Hanes Ewropeaidd


V220 - 3 blynedd

Hanes Ewropeaidd

Os mai yn Ewrop a’i pherthynas ag Ynysoedd Prydain y mae eich diddordeb, hwn yw’r cynllun gradd i chi. Mae’n cynnig amrywiaeth mawr o fodiwlau sy’n darparu triniaeth gymharol o’r cyfandir yn ogystal ag astudio gwledydd unigol. Cynigir amrywiaeth gronolegol trwy fodiwlau sy’n trafod cyfnodau, o amser y Rhufeiniaid ym Mhrydain ac Ewrop y Barbariaid i’r cyfnod modern. Cynigir hefyd amrywiaeth o themâu trwy gyfoeth o fodiwlau ar bynciau megis heintiau a’u heffaith (e.e. y Pla Du), datblygiad llythrennedd a’r cyfryngau, hanes deallusol (yr Ymoleuo), diwydiannu a threfoli, chwyldro, rhyfeloedd yr ugeinfed ganrif, systemau gwleidyddol totalitaraidd (Rwsia Sofietaidd ac Almaen y Natsïaid) a’r Holocôst. Mae'r hawl gennych hefyd i astudio modiwlau sy’n trafod hanes America, Prydain a Chymru.

Cwrs anrhydedd sengl yw hwn i fyfyrwyr sydd eisiau arbenigo yn hanes Ewrop a pherthynas y cyfandir ehangach ag Ynysoedd Prydain yn benodol. Mae’r rhaglen yn darparu ichi’r cyfle i astudio agweddau gwahanol ar hanes Ewropeaidd. Mae’r dewis eang o fodiwlau yn rhoi nid yn unig gyfle i chi astudio hanes gwledydd Ewropeaidd mewn cyfnodau gwahanol ond hefyd amrywiaeth, a meithrin dealltwriaeth unigryw o’r ffordd y datblygodd hanes y cyfandir a’i bobl o gyfnod y Rhufeiniaid hyd y presennol. Mae’r rhaglen yn manteisio’n llawn ar ehangder arbenigedd hanesyddol yr Adran ym maes hanes Ewrop. Byddwch yn cael eich dysgu gan arbenigwyr sy’n adnabyddus ledled y byd yn ei meysydd, sy’n cynnwys Prydain, Rufeinig, Ewrop y Barbariaid, Ffrainc y chwyldro neu’r Almaen Natsïaidd.

Hanes Ewropeaidd Blwyddyn 1

Mae angen i bob myfyrwyr gymryd cyflwyniad craidd i fodiwlau Hanes er mwyn hwyluso’r newid i fyfyrwyr israddedig. Er mwyn addasu eich gradd i’ch diddordebau bydd cyfle i chi ddewis pump modiwl allan o’r amrywiaeth o fodiwlau Ewropeaidd. Enghreifftiau o’r modiwlau a gynigir;

• The Rise and Fall of the Soviet Union
• Barbarain Europe
• The Making of Modern France, 1730 - 1914
• Early Medieval Germany: The Making of the First Reich
• Nationalism, Totalitarianism and Democratization: Czechoslovakia, 1945 - 1993

Hanes Ewropeaidd Blwyddyn 2 a 3

Mae’r adran yn cynnig amrywiaeth o fodiwlau yn yr ail a’r drydedd flwyddyn er mwyn ehangu ar yr egwyddorion a ddysgoch yn y flwyddyn gyntaf.

Mi fydd myfyrwyr Hanes Ewropeaidd yn gwneud dewis o ystod o fodiwlau perthnasol, er enghraifft;

• Myth and Society in the Viking Age
• The Russian Revolution
• 1848 in France
• Mass Politics in Modern Europe, 1789 - 1945
• The Third Reich
• The Social and Economic History of Early Modern Europe
• The Holocaust

Hanes Ewropeaidd Traethawd Estynedig

Mae’r gradd yn cyrraedd ei uchafbwynt gyda thraethawd estynedig lle bydd cyfle i chi neud gwaith ymchwil ar ardal o’ch dewis yn y maes. Dyma enghreifftiau o destunau traethodau estynedig blaenorol:

• Nazi Doctors’ Experiments: An Analysis of the Ethical Use of Data
• Why did Operation Market Garden fail?
• What was unique about the Holocaust? The evolution of a Historical Debate
• How important was the Irish conscription crisis on Sinn Fein’s victory 1918?

Astudio Tramor neu Dysgu Iaith gyda Gradd Hanes Ewropeaidd

Ydych chi am deithio neu dysgu iaith newydd? Mae’r adran wedi creu cysylltiadau gyda nifer o Brifysgolion ar draws y môr sy’n darparu cyfleoedd arbennig i fyfyrwyr Hanes Ewropeaidd i ymgolli mewn diwylliant hanesyddol. Ar hyn o bryd mae cysylltiadau gyda ni â’r Prifysgolion canlynol;

• America ( nifer o Brifysgolion)
• Almaen ( Darmstadt a Göttingen)
• Hwngari ( Budapest )
• Czech Republic ( Prague )

Yn ychwanegol mae cyfle i chi astudio nifer o ieithoedd Ewropeaidd yn Aberystwyth ar y cyd, er enghraifft Ffrangeg, Almaeneg, Sbaeneg  ac Eidaleg.

Gwybodaeth y Cynllun Astudio

Mae wybodaeth ar y tudalen hon yn cyfeirio i'r cynlluniau sy'n isod:

Set Gwybodaeth Allweddol