Daearyddiaeth Ddynol
L700 – 3 blynedd
Mae Daearyddiaeth Ddynol yn bwnc cyffrous a gwerth chweil i’w astudio yn y brifysgol. Mae’n ymdrin â rhai o’r materion pwysicaf sy’n wynebu’r byd heddiw – bydehangu, datblygu cynaliadwy, anghydraddoldeb a thlodi, geowleidyddiaeth, cenedlaetholdeb a rhanbartholrwydd, mudo, amlddiwylliannau a newidiadau cymdeithasol ac economaidd – ond hefyd mae’n edrych ar bethau bob dydd y byd o’n cwmpas, o’r mannau lle mae plant yn chwarae i ddiwylliant gyrru ar draffyrdd. Mae daearyddwyr dynol yn astudio’r prosesau hanesyddol y tu ôl i dueddiadau cyfoes, yn dwyn ynghyd safbwyntiau o wahanol wledydd a diwylliannau, ac yn defnyddio gwahanol ffynonellau, o fapiau ac ystadegau i ffilm, celf a llenyddiaeth. Yn hyn o beth, mae Daearyddiaeth Ddynol nid yn unig yn bwnc amrywiol ac ysgogol i’w astudio, ond y mae hefyd yn datblygu portffolio eang o sgiliau sy’n werthfawr i bob math o yrfa.
Y mae’r cynllun gradd Daearyddiaeth Ddynol yn Aberystwyth yn uchel ei barch ac wedi ei osod ar y brig ym Mhrydain o ran boddhad cyffredinol ein myfyrwyr yn yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr yn 2006 a 2007. Mae ein myfyrwyr wedi ennill gwobrau cenedlaethol ac yn ddiweddar mae graddedigion yr adran i’w gweld yn darlithio mewn nifer o brifysgolion Prydain. Mae’r addysgu’n flaengar ac arloesol, ac wedi ei seilio ar waith ymchwil gan staff brwdfrydig. Llwyddir i greu ymdeimlad cryf o berthyn ymhlith ein myfyrwyr o’r penwythnos rhagarweiniol ymlaen ac y mae’r berthynas dda sydd rhwng myfyrwyr a staff yn cael ei hatgyfnerthu gan y pwyslais a roddir ar addysgu mewn grwpiau tiwtorial bach ac arolygu unigol ar y gwaith prosiect.
Dysgu ac Addysgu
Cynlluniwyd y radd BA Daearyddiaeth Ddynol i fyfyrwyr sy’n dymuno canolbwyntio’n bennaf neu’n llwyr ar themâu Daearyddiaeth Ddynol, ond y mae fframwaith modiwlar hyblyg y cwrs hefyd yn caniatáu i fyfyrwyr ddatblygu eu diddordebau penodol eu hunain.
Yn y flwyddyn gyntaf, bydd myfyrwyr yn treulio hyd at ddwy ran o dair o’u hamser yn dilyn modiwlau Daearyddiaeth Ddynol, sy’n rhoi iddynt sylfaen yn y sgiliau sy’n allweddol ar gyfer astudio’r pwnc yn y brifysgol, ac yn cyflwyno’r prif themâu, megis bydehangu a datblygu anghyfartal byd-eang, cynaliadwyedd, newid trefol a gwledig, a’r berthynas rhwng pobl a lleoedd. Y mae nifer o fyfyrwyr hefyd yn astudio’r modiwlau Daearyddiaeth Ffisegol a gynigir, sy’n caniatáu’r dewis i drosglwyddo i un o’r cynlluniau gradd Daearyddiaeth eraill ar ddiwedd y flwyddyn gyntaf. Ond mae nifer o fyfyrwyr hefyd yn dewis astudio modiwlau mewn pynciau eraill gan gynnwys Gwleidyddiaeth Ryngwladol, Hanes, Saesneg, Economeg neu Reolaeth, sy’n ategu themâu Daearyddiaeth Ddynol.
Yn yr ail a’r drydedd flwyddyn, bydd y rhan fwyaf o fyfyrwyr yn canolbwyntio’n llwyr ar Ddaearyddiaeth Ddynol, ond y mae’n bosibl parhau i astudio nifer cyfyngedig o fodiwlau Daearyddiaeth Ffisegol neu bynciau eraill. Y mae’r ail flwyddyn yn cynnwys y cwrs maes preswyl a hyfforddiant ymarferol mewn technegau fel cyfweld, arsylwi ar gyfranogwyr ac ymchwil archifol, yn ogystal â modiwlau ar bynciau megis datblygu cynaliadwy a gwleidyddiaeth amgylcheddol; gwleidyddiaeth fyd-eang, cenedlaetholdeb a’r wladwriaeth; datblygiad hanesyddol y byd modern; newid economaidd a’r gymdeithas ddefnyddwyr; daearyddiaethau cymdeithasol a’r daearyddiaethau sy’n rhan o ddiwylliant poblogaidd.
Yn y drydedd flwyddyn mae’r craidd gorfodol yn llai ac yn cynnwys traethawd ymchwil estynedig annibynnol. Ochr yn ochr â hyn byddwch yn astudio nifer o fodiwlau arbenigol, wedi eu dewis o blith rhestr faith. Mae’r modiwlau a gynigir yn cwmpasu holl brif feysydd Daearyddiaeth Ddynol, yn ystyried y gwledig a’r trefol, y datblygedig a’r datblygol a chyd-destunau hanesyddol a chyfoes – gan elwa ar arbenigedd ymchwil y staff dysgu. Y mae manylion llawn y modiwlau a gynigir i’w gweld yn y llyfryn ‘Daearyddiaeth yn Aberystwyth’ ac ar wefan y Sefydliad.
Er bod rhai dosbarthiadau darlith yn fawr cewch eich tywys trwy eich astudiaethau gan diwtoriaid personol sy’n darparu rhaglen arolygu sydd wedi ei pharatoi’n ofalus. Y mae’r modiwl tiwtorial yn un o’r modiwlau craidd trwy gydol y tair blynedd, a cheir arolygaeth unigol ychwanegol ar gyfer eich prosiect a’ch gwaith ar eich traethawd estynedig. Y mae’r deunydd daearyddiaeth yn y llyfrgell o’r safon uchaf ac mae trefn o fenthyca cyfyngedig a chronfa amlgopïau o lyfrau allweddol yn sicrhau bod y testunau allweddol ar gael yn hawdd. Fel y Brifysgol, y mae Daearyddiaeth Ddynol yn ceisio hybu cyswllt agos a chyfeillgar rhwng staff a myfyrwyr. Caiff cymuned gefnogol o ddaearyddwyr dynol ei chreu o’r wythnos gyntaf ymlaen, pan fydd staff a myfyrwyr yn mynd i gynhadledd penwythnos yng Ngregynog, sef hen blasty hardd yng nghanolbarth Cymru. Mae gan yr Adran hefyd Bwyllgor Ymgynghorol Staff-Myfyrwyr bywiog a Chymdeithas Ddaearyddol lewyrchus dan arweiniad y myfyrwyr, sy’n trefnu darlithoedd rheolaidd gan siaradwyr allanol, ynghyd â theithiau maes anffurfiol, dawns a digwyddiadau cymdeithasol eraill.
Gwaith Maes a’r Cyfle i Deithio
Rydym yn annog ein holl fyfyrwyr israddedig i ddatblygu agwedd fyd-eang a rhyngwladol at eu gwaith. Gan ein bod yn ganolfan ragoriaeth ryngwladol, mae’r gwaith ymchwil a’r dysgu israddedig yn canolbwyntio ar amrywiaeth helaeth o themâu ac amgylcheddau – o Ewrop i UDA, o Dde America i Dde Affrica, ac o Dde Asia i Awstralia.
Bydd pob myfyriwr anrhydedd sengl Daearyddiaeth Ddynol yn cymryd rhan mewn cwrs maes preswyl wythnos o hyd yn yr ail flwyddyn, naill ai yn Efrog Newydd neu Iwerddon. Mae’r cwrs maes yn cyflwyno myfyrwyr i amgylcheddau a diwylliannau gwahanol, yn archwilio themâu megis newid trefol, tirwedd a grym, a mudo, a hefyd yn datblygu sgiliau ymchwil a gwaith grŵp. Bydd myfyrwyr Daearyddiaeth Ddynol hefyd yn cymryd rhan mewn cynhadledd benwythnos ym mhlasty Gregynog yng nghanolbarth Cymru ar ddechrau’r flwyddyn gyntaf, lle bydd myfyrwyr yn cyfrannu at uwchgynhadledd ffug yn trafod y ddaear. Mae’n ffordd wych o ddod i adnabod y myfyrwyr eraill ar y cwrs. Anogir myfyrwyr i deithio ar eu liwt eu hunain hefyd trwy gyfrwng nifer o Wobrau Teithio sydd ar gael i ddaearyddwyr yn unig, i helpu i ariannu teithiau ledled y byd yn ystod y gwyliau.
Gyrfaoedd
Rydym yn gwneud pob ymdrech i’ch helpu i gael gwaith addas ar ôl i chi raddio. Mae datblygu sgiliau trosglwyddadwy a hybu ymwybyddiaeth o yrfaoedd yn rhan bwysig o’r rhaglen arolygaeth diwtorial o’r flwyddyn gyntaf ymlaen. Amcan y cwrs yn Aberystwyth yw datblygu yn ein holl fyfyrwyr sgiliau llythrennedd, trafod rhifau a graffigedd, sy’n ganolog i addysg ym maes daearyddiaeth. Rydym yn annog menter bersonol, trafodaethau grŵp a sgiliau arwain trwy gyfrwng ystod o gyfleoedd mewn darlithiau, seminarau, grwpiau tiwtorial, gwaith llyfrgell, gwaith maes a gwaith ymarferol. Byddwch yn cael pob cyfle i gyflawni’ch potensial.
Mae Daearyddiaeth Ddynol yn gefndir delfrydol i yrfaoedd o bob math, gan gynnwys y gwasanaeth sifil, newyddiaduraeth, ymgynghori, rheoli, dysgu a gwaith elusennol. Aeth ein graddedigion i swyddi mewn amryw feysydd - yn ddiweddar i waith ymgynghorol yn Llundain, asiantaethau datblygu economaidd yng Nghymru, ac elusennau dramor, i roi ond ychydig enghreifftiau. Bydd eraill yn gwneud gwaith ymchwil amser llawn ar gyfer traethawd meistr neu ddoethur neu’n dilyn cyrsiau ym maes cynllunio, y gyfraith neu’n paratoi i fod yn athrawon.
Ein nod yw annog myfyrwyr trwy gydol eu hamser yma i gymryd rhan i’r eithaf ym mywyd y Brifysgol, canolbwyntio eu hymdrechion ar lwyddo’n academaidd ac yn alwedigaethol a sicrhau eu bod, wrth raddio, wedi eu paratoi i lwyddo mewn marchnad swyddi gystadleuol.