Gwyddor Daear Amgylcheddol


F640 - 3 blynedd

A oes gennych chi ddiddordeb yn amgylchedd ffisegol y Ddaear, ac effaith y ddynoliaeth arno? Os oes, bydd y cynllun gradd Gwyddor Daear Amgylcheddol yn un cyffrous ac addas i chi. Pwrpas y radd yw astudio’r Ddaear fel system unedig, gan archwilio’r rhyngweithio rhwng yr atmosffer, wyneb y Ddaear a’r creigiau dan ein traed. Rhoddir pwyslais arbennig ar brosesau wyneb y Ddaear a’r cyswllt rhyngddynt a’r ddaeareg waelodol, yr atmosffer a gweithgaredd dyn, yn enwedig yng nghyd-destun newidiadau byd-eang yn yr amgylchedd. Yna byddwn yn defnyddio ein dealltwriaeth o’r prosesau hyn i roi sylw i faterion amgylcheddol megis newidiadau yn yr hinsawdd, llygredd, gwaredu gwastraff, dŵr daear a chyflenwadau dŵr, peryglon naturiol, defnyddio adnoddau a chadwraeth.

Yn ystod eich tair blynedd o astudio byddwch yn meithrin amrywiaeth eang o sgiliau proffesiynol sydd yn bwysig i gyflogwyr. Bydd y rhain yn cynnwys: astudio’n annibynnol, cyflwyno gwaith yn llafar ac ysgrifenedig, trin rhifau, technoleg gwybodaeth, sgiliau gwaith maes, sgiliau ymchwil, gweithio mewn tîm a datrys problemau. Mae gan y tîm brwd o staff sy’n dysgu’r cynllun brofiad ymchwil rhyngwladol a helaeth, felly byddwch yn sicr o ddysgu am y datblygiadau diweddaraf yn y pwnc. Mae cefn gwlad godidog Ceredigion yn cynnig cyfle gwych i wneud gwaith maes, a bydd staff hefyd yn arwain cyrsiau maes i rannau eraill o Brydain a thramor.

Yr ydym yn croesawu ceisiadau gan bobl sydd â chefndir mewn daearyddiaeth, daeareg, gwyddor yr amgylchedd neu unrhyw un o’r gwyddorau ffisegol eraill (bioleg, cemeg, ffiseg). Mae’n bosibl y byddwn hefyd yn gwneud cynigion i ymgeiswyr sydd â chymwysterau eraill ac sy’n gallu cynnig tystiolaeth o ddiddordeb a phrofiad ym maes Gwyddor Daear Amgylcheddol. Yr ydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn, ac anogwn bawb i ymweld â’r Brifysgol, naill ai ar un o Ddyddiau Agored y Brifysgol gyfan neu ar Ddiwrnod Ymweld Adrannol.

Dysgu ac Addysgu

Dyfarnwyd gradd ‘Rhagorol’ i Wyddor Daear Amgylcheddol yn yr Asesiad diwethaf ar Ansawdd y Dysgu. Patrwm modiwlar sydd i’r radd, ac mae’n cynnig profiad cyffrous sydd yn canolbwyntio ar y myfyriwr. Mae’r rhaglen radd yn cael ei diweddaru’n gyson er mwyn cyflwyno’r datblygiadau diweddaraf yn y pwnc ac i’ch annog i fanteisio ar ddatblygiadau technolegol newydd. Mae fframwaith y radd yn adeiladu o flwyddyn i flwyddyn: ym Mlwyddyn 1 cewch sylfaen o wybodaeth eang a sgiliau newydd; ym Mlwyddyn 2 byddwn yn canolbwyntio ar ddysgu technegau newydd; ac ym Mlwyddyn 3 cewch y cyfle i ddefnyddio’r technegau hyn i ddatrys problemau ym maes gwyddor daear amgylcheddol. Defnyddir amryw ddulliau asesu, gan gynnwys gwaith cwrs, adroddiadau maes, arholiadau a thraethawd estynedig sy’n seiliedig ar ymchwil annibynnol. Cewch eich dysgu mewn grwpiau tiwtorial bychain, seminarau a darlithiau mwy. Defnyddir y we fyd-eang yn helaeth fel adnodd dysgu, a bydd nodiadau darlith ac adnoddau eraill ar gael ar y we bob awr o’r dydd a’r nos.

Yn y flwyddyn gyntaf bydd modiwlau sy’n trafod materion amgylcheddol bydeang, ecoleg fyd-eang, newid amgylcheddol a’r ddaear ddeinamig yn sylfaen i’ch gradd mewn Gwyddor Daear Amgylcheddol. Yn yr ail a’r drydedd flwyddyn byddwch yn astudio modiwlau sy’n trafod adnoddau a defnyddiau’r ddaear a geocemeg amgylcheddol. Gallwch hefyd ddewis dilyn eich diddordebau mewn un o nifer o agweddau: geowyddoniaeth a materion amgylcheddol, newid amgylcheddol cwaternaidd, systemau afon a hydroleg, a rhewlifeg a geomorffoleg rewlifol, neu beryglon.

Gwaith Maes a’r Cyfle i Deithio

Mae Aberystwyth mewn man delfrydol ar arfordir prydferth a garw Ceredigion, yng nghanol bryn a phant a ffridd, ac mae copaon trawiadol Eryri o fewn cyrraedd yn rhwydd. Dyma ranbarth clasurol i astudio daeareg a daearyddiaeth ffisegol ynddo, a byddwn yn manteisio i’r eithaf ar y cyfle i wneud gwaith maes yn lleol. Bob blwyddyn, cynhelir cwrs maes preswyl wythnos o hyd, dros y Pasg fel arfer. Lleoliadau’r cwrs ar hyn o bryd yw gogledd Cymru yn y flwyddyn gyntaf, de-orllewin Lloegr yn yr ail flwyddyn a de-ddwyrain Iwerddon yn y drydedd. (Codir ffioedd ychwanegol am ymweliadau maes.)

Adnoddau

Mae gennym adnoddau dysgu ac ymchwil rhagorol. Rydym yn defnyddio tri labordy mawr i ddysgu israddedigion, yn ogystal â darlithfeydd sy’n cynnwys cyfarpar helaeth. Mae yma ddau labordy cyfrifiadurol, sy’n cynnwys cyfarpar safonol, a labordai eraill ar gyfer mapio, modelu amgylcheddol, synhwyro o bell, dadansoddi dŵr a gwaddodion, dadansoddi creigiau a dadansoddi croestoriadau tenau, y cwbl yn defnyddio’r offer diweddaraf. Yn ogystal â hyn, mae’r storfeydd maes yn cynnwys pob math o offer arolygu a samplo, ac maent i gyd ar gael i’w defnyddio gan israddedigion.

Y Prosiect Annibynnol

Un o’r darnau gwaith pwysicaf a wnewch yn ystod eich cyfnod yn Aberystwyth fydd darn o ymchwil maes a gwaith labordy o’ch dewis eich hun dan arweiniad arolygwr. Byddwch yn dechrau cynllunio tua diwedd eich ail flwyddyn, yn gwneud gwaith maes fel arfer yn ystod gwyliau’r haf, ac yn dadansoddi’r data ac ysgrifennu yn ystod y drydedd flwyddyn. Mae’r traethawd estynedig yn werth 30 credyd, ac mae cyflwyniad llafar yn rhan ohono. Dyma’r agwedd fwyaf boddhaol i’r rhan fwyaf o fyfyrwyr, a gellir defnyddio’r cynnyrch yn y diwedd yn aml i greu argraff dda ar ddarpar gyflogwyr. Ymhlith pynciau’r traethawd yn ddiweddar cafwyd llygru awyr, pridd a gwaddodion; daeareg rewlifol a rhewlifeg; dynameg afonydd; geomorffoleg yr arfordir; mapio daearegol; asesu effeithiau ar yr amgylchedd; ac echdoriadau folcanig a’u heffaith ar iechyd pobl ac ar yr amgylchedd. Mae staff y Sefydliad wedi arolygu prosiectau yn eu meysydd eu hun megis yr Arctig Uchel (Svalbard), Alpau’r Swistir, a diffeithdir de Gwlad yr Iorddonen.

Gyrfaoedd

Gwneir pob ymdrech i’ch helpu i gael gwaith addas ar ôl i chi raddio. Byddwch yn meithrin ystod helaeth o sgiliau sy’n bwysig i gyflogwyr, ac rydym yn defnyddio’r rhaglen o sesiynau tiwtorial i ddatblygu ymwybyddiaeth o yrfaoedd. Wrth i sylw’r cyhoedd droi fwyfwy at faterion amgylcheddol bu’n rhaid i’r sector masnachol ymdopi â’r gyfraith ddiweddar o Ewrop a Phrydain ar yr amgylchedd, gan greu cyfleoedd gwaith newydd yn y maes. Bu’r radd Gwyddor Daear Amgylcheddol yn effeithiol wrth roi cyfle i’n graddedigion gystadlu’n dda am swyddi mewn materion amgylcheddol. Bydd llawer o fyfyrwyr hefyd yn mynd yn eu blaen i wneud gradd uwch megis cyrsiau Meistr galwedigaethol ym meysydd daeareg, cyfrifiadureg neu wyddor yr amgylchedd. Bydd eraill yn mynd i yrfa y tu allan i wyddor daear lle mae cyflogwyr yn chwilio am sgiliau cyfrifiadur a sgiliau cyflwyno.

Gwybodaeth y Cynllun Astudio

Mae wybodaeth ar y tudalen hon yn cyfeirio i'r cynlluniau sy'n isod:

Set Gwybodaeth Allweddol