Daearyddiaeth Ffisegol
F840 - 3 blyneddGwaith daearyddwyr yw astudio’r prosesau sy’n rhoi strwythur i’r byd naturiol a’r materion yn ymwneud â rheoli’r amgylchedd sy’n codi yn sgil y prosesau hynny. Mae deall yr amgylchedd byd-eang a’i broblemau yn berthnasol i’n bywydau oll. Aberystwyth oedd y brifysgol gyntaf trwy Brydain i gynnig graddau anrhydedd gwyddonol arbenigol mewn Daearyddiaeth. Mae’r traddodiad hwn yn parhau hyd heddiw â’r cyfle i ganolbwyntio’n fanwl ar astudio prosesau amgylcheddol o safbwynt gwyddonol. Sylweddolwn, serch hynny, fod Daearyddiaeth Ffisegol safon uwch yn ddisgyblaeth eang iawn, ac y byddwch o bosibl eisiau parhau â’r ehangder astudio hwnnw. Ar y llaw arall, efallai y byddwch eisiau canolbwyntio ar rai meysydd penodol â rhyw yrfa arbennig mewn golwg. Mae digon o gyfle yma, ac mae patrwm y modiwlau yn hyblyg i gyfateb i’ch anghenion unigol. Pwrpas ein cyrsiau yn y pen draw yw eich arfogi â’r amrywiaeth o sgiliau arbenigol a deongliadol y byddwch eu hangen i ganfod swydd yn y dyfodol.
Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl sy’n teimlo’n gryf am y pwnc. Yr ydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn. Yn y flwyddyn gyntaf byddwch yn treulio’r rhan fwyaf o’ch amser yn astudio modiwlau Daearyddiaeth Ffisegol sy’n trafod pynciau megis materion amgylcheddol byd-eang, ecoleg fyd-eang, amgylcheddau arwyneb y ddaear a chylch dŵr a’r atmosffer, a bydd cyfle hefyd i astudio modiwlau eraill o blith y dewis eang sydd ar gael yn y Sefydliad Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear neu mewn pynciau tebyg. Yn yr ail a’r drydedd flwyddyn gallwch arbenigo mewn meysydd penodol o Ddaearyddiaeth Ffisegol, megis rhewlifeg, dynameg systemau afon, geomorffoleg, newid amgylcheddol cwaternaidd, systemau gwybodaeth ddaearyddol a synhwyro o bell, neu weithgarwch folcanig.
Cynnwys a Strwythur
Mae strwythur y cwrs Daearyddiaeth yn un blaengar sy’n datblygu’n barhaus. Ym mlwyddyn gyntaf y cynllun hwn byddwch yn gorfod astudio chwe modiwl craidd Daearyddiaeth Ffisegol a phum modiwl o blith y pynciau eraill a gynigir yn y Sefydliad Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear, gan gynnwys Gwyddor yr Amgylchedd, Gwyddor Daear Amgylcheddol a Daearyddiaeth Ddynol. Mae’r modiwlau hyn yn cynnwys darlithoedd ac elfen ymarferol. Mae’r modiwl ymarferol yn cynnwys elfennau sy’n ymwneud â chartograffeg, ystadegau disgrifiadol a phrosesu a chyfrifo data. Mae modiwl tiwtorial yn rhan ganolog o’r rhaglen graidd ym mlwyddyn gyntaf y cynllun gradd ac yn y blynyddoedd dilynol.
Yn ail flwyddyn y rhaglen radd Daearyddiaeth Ffisegol bydd angen i chi astudio naw modiwl. Mae’r rhaglen graidd Daearyddiaeth Ffisegol yn cynnwys sgiliau labordy a sgiliau dadansoddi, gwaith maes, modiwl tiwtorial a phynciau allweddol ym maes geomorffoleg afonol, rhewlifeg a rheoli’r amgylchedd a gwyddor gwaternaidd. Bydd cyfle i chi ddewis eich modiwlau arbenigol, gan gynnwys dewisiadau ym maes geoberyglon, adnoddau’r ddaear, eigioneg, amgylcheddau pegynol, systemau hydrolegol a hydrocemeg.
Yn y drydedd flwyddyn mae’r craidd gorfodol yn llai ac yn cynnwys traethawd estynedig ar sail ymchwil annibynnol yn y maes. Bydd cyfle hefyd i chi astudio sawl llwybr gwahanol, gan gynnwys modiwlau arbenigol ym maes adnoddau dŵr, rhewlifeg, synhwyro o bell, systemau gwybodaeth ddaearyddol, geocemeg, gweithgarwch folcanig, bioddaearyddiaeth, pobl ac amgylcheddau, ansawdd dŵr, systemau afon a newid amgylcheddol, gemorffoleg tir sych a hydrodaeareg. Oherwydd bod cymaint o ddewis o fodiwlau bydd rhai o’r dosbarthiadau yn fychan ac felly bydd gennych gyswllt clòs ag aelodau o staff. Ceir manylion penodol am y modiwlau yr ydym yn eu cynnig yn y llawlyfr ‘Daearyddiaeth yn Aberystwyth’.
Adnoddau
Mae’r cwrs Daearyddiaeth Ffisegol yn cael ei ategu gan gyfleusterau datblygedig ar gyfer gwneud gwaith labordy ym maes dadansoddi cemegol a ffisegol (e.e. priddoedd, ansawdd dŵr a gwaith paill) a phrosesu data. Bydd yr holl israddedigion yn cael hyfforddiant ym maes trin a chyrchu data cyfrifiadurol ar y Rhyngrwyd, dadansoddi ystadegau a dadansoddi deunyddiau naturiol a byddant yn dysgu am ddulliau cynnal arolwg yn y maes. Mae’r hyfforddiant yma’n cael ei gyfoethogi a’i gefnogi gan yr ymchwil a wneir yn y Ganolfan Rewlifeg ac yn y grwpiau ymchwil Newid Amgylcheddol Cwaternaidd a Basnau Afon a Hydroleg. Ymhlith yr adnoddau eraill y mae unedau ffotograffig a reprograffig a gweithdai offer maes a labordy.
Yr ydym yn ffodus yma yn Aberystwyth bod gennym gymuned gefnogol o ddaearyddwyr a chyswllt clòs a chyfeillgar rhwng y myfyrwyr a’r staff. Mae gennym Bwyllgor Ymgynghorol Staff a Myfyrwyr gweithgar, a Chymdeithas Ddaearyddiaeth lewyrchus dan arweiniad y myfyrwyr, sy’n cynnig darlithiau rheolaidd gan siaradwyr gwadd ynghyd â theithiau maes anffurfiol, cinio a dawns, a gweithgareddau cymdeithasol eraill.
Gradd Fyd-eang
Mae’r cwrs maes gorfodol wythnos o hyd – a gynhelir ar hyn o bryd yn Seland Newydd, Sbaen, Iwerddon neu ganolbarth Cymru – ynghyd â chyrsiau maes dewisol, a thraethodau estynedig a gwaith prosiect unigol sy’n seiliedig ar waith maes, yn elfennau pwysig o’r cwrs Daearyddiaeth. Mae gan Aberystwyth fanteision academaidd unigryw gan fod yr amgylcheddau arfordirol, afonol a biolegol yn ein galluogi i astudio daearyddiaeth ffisegol yn lleol.
Rydym yn annog ein holl fyfyrwyr israddedig i ddatblygu agwedd fyd-eang a rhyngwladol at eu gwaith. Gan ein bod yn ganolfan ragoriaeth ryngwladol, mae’r gwaith ymchwil a’r dysgu israddedig yn canolbwyntio ar amrywiaeth helaeth o themâu ac amgylcheddau – o eithafion yr Arctig i’r Antarctig; trwy Ewrop a gwledydd America i China a’r Dwyrain Pell; o Ogledd Affrica i Ethiopia, Kenya a De Affrica.
Gyrfaoedd
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae graddedigion o Aberystwyth wedi cael gwaith ym meysydd yr amgylchedd, gwyddoniaeth, mathemateg, gwasanaethau gwybodaeth a gwasanaethau cymdeithasol; mewn twristiaeth, rheoli diwydiant a mentrau busnes. Bydd rhai daearyddwyr yn mynd yn athrawon, ond bydd y rhan fwyaf yn mynd i weithio mewn amrediad eang o swyddi ym mhob sector o’r economi, a bydd eu sgiliau cyffredinol ac arbenigol yn cael eu cydnabod mewn marchnad swyddi gystadleuol iawn.
Gwnawn bob ymdrech i sicrhau eich bod yn cael swydd addas wrth raddio. Rydym yn trafod cyfleoedd gyrfa gyda’n myfyrwyr yn rhan o raglen sesiynau tiwtorial yr israddedigion, a rhoddwn bob anogaeth ichi fanteisio i’r eithaf ar fywyd y Brifysgol ac achub ar bob cyfle a gewch i gryfhau eich proffil cyflogaeth.
I gael rhagor o fanylion am y BSc Daearyddiaeth Ffisegol (F840) gweler ein gwefan ar http://www.aber.ac.uk/iges.
Sarah Louise Page
BSc Daearyddiaeth Ffisegol
Banbury

Please turn on JavaScript.