Daearyddiaeth
Mae’r cynllun gradd BA Daearyddiaeth yn gwrs Daearyddiaeth eang sy’n archwilio agweddau ar y byd dynol a’r byd naturiol ac sy’n galluogi myfyrwyr i ddilyn cyfran helaeth o’u hastudiaethau drwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd myfyrwyr ar y cynllun Daearyddiaeth yn astudio’r prosesau dynol a ffisegol sy’n siapio’r ddaear, a’r materion gwleidyddol ac amgylcheddol sy’n codi yn sgil perthynas dyn â’r Ddaear. Defnyddir enghreifftiau o bedwar ban byd, ond mae llawer o’r modiwlau yn y cynllun BA Daearyddiaeth yn canolbwyntio’n benodol ar Gymru, ac ar ei daearyddiaeth a’i hamgylchedd.
Gall myfyrwyr ar y cynllun anrhydedd sengl BA Daearyddiaeth (L702) astudio ychydig dros hanner eu gradd drwy gyfrwng y Gymraeg. Gall myfyrwyr sy’n dewis astudio Daearyddiaeth ar y cyd â phwnc arall, fel gradd Prif Bwnc neu Anrhydedd Cyfun Daearyddiaeth, gynyddu cyfran y dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg fel ei bod yn nes at 100%.
Dysgu ac Addysgu
Mae gan Aberystwyth enw arbennig o dda am ansawdd ei dysgu a’i haddysgu, a chafodd farciau uchel am foddhad cyffredinol ei myfyrwyr ym maes Daearyddiaeth Ddynol a Daearyddiaeth Ffisegol yn yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr yn 2007. Mae gan y cynllun BA Daearyddiaeth strwythur modiwlar hyblyg sy’n galluogi myfyrwyr i gyfuno hyfforddiant hanfodol mewn sgiliau daearyddol allweddol â diddordebau arbenigol. Bydd myfyrwyr ar y cynllun Daearyddiaeth yn cael eu dysgu drwy gyfrwng darlithoedd, seminarau, sesiynau tiwtorial, dosbarthiadau ymarferol, cyrsiau maes ac arolygu unigol, trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg, a chânt eu hasesu drwy gyfuniad o arholiadau ffurfiol a gwaith cwrs, gan gynnwys traethodau, adroddiadau a chyflwyniadau. Gall myfyrwyr ddewis sefyll unrhyw arholiad a chyflwyno unrhyw aseiniad trwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae modiwlau craidd blwyddyn gyntaf y cynllun Daearyddiaeth yn cynnwys pedwar modiwl cyfrwng Cymraeg: Amgylcheddau Wyneb y Ddaear; Pobl, Lle a Chenedl; Cyflwyniad i Ddaearyddiaeth Ddynol; a’r modiwl tiwtorial. Bydd myfyrwyr hefyd yn astudio tri modiwl craidd cyfrwng Saesneg, a hyd at bedwar modiwl dewisol, a all gynnwys y ddau ddewis cyfrwng Cymraeg: Amgylchedd Cymru a Methodoleg Maes Amgylcheddol. Yn yr ail a’r drydedd flwyddyn, astudir y modiwlau tiwtorial craidd a phrosiect y Traethawd Estynedig drwy gyfrwng y Gymraeg, ac mae nifer o fodiwlau dewisol cyfrwng Cymraeg arbenigol ar gael, gan gynnwys: Daearyddiaeth Wleidyddol; Daearyddiaeth Cyfalafiaeth Hwyr; Geomorffoleg Afonol; Daearyddiaeth y Wladwriaeth; Daearyddiaeth Geltaidd; ac Adnoddau Ynni a’r Amgylchedd.
Gwaith Maes a’r Cyfle i Deithio
Bydd yr holl fyfyrwyr Daearyddiaeth yn mynd ar daith faes ragarweiniol i blasty Gregynog ger y Drenewydd ar ddechrau’r flwyddyn gyntaf, er mwyn cymryd rhan mewn uwchgynhadledd ffug yn trafod y ddaear. Mae’n ffordd wych o ddod i adnabod y myfyrwyr eraill ar y cwrs. Yn yr ail flwyddyn, bydd yr holl fyfyrwyr Daearyddiaeth Anrhydedd Sengl a Phrif Bwnc yn cymryd rhan mewn cwrs maes preswyl gorfodol – fel arfer, naill ai trip daearyddiaeth ddynol i Efrog Newydd neu gwrs daearyddiaeth ddynol a ffisegol cyfun yn Iwerddon. Bydd y cyrsiau maes hyn yn cyflwyno myfyrwyr i wahanol amgylcheddau a diwylliannau, gan archwilio themâu megis newid trefol, tirwedd a phwer, a mudo. Byddant hefyd yn datblygu sgiliau ymchwil a gwaith grwp.
Gan fod yr ardal leol mor drawiadol, gallwn gynnig manteision academaidd unigryw o ran astudio pob agwedd ar ddaearyddiaeth yn lleol. Mae penwythnosau maes yng Nghymru ar gael i fyfyrwyr ar y cynllun Daearyddiaeth trwy gyfrwng y modiwl Methodoleg Maes Amgylcheddol, sy’n cael ei redeg ar y cyd â phrifysgolion eraill yng Nghymru.
Gyrfaoedd
Mae’r cynllun gradd Daearyddiaeth yn rhoi sylfaen wych ar gyfer amrywiaeth eang o yrfaoedd, gan ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy allweddol a gwybodaeth gyffredinol ac arbenigol berthnasol. Mae daearyddwyr yn cael eu cyflogi mewn amrywiaeth eang o broffesiynau, yng Nghymru a thu hwnt. Mae ein graddedigion yn gweithio i Lywodraeth Cynulliad Cymru, Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd, awdurdodau lleol, elusennau a chyrff yn y sector gwirfoddol, a chwmnïau preifat, ac fel ymgynghorwyr amgylcheddol, athrawon, cynllunwyr a swyddogion datblygu economaidd, ymhlith llawer o swyddi eraill.
Ceir arweiniad ar yrfaoedd, gwneud cais am swydd a llunio CV cryf trwy gyfrwng dosbarthiadau tiwtorial a sesiynau arbenigol i ddaearyddwyr a gynhelir gan y Gwasanaeth Cynghori ar Yrfaoedd. Gall myfyrwyr ddewis treulio blwyddyn mewn gwaith, ac mae’r cynllun GO Wales ar gael i helpu myfyrwyr ganfod profiad gwaith yng Nghymru a chyfleoedd am waith ar ôl graddio.