn golygu bod ein myfyrwyr yn cael profiad o astudio mewn hinsawdd sydd ymhlith y rhai mwyaf eithafol yn y byd, yn ogystal â gweld effeithiau newid yn yr hinsawdd yn yr Arctig drostynt eu hunain.

Drwy’r Cynllun Blwyddyn mewn Gwaith cewch brofiad gwaith drwy dreulio blwyddyn yn cael eich cyflogi yn ail neu drydedd flwyddyn eich gradd. Mae llawer o’r lleoliadau yn addas iawn i Ddaearyddiaeth, Gwyddor Daear Amgylcheddol, a Gwyddor yr Amgylchedd, ac mae ein myfyrwyr wedi’u rhoi i weithio dramor yn ogystal ag yng ngwledydd Prydain.

Astudio drwy Gyfrwng y Gymraeg

Mae gan y Sefydliad Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear ran unigryw i’w chwarae wrth ddysgu ein pwnc drwy’r Gymraeg. Mae un o’n cynlluniau gradd BA yn cael eu dysgu drwy’r Gymraeg yn bennaf, ac mae sawl un o’n cynlluniau Anrhydedd Cyfun a Phrif Bwnc/Is-Bwnc hefyd yn cael eu dysgu drwy’r Gymraeg. Caiff myfyrwyr ar gynlluniau gradd eraill hefyd ddewis cymryd modiwlau a sesiynau tiwtora drwy gyfrwng y Gymraeg. O ganlyniad mae llawer o fyfyrwyr yn gallu magu eu sgiliau proffesiynol mewn iaith sy’n dod yn fwyfwy pwysig i’r farchnad swyddi yng Nghymru.