Hanes a’r Cyfryngau


Q523 - 3 blynedd

Hanes a’r Cyfryngau

Trwy astudio Hanes a’r Cyfryngau fel Anrhydedd Sengl, bydd myfyrwyr yn cymhathu dwy agwedd o astudio’r gorffennol a’r presennol mewn cynllun rhyngddisgyblaethol. Bydd hyn yn caniatáu i’r myfyrwyr adeiladu arbenigedd ym meysydd Hanes ac astudiaethau’r Cyfryngau, gan ddatblygu diddordeb a meithrin sgiliau addas i’r ddwy ddisgyblaeth a gyfunir yn y cyllun. Fel rhan o’u hastudiaethau, anogir myfyrwyr i ystyried agweddau megis sut y cyflwynir hanes ar y teledu ac yn y cyfryngau’n gyffredinol. Gall myfyrwyr sy’n astudio ar gyfer y radd hon hefyd fanteisio ar adnoddau amhrisiadwy archif sain a theledu’r Llyfrgell Genedlaethol, yn enwedig wrth ymchwilio ar gyfer eu traethodau hir. Dysgir y cwrs yma'n gyfan gwbl drwy'r Gymraeg.

Mae’r cynllun gradd arloesol hwn wedi ei gynllunio i fyfyrwyr sydd eisiau dilyn a datblygu eu diddordebau mewn Hanes ac astudiaethau’r cyfryngau. Mae iddo strwythur hyblyg, ac fe’i dysgir gan ddwy adran, Hanes a Hanes Cymru ac Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu. Trwy hyn cewch gyfle i chi astudio’r ddau bwnc ar wahân ac mewn cyd-destun rhyngddisgyblaethol, gan ddatblygu eich gwybodaeth hanesyddol a’ch dealltwriaeth ymarferol a damcaniaethol o’r cyfryngau torfol. Mae’r cynllun gradd yma’n elwa o arbenigedd staff dros ddwy adran ym meysydd y cyfryngau a hanes, yn ogystal ag adnoddau Archif Genedlaethol Sgrîn a Sain Cymru, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Hanes a’r Cyfryngau Blwyddyn 1

Fel myfyriwr ar gwrs gradd Anrhydedd Sengl Hanes a’r Cyfryngau byddwch yn rhannu eich amser rhwng yr adran Hanes a Hanes Cymru a’r adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu.

Mae angen i bob myfyrwyr cymryd cyflwyniad craidd yn y ddau adran er mwyn hwyluso’r newid i fyfyrwyr israddedig. Enghreifftiau o’r modiwlau a gynigir gan yr Adran Hanes a Hanes Cymru;

• Hanes ar y Teledu
• Gwrando ar Hanes: y mudiad hwaliau sifil yn America
• The History of Cartoons:Studying Georgian Satirical Prints
• Early Modernity in Film

Enghreifftiau o’r modiwlau a gynigir gan yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu;

• Ffilmiau Hollywood ac Ewrop
• Darlledu a’r Genedl
• Traddodiad Dogfen
• Dadansoddi Teledu

Hanes a’r Cyfryngau Blwyddyn 2 a 3

 Mae’r ddau adran yn cynnig amrywiaeth o fodiwlau yn yr ail a thrydedd flwyddyn er mwyn ehangu ar yr egwyddorion a ddysgoch yn y flwyddyn gyntaf.

Yn yr adran Hanes a Hanes Cymru cewch ddewis o blith ystod eang o fodiwlau a gynigir. Enghreifftiau o fodiwlau;

• Media and Society in 20th Century Britain
• Studying Cuban History through Film
• Images of Stalinism

Mae gweddill y modiwlau yn cael eu gymryd allan o’r amrywiaeth eang sydd gan yr adran, gan gynnwys;

• Classic Hollywood Cinema
• British Film History
• Contemporary Television Drama
• Representations of the Holocaust on Film

Gwybodaeth y Cynllun Astudio

Mae wybodaeth ar y tudalen hon yn cyfeirio i'r cynlluniau sy'n isod:

Set Gwybodaeth Allweddol