Hanes Economaidd a Chymdeithasol
V390 - 3 blynedd - Hanes a Hanes Economaidd a Chymdeithasol Anrhydedd Sengl
V300 – 3 blynedd - Hanes Economaidd a Chymdeithasol Prif Bwnc
Hanes Economaidd a Chymdeithasol
Ceir hanes hir o newid yn y gymdeithas ac yn yr economi, ac mae'n trafod bywydau'r mawrion a'r werin fel ei gilydd. Cynlluniwyd y cynlluniau gradd hyn i'r myfyrwyr hynny sydd eisiau dilyn eu diddordeb mewn hanes yn gyffredinol ond sydd hefyd am ganolbwyntio ar agweddau cymdeithasol ac economaidd ar y gorffennol.
Mae Hanes Economaidd a Chymdeithasol hefyd ar gael mewn cyfuniadau anrhydedd cyfun.
Ers rhai blynyddoedd mae haneswyr wedi dangos diddordeb i feithrin dealltwriaeth fwy cynhwysfawr o ddatblygiadau hanesyddol. Nid yw llawer ohonynt yn fodlon bellach â ffocws cul ar hanes fel pasiant – cymeriadau cryf, rhyfeloedd neu wleidyddiaeth uwch – neu adroddiadau meintiol sych am sefydliadau ac economïau. Cydnabyddir fod yna hanes cyfoethog sy’n cwmpasu newidiadau mewn cymdeithas ac economi; hanes sy’n cyffwrdd â bywydau’r mawrion a’r distadl fel ei gilydd; hanes sydd yr un mor bwysig er mwyn deall cymhlethdodau’r byd o’n cwmpas. Mae’r hanes hwn yn golygu ymrwymiad heriol ond gwerthfawr, gydag ystod cynyddol o ddulliau a thrafodaethau. Mae cynllun gradd hwn ei gynllunio i fyfyrwyr sydd eisiau dilyn a datblygu eu diddordebau mewn hanes cyffredinol, ond sydd hefyd eisiau canolbwyntio ar agweddau cymdeithasol ac economaidd am y gorffennol. Mae strwythur y cynllun gradd yn cynnig i chi’r cyfle i ddewis o ystod eang o fodiwlau, dros sawl maes a ddysgir yn yr adran hanes, tra’i fod, ar yr un pryd, yn manteisio ar wybodaeth arbenigol staff sydd ag arbenigedd mewn agweddau o hanes cymdeithasol ac economaidd.
Hanes Economaidd a Chymdeithasol Blwyddyn 1
Fel myfyriwr Hanes Economaidd a Chymdeithasol byddwch yn rhannu eich amser rhwng y ddwy ddisgyblaeth.
Mae angen i bob myfyrwyr gymryd cyflwyniad craidd i fodiwlau Hanes er mwyn hwyluso’r newid i fyfyrwyr israddedig. Er mwyn addasu eich gradd i’ch diddordebau bydd cyfle i chi ddewis pump modiwl allan o’r amrywiaeth o fodiwlau Ewropeaidd. Enghreifftiau o’r modiwlau a gynigir;
• The Global Economy since 1850
• The Making of Modern France, 1730 - 1914
• Post-War Britain: From Baby Bloomers to Blair
Mae gweddill y modiwlau yn cael eu gymryd allan o’r amrywiaeth eang sydd gan yr Adran, gan gynnwys;
• The Rise and Fall of the Soviet Union
• Cardle to Grave? Welfare and Society in Modern Britain
• Soilders, Saints and Serfs: England, 1042 - 1154
• The Making of the American Nation, 1783 - 2000
Hanes Economaidd a Chymdeithasol Blwyddyn 2 a 3
Mae’r adran yn cynnig amrywiaeth o fodiwlau yn yr ail a thrydedd flwyddyn er mwyn ehangu ar yr egwyddorion a ddysgoch yn y flwyddyn gyntaf.
Mi fydd myfyrwyr Hanes Economaidd a Chymdeithasol yn gwneud dewis o ystod o fodiwlau perthnasol, er enghraifft;
• Manners and Misdemeanours: Polite Society in Eighteenth Century England
• History in Cartoons: Studying Georgian Satirical Prints
• Sports, Leisure and Popular Culture in Britain since 1850
• Immigration, Race and Britishness in Modern Britain
• Paris in Turmoil, 1830 - 1914
Mae yna fodiwl craidd, Haneswyr ac Ysgrifennu Hanes er mwyn dangos sut mae’r ystyr, y dechneg a’r ffordd o ysgrifennu Hanes wedi newid ar hyd yr amser.
Hanes Economaidd a Chymdeithasol Traethawd Estynedig
Mae’r gradd yn cyrraedd ei uchafbwynt gyda traethawd estynedig lle fydd yna gyfle i chi neud gwaith ymchwil ar ardal o’ch dewis yn y maes. Dyma enghreifftiau o destunau traethodau estynedig blaenorol:
• Female Education in Tudor and Stuart England
• May the Nation never be Purshased or Bribed by its own Money: The Economy of Ireland 1707 - 1801
• Jonathan Swift and Consumer Culture
• What impact did the coming of the railway to Aberystwyth have upon it as a seaside town and tourist resort
• Far behind the Picket Lines: How did the 1984- 85 miners’ stike affect the lives of Yorkshire miners and their families?