Daearyddiaeth
F800- BSc 3 blynedd
Bydd myfyrwyr yn astudio’r prosesau dynol a ffisegol sy’n rhoi strwythur i’r byd, a’r materion gwleidyddol ac amgylcheddol sy’n codi yn sgil perthynas dyn â’r ddaear. Mae deall sut mae cymdeithas ddynol a’r amgylchedd byd-eang yn berthnasol i’n bywydau, ym Mhrydain a thu hwnt, yn holl bwysig yn y byd cyfoes. Aberystwyth oedd y brifysgol gyntaf trwy Brydain i gynnig graddau anrhydedd Daearyddiaeth yn y celfyddydau a’r gwyddorau. Mae’r traddodiad hwn yn parhau hyd heddiw â’r cyfle i astudio ar draws rhychwant eang neu arbenigo’n fanwl ledled y Gwyddorau Ffisegol a Dynol. Sylweddolwn fod Daearyddiaeth safon uwch yn ddisgyblaeth eang iawn, ac y byddwch o bosibl eisiau parhau â’r ehangder astudio hwnnw. Ar y llaw arall, efallai y byddwch eisiau canolbwyntio ar rai meysydd penodol, â rhyw yrfa arbennig mewn golwg o bosibl. Mae digon o gyfle yma, ac mae patrwm y modiwlau yn hyblyg i gyfateb i anghenion unigol. Pwrpas ein cyrsiau yn y pen draw yw arfogi’r rhai sy’n graddio â’r amrywiaeth o sgiliau proffesiynol y byddant eu hangen i ganfod swydd yn y dyfodol.
Croesewir ceisiadau gan bobl sydd â diddordeb byw yn y blaned, ei gorffennol a’i dyfodol. Yr ydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn. Trwy gydol y tair blynedd cewch gyfle i astudio Daearyddiaeth Ffisegol a Dynol, ac i arbenigo ym meysydd penodol y ddisgyblaeth. Gan mai yn y Sefydliad Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear y ceir un o’r cymunedau Daearyddiaeth mwyaf yn y DU, gallwn gynnig ystod eang iawn o fodiwlau dewisol, gan roi cyfle i chi greu cynllun gradd sy’n addas i’ch diddordebau personol.
Dysgu ac Addysgu
Mae strwythur y cwrs Daearyddiaeth yn un blaengar sy’n datblygu’n barhaus. Ym mlwyddyn gyntaf y cynllun hwn byddwch fel arfer yn astudio pedwar modiwl Daearyddiaeth Ffisegol, pedwar modiwl Daearyddiaeth Ddynol, dosbarth ymarferol a thiwtorial. Mae’r modiwlau hyn yn cynnwys darlithoedd ac elfen ymarferol. Mae’r modiwl tiwtorial yn rhan ganolog o’r rhaglen graidd ym mlwyddyn gyntaf y cynllun gradd ac yn y blynyddoedd dilynol. Mae’r modiwl ymarferol yn cynnwys elfennau sy’n ymwneud â chartograffeg, ystadegau disgrifiadol a phrosesu a chyfrifo data. Gellir dewis modiwl ychwanegol naill ai o blith y pynciau eraill a ddysgir yn y Sefydliad, megis Gwyddor yr Amgylchedd neu Wyddor Daear Amgylcheddol, neu o ddisgyblaethau tebyg i Ddaearyddiaeth megis Gwleidyddiaeth Ryngwladol, Economeg, Bioleg neu Gyfrifiadureg.
Yn ail flwyddyn y rhaglen radd Ddaearyddiaeth bydd angen i chi astudio 12 modiwl. Mae’r rhain yn cynnwys tiwtorial, lle byddwch yn parhau i weithio mewn amgylchedd grŵp bach, a modiwlau ar theori a dulliau mewn daearyddiaeth. Byddwch hefyd yn astudio mewn dosbarth ymarferol ac yn cael profiad o waith maes. Gallwch ddewis gweddill eich modiwlau o blith rhestr eang o fodiwlau dynol a ffisegol sy’n astudio pynciau megis rhewlifeg, geomorffoleg, geoberyglon, gwyddor fforensig, cynaliadwyedd, rheoli’r amgylchedd, gwledydd America ac ailstrwythuro economaidd a chymdeithasol.
Yn y drydedd flwyddyn mae’r craidd gorfodol yn llai ac yn cynnwys traethawd estynedig ar sail ymchwil annibynnol yn y maes, yn ogystal â thiwtorial. Bydd cyfle hefyd i chi astudio sawl llwybr gwahanol, gan gynnwys modiwlau arbenigol mewn priddeg, bioddaearyddiaeth, systemau afon, hydroleg, systemau gwybodaeth ddaearyddol, risg amgylcheddol, America Ladin a daearyddiaeth drefol a gwledig. Oherwydd bod cymaint o ddewis o fodiwlau bydd rhai o’r dosbarthiadau yn fychan ac felly bydd gennych gyswllt clòs ag aelodau o staff. Ceir manylion penodol am y modiwlau yr ydym yn eu cynnig yn y llawlyfr ‘Daearyddiaeth yn Aberystwyth’ ac ar ein gwefan ar http://www.aber.ac.uk/iges.
Mae’r cwrs Daearyddiaeth yn cael ei ategu gan gyfleusterau o’r radd flaenaf ar gyfer gwneud gwaith labordy ym maes dadansoddi cemegol a ffisegol (e.e. priddoedd, ansawdd dŵr a gwaith paill), archwiliadau cymdeithasol a phrosesu data. Bydd yr holl israddedigion yn cael cynnig hyfforddiant ym maes trin a chyrchu data cyfrifiadurol ar y Rhyngrwyd, dadansoddi ystadegau a dadansoddi deunyddiau naturiol a byddant yn dysgu am ddulliau cynnal arolwg yn y maes a thechnegau ansoddol. Mae’r hyfforddiant yma’n cael ei gyfoethogi a’i gefnogi gan waith y grwpiau ymchwil arbenigol sy’n cynnwys aelodau o staff sy’n cyfrannu’n weithgar at yr wybodaeth ddaearyddol ddiweddaraf.
Yr ydym yn ffodus yma yn Aberystwyth bod gennym gymuned glòs a chefnogol o ddaearyddwyr. Mae gennym Bwyllgor Ymgynghorol Staff-Myfyrwyr gweithgar, a Chymdeithas Ddaearyddiaeth lewyrchus dan arweiniad y myfyrwyr, sy’n trefnu darlithoedd rheolaidd gan siaradwyr allanol ynghyd â theithiau maes anffurfiol, cinio a dawns, a gweithgareddau cymdeithasol eraill.
Gwaith Maes a’r Cyfle i Deithio
Mae’r cwrs maes preswyl – a gynhelir ar hyn o bryd naill ai yn Seland Newydd, Efrog Newydd, Sbaen, Iwerddon neu ganolbarth Cymru – ynghyd â chyrsiau maes dewisol, a thraethodau estynedig a gwaith prosiect unigol sy’n seiliedig ar waith maes, yn elfen bwysig o’r cwrs Daearyddiaeth. Mae gan Aberystwyth fanteision academaidd unigryw gan fod amgylchedd gwych yr ardal yn ein galluogi i astudio pob agwedd ar ddaearyddiaeth yn lleol. (Codir ffioedd ychwanegol am deithiau maes.)
Rydym yn annog ein holl israddedigion i ddatblygu agwedd fyd-eang a rhyngwladol at eu gwaith. Gan ein bod yn ganolfan ragoriaeth ryngwladol, mae’r gwaith ymchwil a’r dysgu israddedig yn canolbwyntio ar amrywiaeth helaeth o themâu ac amgylcheddau – o eithafion yr Arctig i’r Antarctig; trwy Ewrop a gwledydd America i Tsieina a’r Dwyrain Pell; o Ogledd Affrica i Ethiopia, Kenya a De Affrica.
Gyrfaoedd
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae graddedigion o Aberystwyth wedi cael gwaith ym meysydd yr amgylchedd, gwyddoniaeth, mathemateg, gwasanaethau gwybodaeth a gwasanaethau cymdeithasol; mewn twristiaeth, rheoli diwydiant a mentrau busnes. Bydd rhai daearyddwyr yn mynd yn athrawon, ond bydd y rhan fwyaf yn mynd i weithio mewn amrediad eang o swyddi ym mhob sector o’r economi, ac mae eu sgiliau cyffredinol ac arbenigol yn cael eu cydnabod mewn marchnad swyddi gystadleuol iawn.
Gwnawn bob ymdrech i sicrhau eich bod yn cael swydd addas ar ôl graddio. Rydym yn trafod cyfleoedd gyrfa gyda’n myfyrwyr yn rhan o raglen sesiynau tiwtorial yr israddedigion, a rhoddwn bob anogaeth ichi fanteisio i’r eithaf ar fywyd y Brifysgol ac achub ar bob cyfle a gewch i gryfhau eich proffil cyflogaeth.
Amanda Regan
BSc Geography
Devon