Hanes a Hanes Cymru


Mae rhywfaint o chwilfrydedd yn y rhan fwyaf ohonom ynglŷn â’r gorffennol, a sut y bu cymdeithasau dynol yn datblygu dros y blynyddoedd. Ymgais yw pwnc academaidd Hanes i roi chwilfrydedd o’r fath yng nghyd-destun disgyblaeth academaidd. Yr hyn sydd ei angen ar ddarpar fyfyrwyr felly yw digonedd o’r chwilfrydedd yma am y gorffennol, ynghyd â meddwl disgybledig i’ch helpu i ddod ato mewn modd dadansoddol, a chydymdeimlad a sensitifrwydd. Hyn sy’n gwneud hanes yn un o’r pynciau academaidd mwyaf pleserus, buddiol a gwâr. Yn ogystal â bod yn ddiddorol ynddo’i hun, mae astudio hanes yn cynnig gweledigaeth a all ein helpu i ddeall digwyddiadau’r byd sydd ohoni. Bydd gradd mewn hanes yn ffordd ichi osod y gorffennol yn ei gyd-destun, ac yn eich arfogi â’r sgiliau dadansoddi, dehongli a chyfathrebu sydd mor hanfodol i fywyd heddiw.

Cewch y cyfle yn Aberystwyth i astudio Hanes mewn lleoliad hynod o braf, gydag adnoddau llyfrgell ac archifau rhagorol, yn ogystal ag adnoddau cyfrifiadurol, wrth law. Mae’r Adran ar ganol y campws, yn mwynhau golygfa wych dros y bae. Un o’r pethau gorau yw bod yr holl adnoddau pwysig y mae eu hangen arnoch o fewn pellter cerdded o ychydig funudau – llety, Undeb y Myfyrwyr, cyfleusterau chwaraeon, a Chanolfan y Celfyddydau â’i theatr, ei neuadd gyngherddau, ei harddangosfeydd, ei siop lyfrau, ei barrau a’i thai bwyta.

Dysgwyd Hanes yn Aberystwyth ers sefydlu’r Brifysgol yn 1872. Mae 22 o ddarlithwyr yn yr Adran, ac mae eu diddordebau ymchwil a dysgu yn rhychwantu’r cyfnod o'r cynfyd i’r byd modern. Adlewyrchir hyn yn y dewis helaeth o fodiwlau hanes gwleidyddol, cymdeithasol a diwylliannol a gynigir.

Rydym yn ymfalchïo yn y berthynas gyfeillgar ac anffurfiol sydd rhwng y staff a’r myfyrwyr. Cynrychiolir eich buddiannau gan Bwyllgor Staff-Myfyrwyr, ac mae gennym Gymdeithas Hanes fywiog sydd yn trefnu darlithoedd gan siaradwyr gwadd, ymweliadau â lleoedd o ddiddordeb a digwyddiadau cymdeithasol.

Yn ogystal â Llyfrgell wych y Brifysgol, caiff myfyrwyr Hanes yn Aberystwyth fwynhau aelodaeth lawn o Lyfrgell Genedlaethol Cymru. Dim ond pum llyfrgell hawlfraint a geir ledled Prydain, a’n Llyfrgell Genedlaethol yw un ohonynt. Mae’n dal mwy na 6 miliwn o lyfrau, mapiau a phrintiadau, ac mae’r cwbl o fewn 5 munud i’r Adran. Bydd yr adnoddau hyn yn werthfawr dros ben wrth ichi astudio’ch Pwnc Arbennig ac ysgrifennu’ch traethawd estynedig yn eich trydedd flwyddyn.

Dysgu ac Asesu

Amcan sylfaenol y maes llafur Hanes yn Aberystwyth yw cyfleu amrywiaeth a chyffro yr agweddau cyfoes tuag at astudio Hanes, a dysgu sgiliau allweddol fel cael hyd i wybodaeth, dehongli a hunanfynegiant. Ymhlith cryfderau’r Adran y mae ymrwymiad parhaus i ddosbarthiadau tiwtorial i unigolion a datblygu addysgu blaengar mewn darlithoedd a seminarau. Cewch eich asesu trwy ddulliau amrywiol ond sefydledig (arholiadau traddodiadol, arholiadau agored, traethodau a asesir, prosiectau a chyflwyniadau, a thraethawd estynedig). Bydd hyn yn fodd ichi gyflawni’ch addewid a chyrraedd eich disgwyliadau dysgu.

Y Cynlluniau Gradd

Gallwch astudio am radd Anrhydedd Sengl neu Anrhydedd Cyfun mewn hanes yn Aberystwyth. Gallwch gyfuno hanes, er enghraifft, â ieithoedd modern, Saesneg, hanes celf, neu wleidyddiaeth. Mae manteision amlwg i’r naill a’r llall. Os ydych yn dewis gradd gyfun neu gyfuniad prif bwnc/is-bwnc, byddwch yn manteisio ar y cyfle i astudio dau bwnc gwahanol yn y brifysgol. Os mai hanes yw eich diddordeb pennaf, bydd ein cynlluniau anrhydedd sengl yn eich helpu i feithrin dealltwriaeth soffistigedig o’r gorffennol. Wrth astudio am anrhydedd sengl fe gewch y cyfle yn eich blwyddyn olaf i gynnal astudiaeth fanwl o gyfnodau a mudiadau hanesyddol. Pwrpas y patrwm hyblyg hwn o gynlluniau gradd yw cynnig cwrs gradd i chi a fydd yn cwrdd â’ch gofynion.

Clichiwch yma i weld graddau sy’n cyfuno pwnc gyda’r Adran Hanes a Hanes gyda phwnc arall

Dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg

Mae gan yr Adran ymrywmiad cryf i ddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg, ac fe gynigir nifer o gyrsiau yn rhannol neu yn gyfan gwbl trwy'r Gymraeg. Mae ystod eang o fodiwlau ar gael lle y cynhelir yr holl ddysgu yn y Gymraeg, er enghraifft modiwlau yn hanes Cymru o gyfnod Glyndŵr hyd at yr ugeinfed ganrif, ac hefyd ar agweddau ar hanes Prydain fodern, America, hanes rhyfel a'r cyfryngau, gwyddoniaeth, menywod a chrefydd. Yn ogystal, mae gan fyfyrwyr yr hawl i gyflwyno gwaith ysgrifenedig ac i sefyll arholiadau yn Gymraeg ar fodiwlau cyfrwng-Saesneg os dymunant. Mae rhwydd hynt i fyfyrwyr gyfuno modiwlau cyfrwng-Cymraeg a chyfrwng-Saesneg o fewn eu cynllun gradd.

Gyrfaoedd

Bydd graddedigion Hanes wedi dysgu sut i feddwl yn annibynnol, sut i ddadansoddi’n feirniadol, ac i ysgrifennu’n glir. Mae cyflogwyr yn rhoi bri mawr ar sgiliau ymchwil, dehongli a chyfathrebu. Mae llawer o’n myfyrwyr yn dilyn gyrfa sydd â chysylltiad uniongyrchol â Hanes, megis dysgu, gwaith ar archifau, a rheoli amgueddfeydd, ond bydd y mwyafrif ohonynt yn mynd i feysydd mor amrywiol â chyfrifeg, bancio, hysbysebu, rheoli mân-werthu, cysylltiadau cyhoeddus, y diwydiant cyfrifiaduron, gweinyddiaeth ysbytai, llywodraeth leol, yr heddlu, gwaith cymdeithasol, newyddiaduraeth, a’r cyfryngau.

Amy Groves (not Ceri Phillips) Ceri Phillips BA Hanes a Hanes Cymru Llanrwst

Des i yma ar ddiwrnod agored a syrthiais mewn cariad gyda’r lle a’i awyrgylch, felly penderfynais ddod yma i astudio. Cefais ysgoloriaeth i ddod yma, a oedd hefyd yn help mawr.

Roedd yn hawdd i mi setlo i mewn yma. Gan ei bod hi’n dre mor fach mae popeth yn agos at ei gilydd ac mae’n llawn myfyrwyr. Mae yma awyrgylch cartrefol, a dyw hi ddim yn cymryd llawer o amser i chi wneud ffrindiau.

Mae’r Adran Hanes a Hanes Cymru yn wych. Mae’n hawdd cyfathrebu â staff yr adran ac maent wastad yna i chi os oes gennych unrhyw broblemau.

Gan fy mod yn astudio Hanes Cymru mae’r Llyfrgell Genedlaethol yn ddefnyddiol iawn - mae pob un llyfr ar gael gan ei bod yn llyfrgell hawlfraint.

Dwi’n aelod o Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth. Mae yna ddigon o gymdeithasau yma, mae’n wych. Wrth fod yn aelod o’r cymdeithasau rydych yn cymysgu â myfyrwyr eraill.

Yr hyn dwi’n ei hoffi fwyaf am Aber ydy’r bywyd cymdeithasol, awyrgylch cynnes y dre, a’r ffaith fod popeth yn agos at ei gilydd. Yr unig beth dwi ddim yn ei hoffi yw’r allt!

Byddwn yn sicr yn argymell i eraill astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth. Dyma’r profiad gorau gewch chi!